Skip to content

Ysgrifenedig - Diweddariad ar Gynghorau Cymuned a Thref

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yn ddiweddar, cyflwynais y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol (LCO) arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Un o’i brif ddibenion yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu er mwyn cryfhau rôl cynghorau cymuned a thref.

 

Mae hon yn garreg filltir bwysig ym mholisi Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer datblygu cynghorau cymuned a thref.  Yn amodol ar basio’r LCO yn llwyddiannus, mae’n bosibl y gellid gwella rôl, swyddogaethau a chwmpas gweithgareddau cynghorau cymuned.  Yn hynny o beth, rwyf o’r farn ei fod yn amser da rhoi diweddariad i’r Aelodau ar sefyllfa llywodraeth leol ar lawr gwlad.

 

Er hwylustod, dylid cymryd bod cyfeiriadau yn y datganiad hwn at gynghorau cymuned yn golygu cynghorau cymuned a chynghorau tref ill dau.

 

Astudiaeth Aberystwyth 

 

Pan gyhoeddwyd astudiaeth ymchwil Aberystwyth ym mis Awst 2003, nododd rhagair y cyhoeddiad fod cynghorau cymuned wedi bod yn bartneriaid mud mewn llywodraeth leol ers tro byd.  Yr astudiaeth hon, a ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, oedd yr adolygiad cynhwysfawr cyntaf o waith cynghorau cymuned yng Nghymru.  Ers hynny, mae ymateb Llywodraeth y Cynulliad, ym mis Awst 2004, i’r argymhellion a wnaed yn yr astudiaeth wedi llywio ein polisïau yn y sector.

 

Nododd Prifysgol Aberystwyth ei bod “o’r pwys pennaf, er mwyn datblygu rôl cynghorau cymuned a thref yn y dyfodol, y rhoddir hyfforddiant mwy cynhwysfawr i glercod ac aelodau cynghorau.”  Cydnabu Llywodraeth y Cynulliad bwysigrwydd yr argymhelliad hwn, ac ymatebodd yn gyflym iawn trwy baratoi Strategaeth Hyfforddiant Genedlaethol sy’n parhau ar waith ar y cyd ag aelodau’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Hyfforddiant, sef Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol a Phrifysgolion Aberystwyth a Chaerloyw. Hyd yn hyn, mae 94 pecyn o ‘Gweithio gyda’ch Cyngor’ wedi’u prynu gan glercod, ac mae tua 199 o gynghorwyr wedi mynychu’r modiwlau hyfforddi ar gyfer cynghorwyr cymuned.

 

Eleni, rwyf wedi cytuno i ariannu bwrsarïau i’w gweinyddu gan Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.  Mae’r bwrsarïau hyn wedi’u dylunio i annog cynghorau llai o faint i gymryd rhan mewn hyfforddiant.

 

 

 

Rôl gynrychioladol

 

Mae ffocws ac ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad ac Un Llais Cymru i’r sector yn ystod y chwe blynedd diwethaf wedi gwella’i allu a’i hyder. Nid yw cynghorau cymuned mwyach yn haenau o lywodraeth leol nad oes fawr ddim yn hysbys amdanynt, fel y crybwyllir yn yr astudiaeth ymchwil. Erbyn hyn, mae llawer ohonynt yn awyddus i gymryd rhan ac i gynrychioli eu cymunedau ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a phartneriaethau eraill.

 

Yn ddiweddar, mae swyddogaeth gynrychioladol cynghorau cymuned wedi cael ei chryfhau trwy ddeddfwriaeth arall. Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 erbyn hyn yn rhoi dyletswydd ar gynghorau cymuned i gymryd rhan yn y broses gynllunio cymunedol a’i gynorthwyo yn eu hardaloedd hwy.

Bydd ein hymrwymiad i estyn y Pŵer Lles i gynghorau cymuned, yr ydym yn ei geisio trwy’r gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer llywodraeth leol, yn cynyddu eu gallu i gydweithio â’u hawdurdodau unedol er mwyn hyrwyddo ansawdd bywyd yn eu cymunedau.

 

Y berthynas ag awdurdodau unedol 

 

Yn achos y rhan fwyaf o gynghorau cymuned, y berthynas rhyngddynt a’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol lleol yw’r berthynas allanol bwysicaf. Ym mis Gorffennaf 2008, cyhoeddwyd canllawiau ynglŷn â siarteri ac adeiladu perthynas - “Cymuned ar y Cyd” - i’n holl bartneriaid ym maes llywodraeth leol. Rwy’n falch o nodi y cafwyd ymateb cadarnhaol i’r canllawiau hyn gan awdurdodau unedol a chynghorau cymuned.  Ym mis Medi eleni, mynychais ddigwyddiad llwyddiannus iawn i ail-lansio siarter Torfaen, un o’r cyntaf i’w seilio ar y canllawiau newydd, ac rwy’n gwybod bod cynnydd yn cael ei wneud ledled Cymru. Rwyf o’r farn y bydd y dirwasgiad economaidd presennol yn galw am lefel uchel o gydweithredu a phragmatiaeth.

 

Datblygu cymunedol

 

Ychydig wythnosau yn ôl, fel y prif siaradwr yng nghynhadledd flynyddol Un Llais Cymru ym Mhontrhydfendigaid, traddodais araith ar “Datblygu’ch Cymuned”.  Sefydlwyd Un Llais Cymru lai na chwe blynedd yn ôl, felly pleser mawr oedd cael mynychu cynhadledd a gynhaliwyd mewn ffordd mor broffesiynol gyda chymaint yn bresennol - dros ddau gant o gynrychiolwyr i gyd.

 

Mae llawer o gynghorau cymuned yn chwarae rhan weithredol mewn datblygu cymunedol.  Mae prosiect Penllyn yng Ngwynedd, a gyflwynwyd yn ystod y gynhadledd, yn enghraifft dda o ymgysylltu â’r gymuned wrth lunio dulliau o gyflwyno gwasanaethau llywodraeth leol.

 

Mae lle hefyd i gynghorau cymuned gael eu cynrychioli mewn Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.  Yn sgil ffactorau fel yr hinsawdd economaidd heriol a’r cynnydd mewn mudo cymdeithasol, rydym wrthi’n datblygu Strategaeth Cydlyniant Cymunedol. Mae’r cynghorau cymuned mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod i wybod am faterion lleol ac i helpu i fonitro tensiynau.

 

Un Llais Cymru

 

Erbyn hyn, mae Un Llais Cymru wedi’i hen sefydlu fel y corff cynrychioladol cenedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref, ac mae wedi bod yn allweddol yn y gwaith o adfywio’r sector.  Mae ei statws fel partner gwerthfawr i’r llywodraeth ac i’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi helpu i godi proffil cynghorau cymunedol. Mae’r gymdeithas yn cael ei gwahodd yn rheolaidd gan Lywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol ac amrywiol gyrff eraill, i gynrychioli buddiannau cynghorau cymuned. Fel sefydliad aelodaeth, mae’n cynnig ystod eang o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i holl anghenion sector amrywiol iawn.  Yn ystod y cyfnod economaidd heriol hwn, mae gan Un Llais Cymru ran hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi cynghorau cymuned i fod yn arloesol ac yn ddyfeisgar er lles eu cymunedau.

 

Rwy’n hyderus y bydd llwyddiant Un Llais Cymru yn parhau, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynghorau cymuned yn parhau yn eu hymdrechion i wella ansawdd bywyd yn eu cymunedau.