Skip to content

Ysgrifenedig - Rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg

Dolenni perthnasol

Dysgwch fwy am rhaglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Hoffwn roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y Rhaglen i Ddileu TB.

 

Mae'r Rhaglen i Ddileu TB yn un gynhwysfawr, a'i nod yw mynd i'r afael â phob ffynhonnell o'r clefyd. Tra bod y cyfryngau yn canolbwyntio'n bennaf ar y cynnig i ddifa moch daear, mae'r rhan fwyaf o'r rhaglen yn ymdrin â mesurau i fynd i'r afael â'r clefyd mewn gwartheg.

 

Rydym wedi newid ein polisïau, ac rydym yn fwy gofalus eu bod yn cael eu cyflawni, er mwyn dileu'r clefyd hwn. Ymhlith y llwyddiannau mwyaf nodedig yn hyn o beth, rydym wedi llwyddo i ostwng nifer y profion hwyr. Yn achos y profion oedd yn hwyr ar gychwyn Archwiliad Iechyd TB Cymru, mae'r gostyngiad hwnnw yn 99%. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o'r gwartheg y penderfynir eu bod wedi eu heintio yn cael eu symud oddi ar ffermydd o fewn 10 niwrnod gan swyddogion Iechyd Anifeiliaid.

 

Mae Archwiliad Iechyd TB Cymru, a gychwynnodd bron i bymtheg mis yn ôl, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Nod y fenter oedd profi pob buwch yng Nghymru mewn cyfnod byr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o lefel a lleoliad TB mewn gwartheg ledled Cymru.

 

Rydym eisoes ar y blaen i'r amserlen. Roedd 12,540 o fuchesi wedi cael eu profi hyd ddiwedd mis Hydref, yn erbyn targed o 12,245 o fuchesi.

 

Mae'r rhaglen hon wedi bod yn allweddol er mwyn nodi heintiadau yn gynnar, a chael gwared arnynt, yn ogystal ag atal y clefyd rhag ennill ei dir mewn rhagor o ardaloedd ledled Cymru. Mae 3,555 yn rhagor o brofion wedi cael eu cynnal ar fuchesi na fyddai fel arall wedi cael eu profi yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys profion nad oedd yn rhaid eu cynnal cyn 2012.

 

Yn sgil y profion ychwanegol hyn, daethpwyd o hyd i'r clefyd mewn cyfanswm o 95 o fuchesi mewn ardaloedd a oedd yn cael eu hystyried yn glir o TB, neu'n ardaloedd o lai o risg o TB. Gall rhagor ddod i'r amlwg cyn i'r profion ddod i ben.

 

Rwyf wedi rhoi gwybod ichi o'r blaen y bydd pob buches yng Nghymru yn destun prawf blynyddol, a bydd yn orfodol cynnal Profion Cyn Symud yn 2010, wrth inni ddadansoddi canlyniadau Archwiliad Iechyd TB Cymru.

 

Serch hynny, mae mwy i'w wneud er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd hwn.

 

Hoffwn hysbysu'r Aelodau fod ymgynghoriad wyth wythnos ar Orchymyn Twbercwlosis a Brwselosis (Cymru) 2010 yn cychwyn heddiw. Bydd y Gorchymyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth yng Nghymru mewn amryw o feysydd.

 

Yn gyntaf, mae nifer o esemptiadau i'w cael i'r Profion Cyn Symud, nad ydynt yn gydnaws â'n nod o ddileu TB. Rydym yn cynnig diwygio'r rhain.

 

Yn ail, rydw i eisiau cyflwyno arferion da i'r system iawndal. Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn gweithredu'n gyfrifol. Ond o dan y system newydd byddai perchnogion gwartheg nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau, ac sy'n rhoi anifeiliaid eu cymdogion mewn mwy o berygl o ddal TB, yn cael llai o iawndal. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig, ac mae'n cyflwyno rhai newidiadau i'r derminoleg.

 

Mae'r gwaith o wella'r gyfundrefn brofi am TB mewn gwartheg yn cael ei ddatblygu ar lefel Prydain Fawr. Yn ogystal â hyn, mae fy swyddogion wedi adolygu'r canllawiau ar ddefnyddio'r prawf gwaed Gama Intefferon (y-IFN), y gellir ei ddefnyddio ar y cyd â'r prawf croen Twbercwlin, sef y prif brawf am TB buchol ledled Ewrop. O 1 Ionawr ymlaen bydd yn orfodol cynnal prawf y-IFN mewn achosion newydd o TB mewn ardaloedd lle mae TB yn gymharol brin, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ac ennill ei dir yn yr ardaloedd hynny. Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o Ogledd Cymru.

 

Sefydlwyd y tri Bwrdd Rhanbarthol Dileu TB ychydig dros flwyddyn yn ôl ac mae rhai darnau pwysig o waith bellach ar y gweill, gan gynnwys prosiect bioddiogelwch yn Wrecsam.

 

Serch hynny mae moch daear, yn ogystal â gwartheg, yn gyfrifol am ledaenu TB. Dyma pam rydym yn cynnig sefydlu Ardal Beilot Triniaeth Ddwys. Yn yr ardal hon, byddem yn treialu ffordd newydd o fynd ati i ddileu'r clefyd, a hynny drwy reoli gwartheg yn dynnach a'u goruchwylio'n agosach, parhau i ladd anifeiliaid sydd wedi adweithio i'r prawf TB, a mynd i'r afael â'r clefyd mewn moch daear.

 

Mae'r gwaith manwl ar y cynigion hyn yn dal i fynd yn ei flaen. Er hynny, rwy'n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa cyn bo hir i ystyried y materion hyn yn llawnach a gwneud rhagor o benderfyniadau yn eu cylch. Wrth gwrs, byddaf yn cadw ati i roi gwybod i'r Aelodau a'r cyhoedd am y camau nesaf.

 

Yn y cyfamser, mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio â milfeddygon a ffermwyr lleol i nodi unrhyw reolau eraill ar gyfer gwartheg, i'w cyflwyno o bosibl yn yr Ardal Beilot Triniaeth Ddwys. Mae milfeddygon lleol hefyd yn ymweld â ffermydd yn yr ardal i weithio gyda ffermwyr i wella bioddiogelwch.

 

Y llynedd, lladdwyd dros 12,000 o wartheg oherwydd y clefyd hwn. Bydd y ffigwr yn uwch ar gyfer 2009. Talwyd bron i £24 miliwn mewn iawndal y llynedd. Petai'r tueddiadau presennol yn parhau, byddai'n rhaid talu £80 miliwn erbyn 2014 yn ôl y rhagolygon duaf. Mae TB mewn Gwartheg yn broblem iechyd ddifrifol mewn anifeiliaid, ac mae'n cael effaith ddifrifol ar ein diwydiannau llaeth a chig eidion yn ogystal â'r gymuned wledig ehangach. Drwy gydweithio, gallwn ei ddileu.