Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi Penderfyniad Terfynol (terfynau prisiau terfynol) ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth 2010 - 2015

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cafodd y "Penderfyniad Terfynol" ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth 2010 - 2015 ei gyhoeddi heddiw (26 Tachwedd 2009) gan y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr, sef rheolydd economaidd y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr.

 

Mae'r penderfyniad terfynol yn pennu'r prisiau uchaf y caiff y cwmnïau dŵr ofyn i'w cwsmeriaid eu talu am eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

 

Dyma gam olaf y broses adolygu gyfnodol y mae'r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr yn ei defnyddio i bennu terfynau prisiau ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth, yn seiliedig ar gynlluniau busnes y cwmnïau dŵr. Rhoddais wybod i chi ym mis Gorffennaf eleni am "Penderfyniad Drafft" y Swyddfa honno. Ar ôl cyhoeddi'r penderfyniad drafft, bu cyfnod o ymgynghori a thrafod rhwng y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr a'r cwmnïau dŵr er mwyn i'r partïon â buddiant allu rhoi eu sylwadau arno. Wrth bennu'r penderfyniad terfynol, bydd y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr yn ystyried unrhyw sylwadau a gwybodaeth ychwanegol sydd wedi dod i law.

 

Mae'r penderfyniad terfynol yn benllanw proses ddwy flynedd o ddatblygu cynlluniau busnes, casglu tystiolaeth, ymchwil ymhlith cwsmeriaid, a gwaith asesu a thrafod, sydd wedi cynnwys y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr, y cwmnïau dŵr, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth Prydain.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi arweiniad clir i'r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr sy'n nodi'r blaenoriaethau y dylai'r broses adolygu gyfnodol roi sylw iddynt.  Mae ein Datganiad Sefyllfa ar y Polisi Strategol ar Ddŵr, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2009, yn datgan yn glir ein hegwyddorion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau dŵr, sef sicrhau mynediad at ddŵr yfed sâff, bod yn rhaid i'r gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth bennu prisiau sy'n fforddiadwy a'u bod yn cydymffurffio â'r ymrwymiadau statudol sy'n cynnal ansawdd cyffredinol y dŵr.  

 

Ym mis Chwefror 2009, rhoddais Ganllawiau Cymdeithasol ac Amgylcheddol Statudol i'r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr. Maen nhw'n pennu blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad o ran prisiau fforddiadwy, datblygu cynaliadwy, arloesi a'n hamcanion, fel y'u nodir yn y Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru.  Mae gofyn i'r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr gadw at y canllawiau hyn wrth wneud ei dyletswyddau.

 

Dyma brif bwyntiau'r penderfyniad terfynol ar gyfer y cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru:

Dŵr Cymru 

  • Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr a charthffosiaeth cartrefi  yn gostwng mewn termau real o £404 yn 2009-10 i £374 yn 2014-15.
  •  Sef i lawr 7%.
  •  Dŵr Cymru oedd yr unig gwmni dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr i beidio ag argymell codi'u prisiau.

 Dŵr Dyffryn Dyfrdwy 

  • Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr cartrefi yn codi mewn termau real o £128 yn 2009-2010 i £130 yn 2014 – 2015.
  • Sef i fyny 2%.
  • Bydd biliau Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i fod ymhlith yr isaf o'u cymharu â'r cwmnïau eraill sy'n ymdrin â dŵr yn unig.

 

Severn Trent Water (D.S. Yn cael ei reoleiddio gan Ysgrifennydd Gwladol EFRA ond yn gweithredu yn rhannau o Gymru)

  • Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr a charthffosiaeth cartrefi  yn gostwng mewn termau real o £304 yn 2009-10 i £291 yn 2014-15.
  • Sef i lawr 4%.

 

I ddarllen penderfyniad drafft y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr yn llawn, ewch i:-

http://www.ofwat.gov.uk/