Skip to content

Ysgrifenedig - Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Y Newyddion Diweddaraf ar Gerrig Milltir a Thargedau Tlodi Plant yng Nghymru 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae ystadegau wedi’u cyhoeddi heddiw ar wefan ‘StatsCymru’ Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion sy’n monitro’r cynnydd o’i gymharu â’n targedau tlodi plant sydd wedi’u hamlinellu yn “Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Mesur Llwyddiant”, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2006.   

 

Rwy’n falch o gyhoeddi, er gwaethaf effeithiau’r dirwasgiad, bod yr ystadegau’n dangos gwelliant yn hanner y dangosyddion y mae gennym digon o ddata ar eu cyfer i wneud asesiad. 

 

Bu’r prif welliannau ym maes addysg, gyda chynnydd yn nifer y bobl ifanc yn ogystal ag oedolion sy’n ennill cymwysterau.  Mae’r gwelliannau eraill yn cynnwys lleihad yn nifer y bobl sy’n byw mewn tai gwely a brecwast a llety dros dro, a lleihad yn nifer y plant sy’n cael eu lladd neu eu niweidio’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd. 

 

Dengys hyn effeithiau’r camau yr ydym ni a’n partneriaid wedi’u cymryd i fynd i’r afael â thlodi profiad a phrinder cyfleoedd, ac i wella bywydau’r plant mwyaf difreintiedig. 

 

Pan nad yw’r dangosyddion yn dangos gwelliant, a bod digon o wybodaeth ar gael i wneud asesiad, dim ond ychydig o newid fu, neu ddim o gwbl, ym mhob achos ar wahân i un.  Yr unig ddangosydd sy’n dangos dirywiad yw nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd sydd heb waith.  Mae hwn yn dangos cynnydd  yn nifer y plant sy’n byw ar aelwydydd sydd heb waith.  Yn anffodus, nid yw hyn yn syndod, gan y byddai rhywun yn disgwyl i’r dangosydd economaidd hwn berfformio’n waeth yn ystod dirwasgiad nag y byddai yn ystod cyfnod o dwf economaidd.  Rydym yn ymwybodol fod gwaith yn amddiffyniad cryf yn erbyn risgiau tlodi, yn enwedig tlodi difrifol ymhlith plant, ac mae hyn yn cadarnhau unwaith eto yr angen i ni barhau i weithredu i fynd i’r afael â bod heb waith yng Nghymru. 

 

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ar bolisïau cyflogaeth, a datblygu ein hystod o bolisïau ‘Cymru yn unig’, megis ProAct, ReAct, Yn Awyddus i Weithio a Genesis, fydd yn ategu’r ymdrechion hyn wrth wynebu’r dirwasgiad. 

 

Rydym yn ymwybodol na ddylem fod yn hunanfodlon.  Mae dileu tlodi a gwella cyfleoedd bywyd ein plant ar frig rhestr blaenoriaethau Cabinet Llywodraeth y Cynulliad, a’m blaenoriaethau innau, yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.  

 

Ar 10 Tachwedd, pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru).  Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth statudol ar gyfer cryfhau ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes tlodi plant, yn rhoi mwy o gefnogaeth i deuluoedd lle y gallai plant fod mewn perygl, ac yn cryfhau gorfodaeth reoleiddiol mewn lleoliadau gofal plant. 

 

Bydd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cymru, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, gyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru.  Mae’n adlewyrchu ein dealltwriaeth y bydd angen inni fanteisio ar arbenigedd a phrofiad ystod eang o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn cyflymu’r broses.  Ar 5 Hydref 2009, cytunodd aelodau o Bwyllgor Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar y fframwaith a gynigwyd ar gyfer y strategaeth tlodi plant newydd, a oedd yn ceisio nodi’r meysydd polisi a fydd yn arbennig o bwysig i’n strategaeth newydd ar dlodi plant. 

 

Elfen ganolog o bolisi tlodi plant Llywodraeth y  Cynulliad yw gwella’r canlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn teuluoedd difreintiedig yng Nghymru.  Bydd adeiladu’r strategaeth newydd o amgylch y 13 o amcanion cyffredinol sy’n cael eu hamlinellu yn y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) arfaethedig a saith nod craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn hwyluso’r broses o fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau incwm tlodi trwy ystod o bolisïau a rhaglenni trawsbynciol.  Bydd y strategaeth yn destun ymgynghoriad ddechrau 2010.  

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i fod yn ymrwymedig i fesur cynnydd yn erbyn y targedau tlodi heriol yr ydym wedi’u gosod i ni ein hunain.  Trwy  sefydlu bwletin Ystadegau Cymru a chyhoeddi Monitor Lles Plant a Phobl  Ifanc Cymru, rydym bellach wedi sefydlu trefniadau cadarn i adrodd ar gynnydd. Fel rhan o’i ddatblygiad dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ystyried sut y mae’r targedau tlodi plant sydd gennym yn cyd-fynd â’n strategaeth newydd ar dlodi plant. 

 

Hefyd, mae Fframwaith Dulliau Mesur Canlyniadau yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y Cynulliad i ddarparu cyfres o fesurau ar gyfer pob un o’r Saith Nod Craidd a fydd yn sylfaen i Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc.  Bydd y fframwaith yn cynnwys dangosyddion cenedlaethol a lleol. 

 

Mae’r Fframwaith yn cael ei gynllunio i gynnwys dangosyddion hefyd a bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i adrodd ar y 13 o Amcanion Cyffredinol sy’n cael eu hamlinellu yn y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru).