Skip to content

Ysgrifenedig - Gwaharddiadau ar Dirlenwi a'r diffiniad o wastraff trefol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Gwaharddiadau/Cyfyngiadau ar Dirlenwi

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymchwilio i fanteision gwahardd gwastraff penodol rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, neu gyfyngu arno, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny, yn unol â'r amcanion a'r polisïau a gynigir yn y strategaeth wastraff ddrafft newydd i Gymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a gyhoeddwyd i ymgynghori yn ei chylch yn ystod y cyfnod o 29 Ebrill tan 22 Gorffennaf 2009.

 

Yn 2007, cynhyrchodd Cymru 5.1 miliwn o dunellau o wastraff cartref, masnachol a diwydiannol.  Cafodd 44% o'r gwastraff hwn ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei adfer, ond aeth 47% ohono i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn cymharu'n wael â Gwladwriaethau eraill Ewrop y mae llawer ohonynt wedi defnyddio gwaharddiadau ar dirlenwi i atal gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

Dewis amgylcheddol wael yw tirlenwi, sy'n cael effaith negyddol iawn ar y newid yn yr hinsawdd gan fod methan, nwy tŷ gwydr niweidiol sy'n 23 o weithiau'n gryfach na charbon deuocsid, yn cael ei ryddhau wrth i wastraff bioddiraddiadwy gael ei dorri i lawr. Yn seiliedig ar wybodaeth a gyhoeddwyd yn 2003 a 2007, mae tua 61% o'r gwastraff trefol a 61% o'r gwastraff diwydiannol a masnachol sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn pydru.

 

Gwaredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yw'r ffordd leiaf cynaliadwy o reoli gwastraff a'r dewis lleiaf ffafriol dan yr hierarchaeth wastraff. Mae llawer o'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd yn adnodd gwerthfawr y gellir naill ai ei ailgylchu neu ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni hynod effeithlon (sef hoff ddull Llywodraeth Cynulliad Cymru o drin gwastraff gweddilliol).  Mae gan lawer o'r cynhyrchion sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ynni uchel cynhenid, ac mewn llawer o achosion gwastraffwyd cryn dipyn o ddeunyddiau crai yn ystod y broses o greu'r cynnyrch.  Felly, mae'r gwastraff cudd ar adnoddau sy'n gysylltiedig â thirlenwi yn fwy na gwerth ymddangosiadol yr adnodd sy'n mynd i'r safle tirlenwi.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnig targedau uchelgeisiol ar gyfer ailgylchu a chompostio/ treulio anerobig yn ei Strategaeth Wastraff ddrafft newydd (Tuag at Ddyfodol Diwastraff). Mae gwahardd gwastraff penodol rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn ddull pwysig y gellid ei ddefnyddio i gyrraedd y targedau hynny.

Mae deunyddiau allweddol yr ystyrir eu gwahardd rhag mynd i safleoedd tirlenwi yn cynnwys bwyd, gwastraff gwyrdd, papur a cherdyn, tecstilau, coed, gwydr, metelau, plastig, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gwastraff bioddiraddiadwy o bob sector lle mae'r gwastraff hwn yn cael ei gynhyrchu.

 

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori'n gyhoeddus ynghylch gwaharddiadau/cyfyngiadau ar dirlenwi yn 2010. 

 

Y diffiniad o wastraff trefol

 

Mae'r dull y mae'r DU yn ei ddefnyddio i gyfrifo targedau Cyfarwyddeb Tirlenwi'r UE er mwyn lleihau'r gwastraff trefol bioddiraddiadwy a anfonir i safleoedd tirlenwi yn newid.

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Defra wedi bod yn trafod gyda'r Comisiwn Ewropeaidd; bu ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y broses hon.  Erbyn hyn, cydnabyddir bod dull presennol y DU yn canolbwyntio'n rhy gul ar y gwastraff sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol.   Bydd y dull newydd yn cynnwys llawer mwy o wastraff masnachol nag sy'n cael ei gasglu ar hyn o bryd. Mae hyn yn gyson â'r ffocws mwy yr ydym am ei roi ar wastraff masnachol a diwydiannol; ac er mwyn tynnu ynghyd y gwaith o reoli gwastraff cartref a masnachol fel yr eir i'r afael ag effeithiau gwastraff ar yr amgylchedd waeth beth fo'i ffynhonnell.  Yn y gorffennol, mae'r lefelau ailgylchu ar gyfer gwastraff masnachol wedi bod yn uwch nag ar gyfer gwastraff cartref, ond erbyn hyn, diolch i dargedau a chymorth ariannol Llywodraeth y Cynulliad, mae lefelau'r gwastraff cartref sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol i'w ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf, ac maent yn gyfartal â lefelau'r gwastraff masnachol.

 

Mae'r dull newydd o drin gwastraff trefol yn y DU wedi'i seilio ar restr wastraff yr UE neu'r 'Catalog Gwastraff Ewropeaidd'.  Bydd yn cynnwys pob gwastraff bioddiraddiadwy a anfonir i safleoedd tirlenwi dan Bennod 20 - sef "Municipal Waste (household waste and similar commercial, industrial and institutional wastes whether collected by Local Authorities or private contractors)". Bydd hefyd yn cynnwys gwastraff penodol dan Bennod 19 sy'n cwmpasu gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, sydd wedi cael rhyw fath o driniaeth ac a ddechreuodd fel gwastraff math Pennod 20 (er enghraifft, deunydd sydd wedi bod trwy ffatri Triniaeth Fiolegol Fecanyddol ac sy'n cael ei anfon i safle tirlenwi yn y pen draw).

 

Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y bydd y gwastraff a ystyrir yn wastraff trefol yn cynyddu'n sylweddol. Ni fydd yn golygu bod unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei anfon i safle tirlenwi, mae'n golygu newid yn y ffordd y mae'r wybodaeth yn cael ei chofnodi. Ond, bydd newid y ffordd yr ystyrir gwastraff trefol yn golygu bod angen diwygio'r llinell sylfaen y gosodwyd y targedau ar gyfer atal tirlenwi arni, ac felly targedau 2010/2013/2020 ar gyfer y DU. 

Dadansoddiad dros dro Defra yw y bydd sefyllfa'r DU o ran cyrraedd y targedau tirlenwi yn debyg i'r dull blaenorol, ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed cyntaf yn 2010.

 

Wrth wneud y newid hwn, rydym am sicrhau nad yw'r awdurdodau lleol dan anfantais. Ni fydd yn rhaid iddynt reoli'r gwastraff ychwanegol hwn, ac nid oes gennym gynlluniau i newid cwmpas y Cynlluniau Lwfansau Tirlenwi neu i newid eu lwfansau presennol. Maent wedi cymryd camau mawr i leihau'r gwastraff y maent yn ei anfon i safleoedd tirlenwi a dylid cydnabod eu hymdrechion.

 

Mae gwneud y newid hwn yn rhoi cyfle i adolygu'r polisïau amrywiol sy'n bodoli i atal gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.  Mae hyn yn cynnwys ystyried swyddogaeth y Cynlluniau Lwfansau Tirlenwi, y cynnydd y bwriedir ei wneud yn y dreth dirlenwi, ac o bosib cyfyngiadau neu waharddiadau ychwanegol ar dirlenwi. Gwneir hyn er mwyn sicrhau ein bod nid yn unig yn cyrraedd ein targedau yn y Gyfarwyddeb Tirlenwi ond ein bod hefyd yn cyflawni ein nodau amgylcheddol ehangach, gan gynnwys cadw at gyllidebau carbon a chyflawni nodau Llywodraeth y Cynulliad yn Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, wrth i ni weithio tuag at ddyfodol diwastraff.

 

Rydym yn bwriadu ymgynghori ar oblygiadau'r newid, gan gynnwys yr effaith ar y Cynlluniau Lwfansau Tirlenwi, ddechrau'r flwyddyn newydd. Y bwriad yw cysylltu hyn â'r ymgynghoriad ynghylch y gwaharddiadau ar dirlenwi.