Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i adrodd ynghylch gwaith datblygu’r cynllun iechyd gwledig, ac am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf o ran ei weithredu. Mae’n bleser mawr gennyf gadarnhau heddiw bod y cynllun iechyd gwledig wedi’i gwblhau yn dilyn proses ymgynghori eang. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae datblygu a chyhoeddi’r cynllun yn gwireddu un o ymrwymiadau allweddol ‘Cymru’n Un’. Mae’n gam pwysig hefyd tuag at wella iechyd gwledig a gwasanaethau iechyd gwledig yng Nghymru. Caiff y cynllun ei gyhoeddi’n fuan, ar bapur ac ar y rhyngrwyd.
Mae’r adroddiad yn ganlyniad y gwaith sylweddol a wnaed gan y grŵp llywio a benodwyd gennyf ym mis Chwefror 2008, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan, gyda Jane Jeffs a’r Athro Marc Clements ill dau’n is-gadeiryddion. Bu’r grŵp yn casglu tystiolaeth gan ystod eang o wasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth i lywio’r adroddiad a’i ganfyddiadau. Bu’r grŵp hefyd yn ystyried dwy elfen bwysig o’r gwaith a gomisiynwyd i ategu’r adroddiad terfynol. Yn gyntaf, aeth y grŵp ati i gasglu canfyddiadau a phrofiadau pobl leol o faterion sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru wledig, ac yn ail, cynhaliodd y Sefydliad Iechyd Gwledig adolygiad o lenyddiaeth a gwaith ymchwil sy’n gysylltiedig â thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol am iechyd a modelau gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r cynllun wedi’i seilio’n gadarn ar sylfaen dystiolaeth gref o arfer gorau byd-eang, a safbwyntiau’r gymuned leol ynghylch yr angen ar hyn o bryd a’r angen yn y dyfodol. Mae’r broses gyfan wedi adnabod yr angen i ailystyried y modd y caiff gwasanaethau eu darparu mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, y tu allan i fodelau gofal traddodiadol. Mae tair thema sylfaenol yn dod i’r amlwg, sydd hefyd yn gyffredin i ddatblygiadau strategol eraill mewn ardaloedd gwledig. Yn gyntaf, mae angen inni edrych ar fynediad i wasanaethau, gan ddarparu gwasanaethau amserol a phriodol i bobl ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd, arbenigol a chymdeithasol. Mae hynny’n cynnwys gwella’r pethau mwyaf syml, megis amseroedd apwyntiadau, yn ogystal â gofal cymhleth a gofal mewn argyfwng.
Yr ail thema yw gwell integreiddio yn y GIG ac â phartneriaid allweddol eraill, megis gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Bydd hynny’n helpu i sicrhau bod modd osgoi achosion o wastraffu a dyblygu, a bod gwell gofal a chymorth yn cael eu darparu i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae hynny’n cynnwys modelau gwasanaeth integredig, gwaith cynllunio gweithlu integredig, ac integreiddio systemau a gwasanaethau, er mwyn gwella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol a sicrhau bod yr holl adnoddau a sgiliau mewn cymunedau’n cael eu defnyddio’n effeithiol. Bydd yn golygu cynllunio a defnyddio cludiant yn well, boed yn gludiant a ddarperir gan y sector statudol neu’r sector gwirfoddol, a theilwra gwasanaethau a chymorth i weddu i anghenion ac amgylchiadau lleol.
Y pwynt olaf sydd wedi dod i’r amlwg yw cydlyniant cymunedol ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r rhain yn adnoddau pwysig ac yn ffactorau sydd â photensial aruthrol mewn lleoliadau gwledig. Wrth gynllunio gwasanaethau prif ffrwd, rhaid mynd ati’n weithredol i hybu ymgysylltu â’r gymuned a hybu cydlyniant cymunedol ac ymdeimlad o berchnogaeth yn y gymuned, er mwyn cefnogi gwasanaethau a gaiff eu darparu’n lleol. Mae’n hanfodol defnyddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau sy’n bodoli mewn cymunedau lleol, i helpu i gynllunio a darparu cymorth yn lleol, fel y mae cynlluniau megis Heartstart UK wedi dangos.
Ar 1 Mai 2009, lansiodd fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Elin Jones, AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, a minnau ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai’n para 16 wythnos ar bapur ymgynghori’r pwyllgor llywio. Yn ogystal â’r prosesau ymgynghori arferol, cynhaliwyd tri gweithdy mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn y Sioe Frenhinol hefyd. Cafwyd cyfanswm o 139 o ymatebion gan ystod eang o sefydliadau a chyrff cynrychioliadol a chanddynt ddiddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wledig. Yr wyf yn falch bod yr ymatebion wedi dangos llawer o gonsensws ymysg yr ymatebwyr o blaid y weledigaeth gyffredinol a’r themâu allweddol a godwyd yn y papur ymgynghori.
Yn awr bod y cynllun yn barod i’w gyhoeddi, yr wyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gwaith o’i weithredu’n dechrau ar unwaith. Yn y flwyddyn newydd, bydd grŵp gweithredu’n cael ei sefydlu, a gynorthwyir gan grŵp cyfeirio ehangach o randdeiliaid allweddol, i symud gwaith ymarferol y cynllun iechyd gwledig yn ei flaen. Bydd yr Arglwydd Elystan Morgan yn rhoi’r gorau i’w waith fel cadeirydd grŵp llywio’r cynllun iechyd gwledig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddo am ei arweiniad, ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad wrth ddatblygu’r darn pwysig hwn o waith, a sicrhaodd fod iechyd gwledig yn cael lle blaenllaw yn narpariaeth y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd yn parhau i fod yn llysgennad ar gyfer iechyd gwledig wrth i’r cynllun gael ei weithredu.
Yn y cyfamser, mae gwaith eisoes wedi dechrau i gefnogi’r broses o weithredu’r cynllun, trwy fynd i’r afael â chynlluniau gweithlu, teleofal a theleiechyd, a chludiant. Bydd angen gwneud gwaith pellach ar ddatblygu rôl yr ymarferydd gwledig, a sicrhau bod rhwydwaith o fferyllfeydd cymunedol ar gael ar hyd a lled Cymru wledig. Mae gan Gymru eisoes rwydwaith cryf o ysbytai cymunedol, ac yr wyf am weld y rhain yn cael cenhadaeth a phwrpas newydd sy’n gwneud y mwyaf o’u potensial, gan ddarparu gwasanaethau allweddol yn nes i gymunedau gwledig. Yr wyf wedi fy nghalonogi gan y gwaith sydd wedi’i wneud yn Llanfair-ym-Muallt, a’r potensial i dreialu gwasanaeth a arweinir gan nyrsys, lle nad oes angen apwyntiadau, yn ysbyty Aberteifi, sef un arall o’n hymrwymiadau yn ‘Cymru’n Un’.
Yr wyf yn gwybod bod angen gwella’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau cludo cleifion mewn ardaloedd gwledig. Bydd modelau amgen yn cael eu hadolygu ar gyfer darparu gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion brys ac achosion nad ydynt yn rhai brys, er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn sicrhau gwasanaeth realistig y mae modd ei gyflawni.
Yr wyf hefyd wedi cydnabod natur arbennig yr ardaloedd y mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys, ymysg eraill, yn gyfrifol amdanynt, o ran mynd i’r afael â’r heriau y mae natur wledig yr ardaloedd hynny’n eu cynnig. Mae’r byrddau iechyd lleol hyn mewn sefyllfa dda i fod yn ffocws ar gyfer arloesi mewn gofal iechyd gwledig a chanolbwyntio sylw ar ddatblygu modelau newydd o ofal integredig yn y gymuned, trwy weithio’n well mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Yr ydym hefyd wedi cynnal trafodaethau â Phrifysgol Cymru ynghylch penodi athro iechyd gwledig. Bwriad hynny yw helpu i ddatblygu arfer sy’n torri tir newydd o ran addysgu ac ymchwil, trwy gryfhau’r cydweithio sy’n digwydd rhwng y Sefydliad Iechyd Gwledig, Arsyllfa Wledig Cymru, y rhwydweithiau gwledig sy’n datblygu, a sefydliadau iechyd eraill.
Yr wyf yn gobeithio y bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymuno â mi i gydnabod bod y cyfnod hwn yn un cyffrous o safbwynt datblygu gwasanaethau i’r sawl sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld gwelliannau gwirioneddol yn cael eu gwneud ar gyfer pobl leol.