Skip to content

Ysgrifenedig - Dyfodol Cynghorau Iechyd Cymuned (CICau) yng Nghymru yn sgil cynigion y CICau a’r Ymgynghoriad ar ddiwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rwy’n parhau’n argyhoeddedig bod yn rhaid inni gadw’r Cynghorau Iechyd Cymuned (CICau) yng Nghymru er mwyn sicrhau bod ein sefydliadau GIG newydd a mwy o faint yn ymwybodol o farn eu cymunedau lleol am y gwasanaeth iechyd. Rwy’n cydnabod y rhan bwysig y mae CICau yn ei chwarae, ac yn ymwybodol o’r problemau ariannol maen nhw’n eu hwynebu. Yn sgil hynny, eleni rwy’n darparu £164,000 yn ychwanegol i’r CICau er mwyn caniatáu iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Yn ogystal â hynny, fel rhan o brosiect Gweithio i Wella/Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG, fy mwriad yw darparu £195,000 yn ychwanegol i gefnogi a datblygu’r gwasanaeth eirioli a ddarperir gan y CICau ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

 

Yn y cyd-destun hwn, rwyf hefyd wedi ystyried pa drefniadau gwaith yw’r rhai mwyaf priodol ar gyfer y CICau.  Mae addasrwydd strwythur presennol y CICau ar gyfer y GIG yng Nghymru ar ei newydd wedd wedi bod yn destun cryn drafodaeth yn ystod y misoedd diwethaf, ac rwyf wedi ymgynghori yn ei gylch ddwywaith erbyn hyn.  Gwahoddais gynigion ar wahân hefyd gan y CICau eu hunain, felly rhoddwyd digon o gyfle i bawb ddweud eu dweud. 

 

Er mwyn inni allu symud ymlaen, mae’r amser wedi dod i weithredu mewn ffordd a fydd yn dod â’r budd mwyaf i bobl leol, yn sicrhau cydweithio effeithiol mewn partneriaeth, ac yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau.  Er mwyn cyflawni hyn, rwy’n bwriadu newid strwythur presennol y CICau o 1 Ebrill 2010 ymlaen. 

 

Ar 30 Ionawr 2009, lansiais yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gynigion i ddiwygio’r CICau. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 24 Ebrill, a daeth 319 o ymatebion ysgrifenedig i law. Am nad oedd yr ymatebion hynny’n cynnwys unrhyw gonsensws ar ddyfodol y CICau, ysgrifennais at y CICau eu hunain ar 14 Mai i wahodd eu cynigion hwy ar sut i gydweithio yn y dyfodol. Ar 15 Mehefin 2009, lansiais ail bapur ymgynghori a oedd yn ymdrin â’r materion y cytunwyd arnynt, yn fras, yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol. Daeth yr ail ymgynghoriad i ben ar 26 Gorffennaf, ac erbyn hynny roedd 15 ymateb wedi dod i law, a’r rhan fwyaf o’r rheini’n cefnogi’r newidiadau arfaethedig. 

 

Daeth cynigion y CICau, y gofynnais amdanynt mewn llythyr dyddiedig 14 Mai, i law erbyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf, a byddaf yn cyhoeddi’r ymatebion hyn ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig nad oedd y rhan fwyaf o’r CICau wedi dod i gytundeb a’u bod wedi anfon eu hymatebion ataf ar wahân.  Mae’r diffyg consensws hwn yn achosi pryder imi ar gyfer y dyfodol, a hynny mewn perthynas â threfniadau gwaith rhwng y CICau eu hunain a rhwng y CICau a’r GIG.

 

Ar ôl ystyried y sefyllfa, fy mwriad erbyn hyn yw ailstrwythuro’r CICau yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio mwy effeithiol mewn partneriaethau ac i ddod â’r budd mwyaf posibl i bobl leol.   O 1 Ebrill 2010, rwy’n bwriadu dileu dau ar bymtheg o’r pedwar ar bymtheg CIC presennol a chreu chwe CIC newydd, un ym mhob un o ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol newydd.  Cefnogir y rhain gan un tîm gweinyddol integredig.  Ni fydd y trefniadau hyn yn gymwys i Bowys, lle bydd y ddau CIC presennol ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed ac ar gyfer Maldwyn yn parhau am y tro. 

 

Ar ôl gwrando ar y pryderon ynghylch creu Cymdeithasau Ardal, a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf, fy mwriad yw i bob un o’r CICau newydd fod â Phwyllgorau Lleol. Bydd aelodau’r rhain yn aelodau llawn o’r CIC.  Bydd gan bob Pwyllgor Lleol ddeuddeg aelod, a bydd ffiniau pob Pwyllgor Lleol yn gydffiniol â’r Awdurdod Lleol cyfatebol.  Rwyf hefyd yn bwriadu i bob CIC fod â Phwyllgor Gweithredol i benderfynu sut i fynd ati i gyflawni swyddogaethau’r CIC.

 

Bydd Bwrdd CICau Cymru’n parhau, ond bydd yn cael ei wneud yn llai o faint er mwyn iddo fod yn fwy hyblyg.  Bydd Cyfarwyddwr y Bwrdd yn dod yn aelod llawn er mwyn iddi allu cyfrannu i raddau mwy mewn penderfyniadau.  

 

Fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad arall byrrach ar y cynigion hyn, a byddaf yn cyhoeddi’r dogfennau ymgynghori a’r ddeddfwriaeth ddrafft maes o law.