Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad Addysg 8–14 yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Bydd aelodau’n cofio i mi gymeradwyo sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gynharach eleni ar y ddarpariaeth addysg 8–14 yng Nghymru. Ar ôl ein cynnydd gyda’r Cyfnod Sylfaen a chyflwyno Llwybrau 14–19, canolbwyntiwyd ein sylw fwyfwy ar y blynyddoedd rhyngddynt. Mae’r cyfnod hwn o addysg yn cynnwys tri throsglwyddiad o bwys: o’r Cyfnod Sylfaen yn saith mlwydd oed; rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn 11; ac i mewn i Lwybrau Dysgu 14–19. Gwelais yn arbennig angen taer i dorri’r cysylltiad rhwng anfantais gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol gwael drwy fynd i’r afael â’r hyn oedd wrth wraidd y colli diddordeb a’r gollwng gafael ar ddysgu yn ystod y blynyddoedd ‘canol’. Nododd Webb hefyd bwysigrwydd y maes eang yma. Mae’n bleser gennyf ddweud y byddwn yn delio â’r maes hwn drwy gydnabod 8 i 14 fel cyfnod arwahanol o addysg.

Yn fyr, mae’r cefndir fel a ganlyn. Ym mis Rhagfyr 2007 argymhellodd Adolygiad  Annibynnol Webb ar Addysg Bellach yng Nghymru y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol ac eang ei gwmpas o addysg 11–16. Derbyniais yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ac, ar ôl ystyried ymhellach, deuthum i’r casgliad y byddai’n fwy priodol i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ystyried profiad addysgol disgyblion 8 i 14 mlwydd oed, gan gynnwys eu trosglwyddiad o addysg gynradd i addysg uwchradd. Roedd yr adolygiad hwn o athroniaeth waelodol a strwythur profiad addysgol disgyblion 8 i 14 mlwydd oed yn ffitio’n well gyda datblygiad parhaus y Cyfnod Sylfaen (ar gyfer plant tri i saith mlwydd oed) a Llwybrau Dysgu 14–19 yng  Nghymru.

Ym mis Chwefror 2009, cytunodd yr Athro David Egan o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd i gadeirio’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Ar ôl i aelodau eraill, oedd yn cynrychioli amrediad eang o ddiddordebau addysgol, gael eu penodi i’r Grŵp, dechreuodd ar ei waith ym mis Mawrth 2009.

Mae’n bleser gennyf yn awr groesawu adroddiad y cyfnod cyntaf gan y Grŵp a’i argymhelliad allweddol y dylem ni yng Nghymru ddynodi 8–14 fel cyfnod o addysg ar wahân, seiliedig ar athroniaeth addysgol wahanol a chydlynol. Nid mater o greu ysgolion canolradd mohono; yn hytrach, gallwn symud hyn ymlaen mewn ffordd integredig drwy ddatblygu’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY). Mae’r meysydd hollbwysig y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw yn cynnwys y cwricwlwm, addysgeg, arweinyddiaeth, cynhwysiad ac atebolrwydd. Mae arwain diwygiad 8–14 drwy’r FfEY yn cynrychioli’r ffordd orau ymlaen i blant, ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig cyfraniad i feddwl rhyngwladol ynglŷn â diwygiad addysgol yn y maes hwn.

Yr wyf yn neilltuol o ddiolchgar i’r Athro David Egan ac aelodau’r Tasglu yma am y gwaith a wnaethant wrth ddadansoddi’r materion y mae angen i ni ddelio â nhw ac am eu hargymhellion ynghylch y modd y dylem fynd i’r afael â’r rhain. Gobeithiaf y byddant yn fodlon i barhau i gefnogi’r gwaith hwn wrth iddo symud ymlaen, fel grŵp cyfeirio o fewn y FfEY. 

Fel y cam nesaf un, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion drafod argymhellion manwl yr adroddiad yn eang ledled Cymru, drwy gynadleddau rhanbarthol a digwyddiadau eraill. Bydd yr holl drafodaethau hynny’n hysbysu’r cynlluniau ar gyfer symud y gwaith yn ei flaen.

Yn y ffordd yma byddwn yn datblygu yng Nghymru ddealltwriaeth gyffredin rhwng yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ynghyd â’u hymrwymiad ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn, drwy weithio gyda’n gilydd, sicrhau’r enillion yr ydym yn eu ceisio ar gyfer y dysgwyr i gyd.