Skip to content

Ysgrifenedig - Fframwaith y Farchnad Lafur dros Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths , y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno ar Fframwaith Marchnad Lafur ar y cyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cydweithio'n agosach a gwell integreiddio o ran camau gweithredu ym maes cyflogaeth a sgiliau.

 

Fel y'i nodir yn Cymru'n Un, rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at ein huchelgais i drawsnewid Cymru yn genedl a chymdeithas hyderus, lewyrchus ac iach, sy’n deg i bawb.   Mae'r ymrwymiad yn amlinellu ein huchelgais hirdymor i sicrhau cyflogaeth lawn yng Nghymru a datblygu strategaeth ar gyfer y farchnad lafur.   Rydym yn cydnabod bod hon yn her fawr na ellir ei chyflawni heb gydweithio â'r Adran Gwaith a Phensiynau. 

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi addo gweithio gyda'i gilydd, lle mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd, i gyflawni ein cyd-uchelgais i sicrhau ein bod yn datblygu dull gwell o integreiddio ac yn symleiddio ein polisïau a rhaglenni newydd i'w gweithredu yng Nghymru.  Y diben a ddymunir fydd gwneud lles i gyflogwyr, unigolion a'u cymunedau ac yn y pen draw, gwella cyfleoedd gwaith yng Nghymru.

 

Credwn y bydd Fframwaith y Farchnad Lafur sydd newydd ei ddatblygu yn mynd â ni i'r cyfeiriad hwnnw.

 

Mae cyfleoedd eglur i wella gwasanaethau i unigolion a chyflogwyr os gall Llywodraeth y Cynulliad a'r Adran Gwaith a Phensiynau gynllunio a chydlynu rhaglenni cyflenwi yn fwy effeithiol.  Felly, y dull hwn o integreiddio yw prif ffocws y Fframwaith. 

 

Mae'r Fframwaith yn amlinellu egwyddorion craidd y ffordd y bydd Llywodraeth y Cynulliad a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwrw ymlaen â'r agenda hon ac yn disgrifio ein dull o gydweithio i wella sgiliau a chodi lefel y gweithgarwch economaidd yng Nghymru. 

 

Mae'n amlinellu dull 3 elfen o fwrw ymlaen â'r agenda hon:

  •  Cytuno ar amcanion a chamau gweithredol i Gymru, ynghyd â thargedau a rhaglenni cenedlaethol yr Adran Gwaith a Phensiynau;
  •  Sefydlu  Bwrdd Darparu Cyflogaeth ar y Cyd i Gymru.  Uwch-swyddogion o Lywodraeth y Cynulliad a'r Adran Gwaith a Phensiynau fydd ar y bwrdd hwn (a byddent yn ei gadeirio ar y cyd) ynghyd â rhanddeiliaid allweddol.  Bydd ffocws gweithredol iddo; a
  •  Cryfhau trefniadau cydweithio ar y lefel leol a'r lefel isranbarthol yng Nghymru.

Bydd y Bwrdd newydd, a arweinir gan swyddogion pwysig o Lywodraeth y Cynulliad a'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn sicrhau bod y rhaglenni sy'n cynnig cyflogaeth a sgiliau ledled Cymru yn cael eu trafod.  Bydd yn nodi cyfleoedd i integreiddio darpariaeth yn llawnach.   Bydd y Bwrdd yn gyfrwng gweithredol allweddol o sicrhau bod y polisïau a'r rhaglenni'n cael eu hintegreiddio fel y'i dymunir.

 

Gwahoddir cynghorwyr arbenigol o TUC Cymru, CBI Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ymuno â'r Bwrdd.

 

Bydd y Bwrdd yn ystyried yn llawn y cyngor gan Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru , ond bydd ei swyddogaeth yn wahanol.  Cyflogwyr ac eraill sydd ar y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau i ddarparu cyngor strategol ar faes cyfan cyflogaeth a sgiliau.  Bydd y Bwrdd Darparu Cyflogaeth ar y Cyd i Gymru yn canolbwyntio ar weithredu a darparu.  Fe'i cefnogir yn gryf gan y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau.

 

Wrth gwrs, bydd manylion yr hyn a gaiff ei gyflawni o fewn y Fframwaith yn newid ac yn datblygu dros amser, yn enwedig wrth i'r hinsawdd economaidd newid. Yn ystod dirwasgiad, mae her diweithdra yn dod i'r amlwg, ac mae angen mynd i'r afael â phrinder sgiliau yn ystod cyfnodau o dwf cryf. 

 

Fodd bynnag, yn y ddwy sefyllfa uchod, mae'n bwysig i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â'r Trydydd Sector, Undebau Llafur, Cyflogwyr a Llywodraeth Leol yng Nghymru, gydweithio i weithredu Fframwaith y Farchnad Lafur a sicrhau'r manteision uchod i bobl Cymru.