Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygu’r Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai

Lansiwyd y rhaglen Cefnogi Pobl ar 1 Ebrill 2003, gyda’r nod o alluogi pobl agored i niwed i ennill a chadw’u hannibyniaeth trwy aros yn eu cartref eu hunain. Mae’r rhaglen, trwy fframwaith polisi a chyllido integredig, yn anelu i ddarparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai sydd o ansawdd uchel, yn gost effeithiol ac yn cydategu’r gwasanaethau gofal sy’n bodoli eisoes.

 

Ym mis Medi 2006, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adroddiad o’r enw ‘Costau a Manteision y Rhaglen Cefnogi Pobl’. Roedd y ddogfen hon yn mesur budd y rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru, yn enwedig i bwrs y wlad. Mae casgliadau’r adroddiad hwn eisoes yn hysbys o fewn y Cynulliad a’r gymuned o ddarparwyr cymorth cysylltiedig â thai. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn gwneud cyfraniad sylweddol i bwrs y wlad, ac amcangyfrifir ei bod yn arbed £1.68 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai.

 

Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi ers tair blynedd bellach, a’r rhaglen yn weithredol ers dros chwe blynedd. Yn yr ansicrwydd economaidd sydd ohoni, mae’r gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai a ddarperir gan Cefnogi Pobl yn bwysicach nag erioed. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru’n Un i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl dros bedair blynedd tymor y Cynulliad. Rwyf wedi cyflawni’r ymrwymiad hwn drwy gynyddu’r gyllideb 6.6% dros y pedair blynedd diwethaf. Credaf felly ei bod yn bryd inni fyfyrio ynglŷn â llwyddiannau’r rhaglen a phennu’r meysydd lle gallwn wella lefel ac effeithlonrwydd y gwasanaeth i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru.

 

Yn unol â’m haddewid i gydweithio’n agos â’r holl bartneriaid allweddol yn y sector tai, rwyf wedi gofyn i grŵp o ddarparwyr gwasanaethau, CLlLC a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru i bennu hyd a lled y brîff ar gyfer adolygu’r cymorth cysylltiedig â thai.

 

Rwy’n bwriadu i’r adolygiad hwn fod yn annibynnol, tryloyw a chynhwysfawr, ac iddo ystyried tystiolaeth y rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau ar draws Cymru. Bydd yr adolygiad yn sicrhau ein bod yn cael gwasanaethau cysylltiedig â thai sydd:-

 

·        Wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol

·        O ansawdd uchel

·        Yn arddangos gwerth am arian

 

Rwy’n disgwyl y bydd y tîm adolygu wedi’u comisiynu erbyn diwedd 2009 ac y bydd yr adroddiad terfynol ar gael yn 2010. Byddaf yn hysbysu’r Aelodau yn rheolaidd ynghylch hynt yr Adolygiad.