Skip to content

Ysgrifenedig - Penodiadau i’r Cabinet

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Rwy’n ysgrifennu i’ch hysbysu bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi cymeradwyo’r enwebiadau ar gyfer Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru yn fy Nghabinet. Dyma’r manylion:

 

Mae dau Weinidog newydd yn ymuno â’r Cabinet – bydd y cyn Brif Chwip Carl Sargeant yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, a’r cyn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio Leighton Andrews yn Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae Jane Hutt yn symud at bortffolio newydd fel Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb.

 

Penodwyd dau Ddirprwy Weinidog newydd yn dilyn newidiadau portffolio, gan greu dau bortffolio newydd. Bydd Lesley Griffiths yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth tra bydd Huw Lewis yn arwain portffolio newydd fel Dirprwy Weinidog dros Blant. Yn y rôl hon bydd Mr Lewis yn gyfrifol yn benodol am gydgysylltu materion y Llywodraeth mewn perthynas â thlodi plant.

 

Dyma fanylion y Cabinet newydd:

 

Ieuan Wyn Jones - Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jane Hutt - Busnes a’r Gyllideb

Edwina Hart - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jane Davidson - Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Leighton Andrews - Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Carl Sargeant  - Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Elin Jones - Materion Gwledig

Alun Ffred Jones - Treftadaeth

                                               

Dirprwy Weinidogion

 

Lesley Griffiths - Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth

Jocelyn Davies - Tai ac Adfywio

Gwenda Thomas - Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Lewis - Plant

 

 

John Griffiths - Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Rhaglen Ddeddfwriaethol                          

Janice Gregory - Prif Chwip