Skip to content

Ysgrifenedig - Ailbrisio Ardrethi Annomestig - Cynyddu Trothwyon Rhyddhad Ardrethi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae'r broses ailbrisio eiddo annomestig yn digwydd bob pum mlynedd yng Nghymru a Lloegr. Nid mesur ar gyfer codi trethi yw ailbrisio - yn syml mae'n ailddosbarthu'r ardrethi a delir rhwng eiddo a hynny'n seiliedig ar eu gwerthoedd cymharol ar adeg yr ailbrisio. O ganlyniad, bydd rhai biliau ardrethi yn codi a rhai yn lleihau, ond ychydig iawn o newid ar gyfartaledd a welir yn y bil cenedlaethol a hynny yn unol ag unrhyw gynnydd neu leihad ym Mynegai Prisiau Manwerthu mis Medi 2009. 

 

Bydd dros 60% o'r rheini sy'n talu ardrethi ar eu helw yn sgil yr ailbrisiad, a byddant yn derbyn biliau is oherwydd ein bod wedi gostwng y lluosydd ar gyfer 2010-2011, dros dro, o 0.489 i 0.409.

 

Rwyf felly yn cynnig diwygio Gorchymyn  Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 er mwyn bod y prif drothwyon rhyddhad yn cynyddu o leiaf 20% i sicrhau bod y cyllid ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei gynnal ar y lefelau presennol. Mae'n bosibl y gallai o leiaf hanner yr eiddo busnes yng Nghymru fod yn gymwys i dderbyn y rhyddhad hwn, a bydd nifer o rai eraill yn gymwys i dderbyn rhyddhad o fath arall megis yr eiddo sy'n cael eu meddiannu gan elusennau neu eiddo sydd heb eu meddiannu.

 

O ganlyniad ni fydd y rhan fwyaf o'r busnesau sydd wedi gweld cynnydd yn eu gwerth ardrethol yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol, ynghyd â'r nifer sydd wedi gweld eu gwerthoedd yn cynyddu mwy na hynny, yn disgyn allan o'r trothwyon rhyddhad. Bydd trothwyon y gwerthoedd ardrethol ar gyfer rhyddhad yn cynyddu fel a ganlyn 

  • £2,000 i £2,400 ar gyfer y rhyddhad cyffredinol gwerth 50% 
  • £6,500 i £7,800 ar gyfer y rhyddhad cyffredinol gwerth 25%
  • £9,000 i £11,000 ar gyfer y rhyddhad gwerth 25% ar gyfer manwerthu.

Wrth benderfynu ar y camau gweithredu hyn yr wyf wedi ystyried sylwadau oddi wrth gynrychiolwyr busnes, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Twristiaeth Cymru. Maent wedi nodi mai eu prif flaenoriaeth yw codi'r trothwyon rhyddhad ardrethi busnesau bach, ac ychydig iawn o frwdfrydedd a welir mewn perthynas â’r cynllun rhyddhad trosiannol sy'n seiliedig ar fodel Lloegr a fyddai, mewn gwirionedd yn cymryd arian oddi wrth y busnesau hynny sydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i'r dirwasgiad er mwyn rhoi cap ar y cynnydd i fusnesau sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus.

 

Gwnaeth Llywodraeth y Cynulliad roi ystyriaeth ofalus i ddulliau eraill o gymorth, gan gynnwys mesurau wedi'u targedu i helpu busnesau maint bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol sydd wedi cynyddu'n llawer mwy na'r cyfartaledd, ond o ganlyniad i'r sefyllfa ariannol anodd nid oedd yn gallu darparu unrhyw arian ychwanegol ar gyfer cynllun hyfyw o fewn y gyllideb a gymeradwywyd gan y Cynulliad ar 8 Rhagfyr 2009.

 

Rwy'n ymwybodol bod clystyrau o brisiadau mewn ambell i fan lleol wedi cynyddu'n fwy na'r cyfartaledd, ond mae hyn yn adlewyrchu gwerthoedd rhent lleol, sy'n ffurfio rhan o'r prisiadau ardrethol annomestig. Yr wyf hefyd yn ymwybodol bod rhai o sectorau'r sector twristiaeth wedi cynyddu'n uwch na'r cyfartaledd, yn enwedig yn y sector hunanarlwyo. Fodd bynnag bydd y sector hwn yn elwa'n fawr o godi'r trothwyon rhyddhad, a bydd mwy na 95% o'r eiddo yn dod o dan y trothwyon ardrethi diwygiedig, a bydd mwy na hanner o'r eiddo o bosibl, yn gymwys i dderbyn rhyddhad gwerth 50%, ac o ganlyniad yn talu llai na £41 y mis.  Bydd dros 90% o westai a thai preswyl hefyd yn dod o dan y trothwyon diwygiedig.

 

Bydd y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 hefyd yn cael eu diwygio i godi'r trothwy gwerth ardrethol y mae eiddo gwag yn cael eu heithrio rhag rhwymedigaeth i ardrethi annomestig i £18,000 o 1 Ebrill 2010 - 31 Mawrth 2011. Bydd hyn yn gwneud y cynnydd dros dro i'r trothwy a gyhoeddwyd gan y Canghellor mewn perthynas â Lloegr yn gymwys i Gymru yn yr adroddiad rhag-gyllidebol ar 9 Rhagfyr 2009, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad wrth i fusnesau geisio sicrhau eglurder o ran eu rhwymedigaethau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn nesaf a hynny mor gynnar â phosibl, ac nid oedd yn bosibl gwneud penderfyniad ar y mesurau hyd nes y daeth y trafodaethau ar y gyllideb i ben.