Yn Ebrill yn gynharach eleni, darperais ddatganiad ysgrifenedig i’r Aelodau ar amseroedd ymateb Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn y datganiad bu i mi ddweud, er bod cynnydd cyson wedi’i sicrhau o safbwynt perfformiad ledled Cymru, ei bod yn glir bod gwelliannau parhaus pellach yn ofynnol. Rydym yn awr saith mis ymlaen, a theimlais mai priodol fyddai imi ddarparu diweddariad am sefyllfa’r Ymddiriedolaeth wrth i ni nesáu at 2010.
O safbwynt amseroedd ymateb, rwyf yn falch ac wedi fy nghalonogi y bu gwelliant cyffredinol amlwg mewn perfformiad er diwedd Chwefror 2009. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cyrraedd y target i 65% o’r ymatebion cyntaf i alwadau Categori A gyrraedd cyn pen 8 munud yn ystod 6 o’r 8 mis er Chwefror, a sicrhawyd y lefel perfformiad uchaf ers dechrau cofnodi amseroedd ymateb ym Medi. Cyflawnwyd perfformiad o 63.9% yng Ngorffennaf a pherfformiad o 64.6% yn Awst, ac nid yw’n syndod o bosibl fod effaith ton gyntaf y ffliw moch, wedi’i theimlo ar berfformiad y gwasanaeth yn ystod y cyfnod dau fis hwn, fel gweddill y GIG ac yn wir y cyhoedd yn gyffredinol. At hynny, gwnaed y gwelliannau mewn amseroedd ymateb yn ystod cyfnod o alw mawr, ac mae hynny’n gwneud y cynnydd yn fwy nodedig fyth.
Ceir nifer o resymau am y gwelliannau a wnaed ac amlinellaf y rhain yn fyr i chi. Yn bennaf, hoffwn ganmol ymdrechion criwiau’r ambiwlans a staff yr Ymddiriedolaeth sydd wedi gweithio’n galed dros ben i sicrhau gwelliannau amlwg yn y perfformiad. Mae’n bwysig cydnabod y gwnaed hyn yn ystod cyfnod o drawsnewid pryd y cafodd staff niferus o’r Ymddiriedolaeth eu hail-hyfforddi yn Ymarferwyr Arbenigol ac yn Arweinyddion Timau Clinigol, ac maent yn awr yn chwarae rolau hanfodol ar lefel weithredol. Mewn hwb ychwanegol i weithlu’r Ymddiriedolaeth, mae 18 o dechnegwyr ac 16 o barafeddygon pellach yn awr yn gweithio yn Rhanbarth y De Ddwyrain.
Rwy’n falch o sylwi bod arweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth ar lefel y Bwrdd a’r Weithrediaeth wedi’i chryfhau yn gynharach eleni. Rwyf yn awr wedi cytuno i gryfhau’r Ymddiriedolaeth ymhellach yn Rhanbarth y De Ddwyrain drwy recriwtio aelod anweithredol ychwanegol a fydd yn dechrau yn y swydd ar ddechrau 2010. Bydd yr ychwanegiad hwn at yr Ymddiriedolaeth yn caniatáu iddi ganolbwyntio’n gynyddol ar feithrin perthnasoedd effeithiol rhwng y rheolwyr a’r staff, a sicrhau diwylliant perfformiad da yn y gwasanaeth ambiwlans. Mae’n bleser gennyf gadarnhau fy mod yn parhau i gael adroddiadau bod y cynnydd ym morál y staff wedi’i gynnal, a’i fod wedi cyfrannu at y gwelliant a sicrhawyd yn y perfformiad dros y misoedd diwethaf. Rwyf wedi cytuno gyda’r Cadeirydd y dylai Tîm Gweithredol yr Ymddiriedolaeth ganolbwyntio rhagor o’i amser ar wella perfformiad yn y De, a rhoi ymreolaeth gynyddol i reolwyr lleol yng Ngogledd Cymru er mwyn gweithio’n agosach â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau dull mwy cydlynol o ddelio â gwasanaethau gofal heb ei drefnu.
Rwyf hefyd wedi cymryd nifer o gamau i wella trosglwyddo cleifion oddi wrth griwiau’r ambiwlans i Adrannau damweiniau ac achosion brys. Sicrhawyd cynnydd sylweddol yn y maes hwn lle cafodd cydbartneriaethau eu creu rhwng y gwasanaeth ambiwlans a staff yr Adrannau damweiniau ac achosion brys, gan arwain at ostyngiad mewn oedi gormodol ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Mae fy swyddogion wedi gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth ac mae hyn wedi arwain at ganfod a datrys mwyafrif achosion sylfaenol yr amseroedd trosglwyddo gormodol. Mae hyn wedi cefnogi gwelliant mewn amseroedd ymateb ac felly wedi arwain at brofiad gwell i gleifion. Rwyf yn sylweddoli y ceir pryder o hyd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ond cefais fy sicrhau bod trefniadau wedi’u sefydlu i helpu i ddelio â’r materion hyn. Mae’r gwasanaeth yn gwbl ymwybodol o’r sialensiau y mae angen eu cyflawni dros gyfnod y gaeaf ac mae gan yr Adrannau damweiniau ac achosion brys ran amlwg i’w chwarae yn hyn. Er hynny, rwyf yn ymwybodol bod ysbytai, a’r GIG yn gyffredinol, yn wynebu cyfnod o alw mawr ar hyn o bryd o ganlyniad uniongyrchol i firws y ffliw moch.
Mae’n bleser gennyf hefyd ddweud wrthych fod nifer yr adroddiadau am ddigwyddiadau niweidiol sy’n cynnwys defnyddio cerbydau eraill y gwasanaeth brys i gludo cleifion i’r ysbyty wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn dilyn cyfnod anodd y gaeaf diwethaf. Yn wir, pedwar digwyddiad niweidiol yn unig yr adroddwyd amdanynt ym Medi a Hydref. Rwyf wedi cefnogi’r Ymddiriedolaeth yn ei chysylltiadau gyda’r Gwasanaeth Heddlu a’r Gwasanaeth Tân drwy gyfrwng y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys ac mae hyn wedi arwain at well arferion gwaith. Byddaf yn parhau i feithrin y partneriaethau hyn er mwyn dod o hyd i ateb sicr i’r broblem hon.
Cymerwyd nifer o gamau i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i gynnal y gwelliannau hyn. Mae’r gwaith i osod y System Lleoli Cerbydau Awtomatig gwerth £2.8 miliwn yn mynd rhagddo’n hwylus iawn a bydd hon yn gwella llawer ar allu’r gwasanaeth i ymateb yn gyflym. Bydd meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf yn cefnogi ein staff sy’n gweithio dan bwysau. Yn y misoedd diwethaf, rwyf hefyd wedi cymeradwyo hwb cyllid o £5 miliwn ar gyfer fflyd ambiwlans yr Ymddiriedolaeth; defnyddir yr arian hwn i brynu dros 100 o gerbydau. Dyma rai ohonynt:
31 o gerbydau ambiwlans brys;
28 o gerbydau gwasanaethau gofal i gleifion;
28 o gerbydau ymateb cyflym;
naw o gerbydau cludo rhanbarthol; a
saith o gerbydau arbenigol.
ambiwlans pediatrig newydd yn lle’r un presennol i’w leoli ym Mwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro.
Bydd y cerbydau newydd yn fwy effeithlon o ran tanwydd, yn gwella profiad cleifion ac yn cyfrannu at well amgylchedd gweithio i’r staff.
Rwyf hefyd yn falch o ddatgan bod y gwelliant sylweddol mewn perfformiad yn ardal Torfaen wedi parhau, yn enwedig ac ystyried ei hanes fel ardal broblemus. Rhaid cynnal y gwelliant hwn yn awr. Er hynny, rwy’n cydnabod y ceir o hyd lefel berfformiad annerbyniol mewn nifer fechan o ardaloedd yng Nghymru, ac mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wedi datgan yn gwbl glir wrth yr Ymddiriedolaeth fod yn rhaid gwneud gwelliannau yn gyflym yn yr ardaloedd hyn. Mae angen i dîm rheoli gweithredol a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth ddangos arweinyddiaeth amlwg a chadarn iawn yn y sefydliad. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o’m disgwyliadau wrth iddynt weithredu penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i adeiladu ar y sefydlogrwydd presennol o safbwynt gwella profiad cleifion ledled Cymru.