Skip to content

Ysgrifenedig - Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn Ninas a Sir Abertawe: Aelodaeth y Bwrdd Ymyrraeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Rwyf wedi gwneud dau ddatganiad blaenorol yn y Cyfarfod Llawn yn amlinellu fy mhryderon ynghylch y gwasanaethau cymdeithasol i blant yn Ninas a Sir Abertawe.

Ar 3 Mawrth, dywedais fy mod yn ystyried gwneud Gorchymyn o dan Adran  84  o Ddeddf Plant 1989 yn datgan nad oedd yr Awdurdod yn llwyddo i gyflawni rhai o’i swyddogaethau ac yn ei gyfarwyddo i gymryd camau i wella. Dywedais hefyd fy mod yn ystyried sefydlu Bwrdd Ymyrraeth i gynnig her gadarn allanol i’r awdurdod er mwyn sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol.

Canfyddiadau Arolygiad a gynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Rhagfyr 2008 a’m harweiniodd i ystyried cymryd camau o’r fath.  Canfuwyd bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud yn dilyn ei arolygiad yn 2007 a bod y Prif Arolygydd wedi rhoi’r Protocol ar gyfer Ymateb i Bryderon Difrifol ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol ar waith, ond er hynny,  roedd y ddau arolygiad wedi gwneud yr un dyfarniad cyffredinol. Roedd y gwasanaethau’n parhau i fod yn anghyson a’r rhagolygon ar gyfer eu gwella yn parhau i fod yn ansicr.

Cafodd Abertawe 14 niwrnod i ymateb i’m cynnig a daeth llythyr i law oddi wrth y Prif Weithredwr yn cadarnhau y byddai’r awdurdod yn bachu ar y cyfle i weithio gyda’r Bwrdd Ymyrraeth ac y byddai’n sicrhau cymorth corfforaethol ar lefel uwch swyddogion ac aelodau wrth fynd ati i sicrhau’r gwelliannau anghenrheidiol yn ei wasanaethau cymdeithasol i blant.

Yn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth, gwneuthum gadarnhau fy mod y diwrnod hwnnw wedi llofnodi’r Gorchymyn o dan Adran 84 o Ddeddf Plant 1989 a’m bod yn mynd ati i sefydlu’r Bwrdd Ymyrraeth.  Rwyf yn ystyried bod ei gyfansoddiad yn hollbwysig gan y bydd rhaid i’w aelodau feddu ar y cefndir  a’r profiad fydd yn eu galluogi i gyflawni’r Cylch Gorchwyl rwyf wedi’i bennu. Rhoddais wybod i aelodau’r Cynulliad am aelodaeth y Bwrdd, sef fel a ganlyn:


Cadeirydd annibynnol nad yw’n gysylltiedig â meysydd gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol:

Ei Anrhydedd y Barnwr Graham Jones

Cafodd ei eni a’i fagu yn y Rhondda a graddiodd yn y Gyfraith o Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Ar ôl cael gyrfa ddisglair yn bartner yn un o gwmnïau mwyaf blaenllaw y gyfraith yng Nghaerdydd a chyfnod o ddeng mlynedd yn Ddirprwy Farnwr Cylchdaith a Chofiadur, fe’i penodwyd yn Farnwr Cylchdaith (y cyfreithiwr cyntaf i fod yn Farnwr Cylchdaith yng Nghymru) ac yn Uwch Farnwr Cylchdaith yn 2000. Rhwng 1990 a 1998, roedd yn Farnwr Teulu Dynodedig, yn gyntaf ym Merthyr Tudful ac yna yng Nghaerdydd, ac ar ôl hynny, fe’i penodwyd yn Farnwr Sifil Dynodedig ar gyfer Cymru. Ymddeolodd yn 2005, ond mae’n parhau i eistedd fel Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys ac fel Dirprwy Farnwr Cylchdaith yn ystod sesiynau’r llys. Mae’n aelod o’r Cyngor Cyfiawnder Sifil , gan ymwneud ar ei ran yn benodol â datblygiadau ym maes cyfraith sifil a’i gweithdrefnau yn Ewrop; ac mae hefyd yn cyfrannu at raglenni datblygu a hyfforddi’r Farnwriaeth yn aelod-wladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfarwyddwr presennol neu flaenorol Gwasanaethau Cymdeithasol:

Nigel Richardson

Mae gan Nigel Richardson dros ugain mlynedd o brofiad ym maes Lles Plant ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gweithredol a rheoli. Arweiniodd hyn at ei benodi i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Dinas Hull.  Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol (Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai) Cyngor Gogledd Swydd Lincoln. Hefyd, bu’n gweithio am bum mlynedd y tu allan i lywodraeth leol fel ymgynghorydd gofal cymdeithasol i nifer fawr o awdurdodau lleol. Ar wahoddiad yr Adran Iechyd, ymunodd â’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol a gyfrannodd at ddatblygu’r Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd.  Ym mis Ebrill 2001, fe’i secondiwyd i ymuno â’r Arglwydd Laming fel cynghorydd gofal cymdeithasol i Banel Ymchwiliad Victoria Climbié.  

Pennaeth gwasanaethau plant a phobl ifanc presennol neu flaenorol:

Raymond Ciborowski

Penodwyd Raymond Ciborowski yn Gofrestrydd a Phennaeth Gweinyddiaeth Prifysgol Abertawe yn 2008. Yn y swyddogaeth hon, ef yw arweinydd strategol swyddogaethau gweinyddol canolog y Brifysgol, gan gynnwys y gofrestrfa academaidd, cyfrifiadura gweinyddol, ystadau, adnoddau dynol, gwasanaethau gwybodaeth a’r llyfrgell, marchnata, cynllunio, ymchwil ac arloesi, ynghyd â gwasanaethau i fyfyrwyr sy’n cyflogi mwy na mil o staff.

Cyn ymuno â’r Brifysgol, dilynodd yrfa proffesiynol a rheoli ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc. Ar ôl deng mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol y rheng flaen, penodwyd Mr  Ciborowski i nifer o swyddi rheoli yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Gorllewin Morgannwg cyn cael ei benodi yn Bennaeth cyntaf Gwasanaethau Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym 1995. Ar ôl mwy nag wyth mlynedd yn y swydd honno, symudodd i’r sector gwirfoddol pan gafodd  ei benodi’n Gyfarwyddwr Barnardo’s Cymru yn 2004.

Mr Ciborowski yw Cadeirydd Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot ac aelod o Fwrdd Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot.  Cyn hynny, bu’n un o Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru. Yn ddiweddar, bu’n gynghorydd yn ystod y broses o sefydlu’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol.

Mae Mr Ciborowski yn byw yng Nghwm Tawe ers 30 mlynedd.

Prif Weithredwr awdurdod lleol presennol neu flaenorol

Colin Berg

Cafodd Colin Berg ei eni a’i addysgu yn y Barri a graddiodd o Brifysgol Abertawe lle cafodd ei hyfforddiant proffesiynol hefyd. Mae wedi cael gyrfa amrywiol ym maes gwasanaethau cyhoeddus, a’i swydd gyntaf oedd fel Swyddog Prawf yng Ngogledd Gorllewin Lloegr yn ystod y 1970au.  Newidiodd drywydd yng nghanol y 1980au gan symud i faes Hyfforddi a Datblygu gyda Chyngor Sir Swydd Gaer. Yn y stod yr ugain mlynedd nesaf, gweithiodd ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, yn Swydd Gaer  i ddechrau, cyn symud yn ôl i Gymru yn 2000 i fod yn Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Fynwy.  Yn ystod yr adeg hon, bu’n arweinydd cenedlaethol ar adnoddau ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac arweinydd rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ar ddatblygu’r gweithlu.

Fe’i dyrchafwyd yn Brif Weithredwr gyda’r un Cyngor yn 2004, ac mae’n parhau i weithio yn y swydd hon.  Mae bellach yna arwain ar faterion yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer  SOLACE(Cymru).  Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau, ac mewn sicrhau bod partneriaethau’n fwy effeithiol a chynhyrchiol.  
   
Unigolyn sydd ar hyn o bryd neu wedi bod yn aelod etholedig mewn llywodraeth leol yn meddu ar brofiad o faterion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol

Rose Seaborne

Bu Rose gynt yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gan wasanaethu o 1998 hyd at 2008.

Yn ei rôl fel Aelod o Gabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Lles, bu’n aelod nifer o Bartneriaethau. Bu’n Gadeirydd y Bartneriaeth Iechyd a Lles, Cadeirydd Partneriaeth y Blynyddoedd Diweddar ac yn aelod o Fframwaith Plant a Phobl Ifanc a Phartneriaeth Pobl Ifanc. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Torfaen.

Yn ystod yr adeg y bu’n aelod o’r Cyngor, arweiniodd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyngor drwy gyfnod o newid mawr gan gynnwys yr ail Gyd-Adolygiad, gan sicrhau canlyniadau ardderchog. Hefyd, cyfrannodd at lwyddiant Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o ran ennill Gwobr Aur Iechyd Corfforaethol.


Rwyf yn ddiolchgar i bawb a oedd wedi cytuno i roi eu henwau ger bron i’w hystyried gennyf ac a oedd yn barod i helpu i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen yn Abertawe.

Mae aelodau’r Bwrdd rwyf wedi’u penodi yn meddu ar yr hygrededd sydd ei hangen i gyflawni’r cyfrifoldebau yr wyf wedi’u pennu ar eu cyfer. Bydd y Bwrdd yn dechrau ar ei waith cyn gynted â phosibl a byddaf yn awyddus i dderbyn adrodd ganddo ar y cynnydd y mae’r awdurdod yn ei wneud.

Er hynny, fel yr wyf wedi pwysleisio drwyddi draw, ni effeithir ar y cyfrifoldeb dros sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen – Dinas a Sir Abertawe sy’n gyfrifol am hyn.  Mae pob un o’r aelodau wedi’i ethol i sicrhau y gall yr awdurdod ddarparu gwasanaethau cymdeithasol sy’n gallu diogelu plant a phobl ifanc Abertawe ac ymateb i’w hangenion, ynghyd â chefnogi’u teuluoedd. Mae’n hanfodol cael arweiniad cryf gwleidyddol a chorfforaethol os ydym i gyflawni hyn.  Rhaid i Abertawe rhoi blaenoriaeth i’r gwaith hwn ac rwyf wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru arolygu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant eto ym mis Ionawr 2010 neu’n gynt os bydd angen gwneud hynny.