Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf o ran y pandemig ffliw moch ffliw A(H1N1). Mae’r cyfraddau diweddaraf yng Nghymru o ran ymgynghori â meddyg teulu ynghylch salwch tebyg i ffliw wedi gostwng ac wedi sefydlogi erbyn hyn, ond maent yn parhau ychydig yn uwch na’r cyfraddau arferol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Ar 26 Tachwedd, yr oedd 77 o bobl yn yr ysbyty oherwydd ffliw moch, ac yr oedd 14 o’r rheini mewn gofal critigol. Rhaid i bob un ohonom barhau’n wyliadwrus gan fod ffliw moch yn fygythiad difrifol o hyd, a chan ei fod yn effeithio ar grwpiau o’r boblogaeth, megis plant ifanc a menywod beichiog, nad ydynt mewn perygl o gael ffliw tymhorol fel rheol. Rhaid inni gofio hefyd nad yw ein tymor ffliw traddodiadol yn arfer cyrraedd tan fis Ionawr a mis Chwefror.
Mae’r cyngor a gefais yn awgrymu y gallai ail don y pandemig yn y DU fod bron ar ben, ac yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae pobl yn gwella’n dda. Fodd bynnag, yr ydym yn debygol o barhau i weld pobl yn cael cymhlethdodau difrifol, yn cael eu derbyn i gyfleusterau gofal critigol, ac yn marw. Mae 23 o bobl wedi marw yng Nghymru erbyn hyn, a hyd yn oed â nifer yr achosion o ffliw moch yn lleihau, mae’n anochel y bydd nifer y marwolaethau’n parhau i gynyddu gydag amser.
Mae cam cyntaf cyflwyno’r rhaglen frechu wedi bod yn mynd rhagddo’n dda, a hoffwn ddiolch i’r holl staff yn y sector gofal sylfaenol a’r gwasanaeth iechyd gwladol am eu hymdrechion wrth gynllunio a gweithredu’r rhaglen yn gyflym ac yn effeithiol. Disgwyliwn gael ffigurau ynghylch nifer y bobl sydd wedi cael y brechlyn ffliw moch yn fuan. Mae’r arwyddion yn dangos y cafwyd ymateb cadarnhaol gan y sawl a wahoddwyd i gael eu brechu fel mater o flaenoriaeth.
Ein blaenoriaeth bennaf o hyd yw sicrhau bod cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn cael eu brechu yn y grwpiau sydd mewn perygl o safbwynt clinigol, ond byddwn yn ymestyn y rhaglen i gynnig y brechlyn i bob plentyn iach sydd dros chwe mis oed a than bum mlwydd oed. Cefnogir y penderfyniad hwnnw gan gyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Mae’r dystiolaeth yn dangos mai plant ifanc sy’n dioddef yr effaith gyffredinol fwyaf oherwydd y clefyd ar hyn o bryd. Maent yn hynod agored i gymhlethdodau, ac maent yn fwy tebygol na’r un grŵp arall o fynd yn ddifrifol sâl a bod mewn sefyllfa lle mae arnynt angen triniaeth mewn ysbyty. Mae cyfradd y pyliau clinigol yn uwch hefyd, sy’n golygu y bydd cyfran fwy o blant yn mynd yn sâl. Bydd brechu cynifer o blant ag sy’n bosibl yn y grŵp oedran hwn yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu gystal ag y bo modd rhag ffliw moch.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a phrif weithredwr GIG Cymru at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan amlinellu manylion cam 2 y rhaglen frechu. Er nad ydym eto wedi cwblhau’r logisteg o ran sut y bydd y brechlyn yn cael ei roi i blant sydd dros chwe mis oed a than bum mlwydd oed, disgwyliwn y bydd meddygon teulu am barhau i fod yn elfen allweddol o’r broses o roi brechlynnau i blant ifanc.
Ynghyd ag adrannau iechyd eraill y DU, yr ydym wrthi’n gweithio gyda’r Pwyllgor Meddygon Teulu a sefydliadau’r GIG i gytuno ar sut yn union y bydd hynny’n digwydd. Yn ogystal, yr ydym wedi ystyried cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch y ffaith y dylai brechu prif ofalwyr pobl hŷn ac anabl, y gallai eu lles fod mewn perygl pe bai eu gofalwr yn mynd yn sâl, fod yn gam nesaf pwysig. Mae gan ofalwyr gyfrifoldebau parhaus sylweddol am iechyd a lles pobl eraill, ac maent yn gofalu am bobl agored i niwed y mae angen iddynt gael eu diogelu rhag perygl haint. Yr ydym felly’n trafod y ffordd orau o weithredu’r gwasanaeth hwn gyda sefydliadau gofalwyr, er mwyn pennu dull synhwyrol o weithredu cyn rhannu mwy o fanylion am sut y bydd y rhaglen yn gweithio.
Bydd yr Aelodau wedi gweld y sylw y mae’r cyfryngau wedi’i roi i ddiogelwch y brechlyn i fenywod beichiog. Mae’r prif swyddog meddygol yn cynghori ei bod yn bwysig iawn bod menyw feichiog yn cael ei brechu, pan gaiff ei gwahodd i wneud hynny, er mwyn ei diogelu ei hun a diogelu ei babi sydd heb ei eni. Mae menywod beichiog sy’n cael ffliw moch bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef cymhlethdodau difrifol na menywod o’r un oedran nad ydynt yn feichiog. Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr wedi edrych ar y dystiolaeth ynghylch diogelwch brechlynnau ffliw yn ystod beichiogrwydd, ac mae o blaid bod menywod beichiog yn cael eu brechu. Mae menywod sy’n gohirio’r brechu nes i’r babi gael ei eni’n eu rhoi eu hunain mewn mwy o berygl. Mae cyngor i fenywod beichiog ar ffliw moch ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith bod math o ffliw moch sy’n gwrthsefyll Tamiflu ac sy’n ymledu o berson i berson wedi’i ganfod yng Nghymru. Dywedodd y prif swyddog meddygol nad yw ymddangosiad feirysau ffliw A sy’n gwrthsefyll Tamiflu yn annisgwyl mewn cleifion ag anhwylderau gwaelodol difrifol a systemau imiwnedd isel. Cafwyd dros 70 adroddiad ynghylch mathau o ffliw sy’n gwrthsefyll Tamiflu ledled y byd. Mae wyth claf, mewn uned sy’n trin cleifion ag anhwylderau gwaelodol difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, wedi’u diagnosio â ffliw moch sy’n gwrthsefyll Tamiflu. Ymddengys fod tri ohonynt wedi cael yr haint yn yr ysbyty. Mae pob claf yn yr uned sydd wedi’u diagnosio â ffliw moch sy’n gwrthsefyll Tamiflu wedi’u trin â chyffur gwrthfeirysol arall, ac mae pob claf arall yn yr uned wedi cael prawf am ffliw moch. Mae tri o’r cleifion yn parhau yn yr ysbyty, ac mae un o’r rheini mewn gofal critigol; mae’r lleill yn cael eu trin ar wahân i gleifion eraill yn yr uned. Mae pob claf yn ymateb yn dda i driniaeth, ac nid oes tystiolaeth bod y math o ffliw moch sy’n gwrthsefyll Tamiflu wedi ymledu y tu allan i’r uned.
Mae’r cleifion yn cael eu cadw ar wahân i gleifion eraill, neu’n cael gofal mewn ardaloedd sydd wedi’u dynodi ar gyfer gofal ffliw, ac mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar gyfer rheoli haint ar waith yn yr uned. Cynigiwyd brechiad ffliw moch i gleifion a staff yr uned, ac mae cleifion y mae disgwyl iddynt ddod i’r uned i gael triniaeth yn cael eu cynghori i gael eu brechu gan eu meddyg teulu cyn dod i’r ysbyty. Mae’r cyngor a gefais yn awgrymu nad yw’r math o ffliw moch sy’n gwrthsefyll Tamiflu fel pe bai’n fwy difrifol na’r feirws ffliw moch sydd wedi bod ar led ers mis Ebrill. Gwyddwn fod pobl â systemau imiwnedd isel yn fwy tueddol o gael feirws ffliw moch, a dyna pam y maent yn grŵp a gaiff flaenoriaeth yng ngham cyntaf y rhaglen frechu yng Nghymru. Mae triniaeth Tamiflu yn parhau’n briodol i ffliw moch, a dylai pobl barhau i gymryd Tamiflu pan fydd yn cael ei ragnodi iddynt.
Mae parhau i bwysleisio pwysigrwydd negeseuon allweddol ynghylch iechyd cyhoeddus, megis yr angen i olchi dwylo, a phwysigrwydd brechu’n hanfodol o hyd yn ein brwydr yn erbyn ffliw moch. I’r perwyl hwn, mae ymgyrch gyfathrebu arall i hyrwyddo nifer y bobl sy’n cael brechiad ffliw moch yn dechrau yng Nghymru, ac mae’r ymgyrchoedd yn cynnwys negeseuon a gaiff eu hanelu at amryw gynulleidfaoedd trwy’r radio, y wasg a gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus.
Mae’r prif swyddog meddygol a minnau’n parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr y grwpiau proffesiynol bob mis. Yr ydym wedi cael sicrwydd bod gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd yn ymdopi â galwadau’r pandemig, a bod cyrff proffesiynol yn cefnogi ein dull gweithredu. Gwelwn bwysau ychwanegol ar wasanaethau’r GIG bob gaeaf, ac yr ydym mewn sefyllfa dda i’w reoli. Byddaf yn parhau i roi adroddiadau’n rheolaidd i’r Cynulliad ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau dros y toriad os bydd newidiadau sylweddol i’r sefyllfa bresennol.