Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r Aelodau ar ddatblygiadau o ran fy ymyrraeth i faterion Cyngor Sir Ynys Môn.
Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad hynod o feirniadol ar drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor, ac argymhellodd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymyrryd i adfer y sefyllfa. Dywedais fy mod yn cytuno mewn egwyddor â'r argymhelliad hwnnw mewn datganiad lafar yn y Cyfarfod Llawn ar yr un diwrnod.
Ers hynny, rwyf wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus, ac rwyf i a'm swyddogion wedi trafod y materion sy'n codi yn fanwl â'r Cyngor, yr Archwilydd Cyffredinol ac â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nid wyf wedi newid fy marn. Mae'r Cyngor mewn sefyllfa ddifrifol ac nid oedd modd iddo fynd i'r afael â phryderon a buddiannau dinasyddion a chymunedau Ynys Môn. Yn anffodus, yr unig ddewis arall y gellir ei gyfiawnhau yw bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd.
Yn dilyn y datganiad a wnaethum yn y Cyfarfod Llawn, anfonais gyfarwyddyd drafft i'r Cyngor, fel math o ymgynghoriad, sy'n amlinellu'r telerau yr oeddwn yn bwriadu ymyrryd arnynt. Mae gan y Cyngor hawl i gyflwyno sylwadau ynghylch y cyfarwyddyd arfaethedig cyn i mi gyflwyno'r fersiwn terfynol. Rwyf yn falch o ddweud bod y sylwadau hynny wedi bod yn rhai cadarnhaol. Mae'r Cyngor yn llwyr dderbyn yr angen i ni weithredu ac yn derbyn y telerau yr wyf yn bwriadu gwneud hynny'n unol â hwy.
Rwyf felly heddiw wedi cyflwyno cyfarwyddyd ffurfiol i'r Cyngor sy'n adlewyrchu fy nghynigion cynharach. Mae'r telerau fel a ganlyn.
1. Ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio'n llawn ac yn gynaliadwy â holl argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a hynny cyn gynted â phosibl.
Nid oes angen egluro hyn. Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi gwendidau difrifol a pharhaol y mae'n rhaid i'r Cyngor eu cywiro.
2. Atal y Cyngor rhag arfer ei swyddogaethau o ran penodi pennaeth gwasanaeth cyflogedig / rheolwr gyfarwyddwr am gyfnod o ddwy flynedd.
Mae Ynys Môn wedi bod heb reolwr gyfarwyddwr parhaol am sawl mis. Ar hyn o bryd, y Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden sy'n cyflawni'r swydd dros dro, ac mae, wrth reswm, yn dymuno ailgydio yn ei briod ddyletswyddau'n llawn amser.
Bellach, mae angen rheolwr gyfarwyddwr ar y Cyngor sydd wedi cael profiad llwyddiannus o reoli newid adferol ac ailadeiladu'r drefn lywodraethu gorfforaethol. Ychydig iawn o unigolion o'r fath sydd ar gael ac nid wyf yn credu y buasai modd i'r Cyngor recriwtio'r fath unigolyn. Byddai ei broblemau cyfredol a'r niwed difrifol sydd wedi'i wneud i'w enw da yn atal llawer o bobl rhag ymgeisio, a byddai'r broses recriwtio agored y byddai'n rhaid iddo'i dilyn yn cymryd llawer gormod o amser. Mae'r Cyngor yn llwyr dderbyn y ddadl hon.
Yn lle hynny, rwyf wedi arfer p?er y Cyngor i ddynodi pennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, gan wneud y penderfyniad, i bob pwrpas, ar ran y Cyngor. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, mae'n bleser gennyf ddynodi Mr David Bowles i swydd pennaeth y gwasanaeth cyflogedig (rheolwr gyfarwyddwr) dros dro. Mae gan David enw da yn yr union feysydd rydym yn chwilio amdanynt, gan gynnwys ei benodiad llwyddiannus yn ddiweddar i swydd prif weithredwr dros dro ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd yn dechrau ar ei waith yn yr hydref.
Wrth ddynodi David, rwyf yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn y Cyngor ac ar yr ynys yn gyffredinol. Nid yw David yn siarad Cymraeg. Pe byddai ymgeisydd sy'n siarad Cymraeg ar gael sy'n meddu ar gystal neu well sgiliau a phrofiad, byddwn wedi ei benodi/phenodi i'r swydd dros dro hon. Ond er gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i'r fath unigolyn, ni lwyddwyd i wneud hynny. Yn lle hynny, rwyf yn cyfeirio'r Cyngor i wneud trefniadau addas i gynorthwyo David wrth ddelio ag unigolion, swyddogion a dinasyddion y mae'n well ganddynt ddefnyddio Cymru drwy ddarparu cyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd priodol.
Bydd David yn cael ei benodi i'r swydd am flwyddyn ar y mwyaf yn y lle cyntaf. Rydym ni ac mae yntau'n gobeithio erbyn diwedd y cyfnod hwnnw y bydd y Cyngor mewn sefyllfa i benodi ei reolwr gyfarwyddwr parhaol ei hun a fydd yn gweithio i sicrhau ei fod yn adfer y sefyllfa cyn i mi derfynu'r ymyrraeth yn ffurfiol.
3. Gwahardd y Cyngor rhag diwygio'i gynllun o ddirprwyaethau (sy'n amlinellu'r swyddogaethau i'w cyflawni gan Aelodau, pwyllgorau a swyddogion) oni bai fy mod yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.
Mae hwn yn ofyniad llai pwysig, ond yn un angenrheidiol, yn fy marn i. Mae gwrthdaro rhwng grwpiau o aelodau, a rhwng aelodau a swyddogion, yn ganolog i broblemau Ynys Môn. Efallai y gallai fod achos dros edrych o'r newydd ar eu swyddogaethau fel rhan o'r broses adfer, ond nid 'nawr yw'r adeg i wneud hynny. Rhaid felly i'r drefn bresennol o ddirprwyaethau barhau i fodoli am y tro.
4. Ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydweithredu â Bwrdd Adfer y byddaf yn ei benodi i fonitro cynnydd ac i roi gwybod i mi ac i'r Cyngor amdano.
Nid ar chwarae bach y dylai unrhyw Weinidog gymryd y cam i ymyrryd. Ond wedi gwneud hynny, mae angen i mi fod yn si?r o'r cynnydd y mae Ynys Môn yn ei wneud a'r angen am unrhyw gamau pellach i'w cymryd yma. Byddaf felly yn penodi Bwrdd Adfer i roi cyngor awdurdodol ac annibynnol i mi ar y materion hynny. Caiff y Bwrdd hefyd gynghori'r Cyngor ar gamau gweithredu posibl i'w cymryd.
Mae trafodaethau ag aelodau posibl o'r Bwrdd yn mynd rhagddynt a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall maes o law. Bydd y Bwrdd hefyd yn cychwyn ar ei waith yn yr hydref.
Mae fy nghyfarwyddyd yn para am ddwy flynedd, er fy mod yn cadw'r hawl i'w gwtogi, i'w ymestyn neu i'w ddiwygio ar unrhyw adeg. Cyn ystyried a ddylwn dynnu'r cyfarwyddyd yn ôl, bydd angen i mi gael tystiolaeth glir a diamheuol fod y Cyngor wedi datrys yr holl broblemau y mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi'u nodi. Ond nid oes gennyf ddiddordeb mewn newid arwynebol neu mewn cydymffurfio er ei fwyn ei hun. Byddaf am fod yn sicr fod y trefniadau newydd y mae'r Cyngor yn eu rhoi ar waith yn rhai cadarn a chynaliadwy a'u bod yn caniatáu i'r Cyngor, i bob diben, fynd i'r afael â'r heriau difrifol y bydd yr ynys yn eu hwynebu yn y tymor hwy. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i bawb o fewn y Cyngor dderbyn yr angen am newid a gweithio gyda'r trefniadau newydd er mwyn sicrhau adferiad cyflym a chynaliadwy. Hyderaf y byddant yn gwneud hynny.
Byddaf yn hapus i wneud datganiad llafar os yw Aelodau'r Cynulliad yn dymuno hynny cyn gynted ag y caf gyfle yn y sesiwn newydd