Skip to content

Ysgrifenedig - Gwasanaethau I Bobl Sy’n Defnyddio Cadair Olwyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 8 Gorffennaf 2009, cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar wasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Cymru.  Fel rhan o'r ddadl, siaradais am fy ymrwymiad i sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bawb sy'n defnyddio cadair olwyn yng Nghymru.  

Mae mwyafrif y defnyddwyr yn fodlon â'r gwasanaeth.  Bydd dros 70% yn cael eu cadeiriau olwyn o fewn tair wythnos.  Bydd rhai pobl sydd ag anghenion cymhleth yn gorfod aros yn hirach.

Sefydlwyd Adolygiad o Ystum a Symudedd fel rhan o'r gwaith o wella'r ddarpariaeth o gadeiriau olwyn.  Erbyn hyn rwyf wedi cael copi o'r adroddiad ac wedi rhoi ystyriaeth iddo.  Dyma grynodeb o'r prif ganfyddiadau ac argymhellion:

Prif Ganfyddiadau

  • Mae goblygiadau sylweddol i ansawdd bywyd defnyddwyr a gofalwyr wrth iddynt aros i gael eu hasesu a chael yr offer.  Yn ogystal â hyn, mae costau cysylltiedig o ran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth geisio rhoi cymorth i glientiaid heb yr offer cywir.
  • Nid yw'r diffyg o ran y safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn ffurfiol neu'r dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau cadair olwyn yn helpu'r ffocws ar reoli perfformiad yn effeithiol ar y gwasanaeth.  Mae hyn yn cyferbynnu ag arbenigeddau eraill lle mae'r amseroedd aros yn sbardun allweddol i'r gwasanaethau.
  • Yn absenoldeb gofyniad gorfodol ffurfiol i fonitro amseroedd aros ar gyfer asesu a darparu cadeiriau aros, mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi datblygu amseroedd aros hwyaf dros dro ar gyfer y gwasanaethau yn y Gogledd a'r De.  Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd yn gyffredinol, gan adlewyrchu perfformiad gwahanol wasanaethau ledled Cymru ar hyn o bryd.
  • Ceir atalfeydd amrywiol (ac weithiau sylweddol) yn y broses gadwyn gyflenwi sy'n arwain at oedi rhwng  presgripsiwn yn cael ei godi am gadair olwyn a'r cleient yn ei derbyn.
  • Ochr yn ochr â gweddill y GIG, mae cyllidebau'r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ac Unedau Peirianneg Adsefydlu yn agored i dargedau lleihau costau mewnol o un flwyddyn i'r llall. Mae'r gwasanaeth yn tyfu, ac mae llawer o'r offer ar gyfer y gwasanaeth ystum a symudedd yn cael ei brynu oddi wrth y farchnad fyd-eang. Oherwydd effaith y gyfradd gyfnewid gyfredol, mae'r cynnydd cyfatebol yng nghost yr offer yn rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar wasanaeth nad yw wedi cael cyllid i dyfu.
  • Ar draws pedair gwlad y DU, Cymru sy'n darparu'r ystod fwyaf o offer i'w defnyddwyr gwasanaeth. Mae hon yn strategaeth fwriadol sy'n galluogi diwallu anghenion clinigol yn y modd gorau, ac yn  hwyluso annibyniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Mae'r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn darparu gwasanaeth cadeiriau olwyn sy'n diwallu "anghenion iechyd" yn bennaf, sy'n hanfodol i anghenion ystum a symudedd. Yn aml mae angen ystyried gofynion ehangach defnyddwyr gwasanaeth yn ystod y broses asesu.
  • Mae gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio o ansawdd yn rhan hanfodol a chynhenid o'r gwasanaeth cadeiriau olwyn ac yn anhepgor i bob cleient. Mae'r gwasanaeth cynnal a chadw yn Ne Cymru 'n cael ei ddarparu’n allanol ar hyn o bryd ac mae hyn wedi cael ei feirniadu. Y bwriad yw dod â'r gwasanaeth yn fewnol o 2010 ymlaen.
  • Nid yw'r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn ariannu benthyciadau tymor byr ar gyfer cadeiriau olwyn. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o glientiaid, gofalwyr ac ymarferwyr yn dibynnu ar asiantaethau gwirfoddol am y gwasanaeth hwn.
  • Mae'r Unedau Peirianneg Adsefydlu wedi bod yn gyfrifol am lawer o ddatblygu ac arloesi yn y maes hwn, yn lleol ac yn genedlaethol. Maent yn rhan allweddol o'r gwasanaeth cadeiriau olwyn ac yn gofalu am rai o'r cleientiaid mwyaf cymhleth

Argymhellion

  • Dylid datblygu Dangosyddion Perfformiad cadarn ar frys mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth i yrru'r agenda gwella perfformiad yn ei blaen. Dylai unrhyw dargedau fesur y llwybr cyfan ac nid yr amser rhwng yr atgyfeirio a'r asesiad yn unig.
  • Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud i wella'r prosesau o reoli'r rhestr aros ystum a symudedd, mae'n ofynnol cael adolygiad pellach yn unol â'r canllawiau Atgyfeiriad am Driniaeth.
  • Mae angen adolygu'r model gwasanaeth gan ystyried egwyddorion allweddol a awgrymwyd.
  • Mae angen ymestyn yr egwyddor o Asesiad Unedig i'r gwasanaeth ystum a symudedd. Bydd angen datblygu protocolau asesu Therapyddion Cymunedol sy'n galluogi elfennau allweddol o asesiadau yn y gweithle, y cartref a'r ysgol i gael eu cwblhau cyn eu hatgyfeirio i'r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS).  Mae angen datblygu cysylltiadau cyfathrebu cryf rhwng staff ALAS a'r therapyddion cymunedol a dylai'r therapyddion cymunedol fynychu'r asesiadau cyntaf.
  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC), y corff sy'n olynu Comisiwn Iechyd Cymru, ddylai barhau i reoli'r gwaith o gynllunio Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar safonol ac arbenigol. O ystyried y rhyng-ddibyniaeth rhwng y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar a'r Uned Peirianneg Adsefydlu dylai fod un corff arweiniol ar gyfer y ddau wasanaeth.
  • Dylai fod arweiniad polisi o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau technegol, i gynnwys Gwasanaethau Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, offer cymunedol, offer cymunedol ac amgylcheddol, Teleofal a Theleiechyd.
  • Dylid datblygu rhaglen addysg i alluogi defnyddwyr, gofalwyr ac ymarferwyr i ddeall gwerth partneriaeth wirioneddol i gytuno sut mae anghenion defnyddwyr y gwasanaethau a ddarperir drwy'r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar,  Unedau Peirianneg Adsefydlu a gwasanaethau adsefydlu yn cael eu bodloni.
  • Dylid cynnal adolygiad penodol o gomisiynu a darparu cadeiriau olwyn at ddibenion benthyca tymor byr.

Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu'r argymhellion hyn ymhellach.  Bydd Cam 2 yr adolygiad cadeiriau olwyn yn dechrau ar ddechrau 2010.  Byddaf yn gwneud datganiad i gadarnhau cyfeiriad Cam 2 yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Hefyd, mae gwaith brys pellach yn cael ei gyflawni i nodi cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cadeiriau olwyn i oedolion a phlant, a fydd yn lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau a darparu cadeiriau olwyn.  Gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad pellach ar hyn yn fuan iawn.