Skip to content

Ysgrifenedig - Cartrefi Nyrsio Di-elw

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i wella'r gwasanaethau a ddarperir i bobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed, er mwyn eu helpu i fod yn annibynnol a chyrraedd eu potensial llawn.   Roedd “Cymru'n Un" yn nodi y byddwn yn gweithio i wella ansawdd gwasanaethau gofal, gan greu llwybrau gofal di-dor am gost deg.  Roedd hyn yn cynnwys y gwaith o ddatblygu cartrefi nyrsio di-elw. 

 

Ynghyd â'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf wedi bod yn ystyried ystod o opsiynau i nodi'r dull gorau o gyflawni'r ymrwymiad hwn.   Y model y cytunom i'w ddatblygu yw'r model ar gyfer canolfan adnoddau integredig a fydd yn cynnwys cartref nyrsio fel un o'i elfennau.  Byddai'r model hwn yn darparu ystod ehangach o wasanaethau a chyfleusterau lleol, a gallai fod yn arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig.  Gallai'r model gynnwys gwelyau cartrefi nyrsio, cyfleusterau gofal dydd, tai extracare, canolfan wybodaeth, swyddfa ar gyfer gwasanaethau cymunedol, safle Meddyg Teulu ac ati.  Byddai'r union gyfuniad o wasanaethau yn cael ei seilio ar ddadansoddiad o anghenion lleol. 

 

Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran Dai ac yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio'n agos â swyddogion mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i ddatblygu'r dull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau.  Mae prosiectau arddangos yn cael eu datblygu yn Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys ac yn Nhregaron yng Ngheredigion.

 

Rwy'n sicr y bydd y dull hwn yn cynnig ffordd fwy hyblyg o ymateb i anghenion lleol ac y bydd yn ffordd gyffrous ac arloesol o ddatblygu gwasanaethau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed yng Nghymru.

 

O ran yr amserlen sydd gennym, ni fydd yn bosibl defnyddio'r holl arian sydd ar gael ar gyfer yr ymrwymiad hwn yn Cymru'n Un.  Felly, mae'r arian yn cael ei ailddyrannu i Raglen y Grant Tai Cymdeithasol i ddarparu cartrefi fforddiadwy, helpu'r diwydiant adeiladu a chyfrannu at darged Cymru'n Un o 6,500 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.