Skip to content

Ysgrifenedig - Cyngor Sir Ynys Môn – Bwrdd Adfer

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae'r datganiad hwn yn hysbysu'r Aelodau am fy mhenodiadau diweddar i'r Bwrdd Adfer, a fydd yn fy hysbysu am gynnydd Cyngor Sir Ynys Môn o ran mynd i'r afael â'r gwendidau difrifol yn ei reolaeth gorfforaethol.

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad oedd yn hynod feirniadol o lywodraethu corfforaethol y Cyngor, gan argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymyrryd i sicrhau adferiad. Nodais fy mod yn cytuno mewn egwyddor â'r argymhelliad hwnnw mewn datganiad llafar i'r Cyfarfod Llawn ar yr un diwrnod. O ganlyniad, rhoddais gyfarwyddyd ffurfiol i'r Cyngor, gan amlinellu'r telerau yn fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 12 Awst.

Yn ogystal â’m galluogi i benodi Mr David Bowles fel Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd y cyfarwyddyd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydweithredu gyda Bwrdd Adfer. Bydd y Bwrdd hwn yn fy hysbysu am gynnydd y Cyngor, yn ogystal â chynghori'r Cyngor am gamau gweithredu y gallai eu cymryd i gynyddu’i allu a’i adnoddau i ymateb i’w broblemau cyfredol. 

Dywedais yn fy natganiad diwethaf y byddwn yn cyhoeddi pwy yw aelodau'r Bwrdd cyn gynted â phosibl. Mae bellach yn bosibl i mi wneud hynny.

Cadeirydd y Bwrdd fydd yr Athro Elan Closs Stephens CBE. Mae Elan yn aelod anweithredol o'n bwrdd cyflawni a pherfformiad strategol sy'n arbenigo mewn llywodraethu corfforaethol, ac mae'n gyn-Gadeirydd S4C a Chwarae Teg. Mae hi hefyd yn cadeirio’n Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

Dyma fydd aelodau eraill y Bwrdd.

Nid oes angen cyflwyno Sue Essex; mae'n gyn Aelod Cynulliad a Gweinidog uchel ei pharch, gydag arbenigedd penodol ym materion llywodraeth leol. Enillodd Sue barch o'r sbectrwm gwleidyddol cyfan drwy gydol ei gyrfa ac mae'n parhau i wneud hynny.

Ymddeolodd Bill Horne yn ddiweddar fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent ar ôl deng mlynedd ar hugain o wasanaeth fel swyddog yr heddlu gyda heddluoedd Gwent a Dyfed Powys. Bydd y profiad a'r arbenigedd hwnnw o reoli yn cynnig safbwynt gwahanol gwerthfawr i waith y Bwrdd.

Ffermwr o Ben Llŷn yw Richard Parry Hughes gyda phrofiad helaeth o wasanaethau cyhoeddus yn y Gogledd-orllewin, fel cyn arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a bellach fel aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Mae Dr Zoë Radnor yn Athro Cysylltiol yn Ysgol Fusnes Warwick a chaiff ei chydnabod yn arbenigwr ym maes rheoli a gwella perfformiad. Mae Zoë wedi gweithio gydag Ynys Môn yn y gorffennol, yn ogystal ag awdurdod lleol eraill yng Nghymru a Lloegr.

Mae Mel Usher yn ffigwr blaenllaw ym maes gwella ac adfer llywodraeth leol, gan gymryd swyddi uwch reoli mewn nifer o awdurdodau lleol. Roedd yn gyfrifol am greu'r Asiantaeth Gwella a Datblygu ar gyfer llywodraeth leol, gan gymryd swydd fel y prif weithredwr cyntaf.

Graham Williams yw cyn Brif Arolygydd Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyfarwyddwr y GIG yn y Canolbarth a'r Gorllewin. Yn ddiweddar ymddeolodd Graham fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad.

Rwy'n falch bod yr unigolion hyn wedi cytuno i wasanaethu ar y Bwrdd. Maent yn cynnig profiad a gwybodaeth helaeth o amryw ffynonellau. Bydd eu harbenigedd o fudd mawr i mi a'r Cyngor wrth geisio adferiad cyflym a chynaliadwy.

Rwyf hefyd yn falch bod tri o aelodau'r Bwrdd – Elan, Richard a Graham – yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae'r penodiadau hyn yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg i'r Cyngor a'r ynys, ac yn sicrhau y bydd modd i unrhyw un drafod materion ag aelodau'r Bwrdd yn Gymraeg os ydynt am wneud hynny. 

Bydd dyletswydd ar y Cyngor i weithio gyda’r Bwrdd Adfer. Rôl ymgynghorol fydd gan y Bwrdd, gan fonitro cynnydd y Cyngor tuag at adfer a'm hysbysu'n briodol. Gallant hefyd gynghori'r Cyngor ar gamau posibl i'w cymryd. Ond y Cyngor sy'n gyfrifol am ei adferiad. Ni fydd y Bwrdd yn cymeradwyo, yn atal nac yn addasu unrhyw benderfyniad gan y Cyngor.   

Yn dilyn fy natganiad llafar ym mis Gorffennaf, holodd rhai o’r Aelodau effaith y gost ar wasanaethau rheng flaen Ynys Môn. Mae'n hollbwysig y ceir adferiad cyflym a chynaliadwy – os na wneir hyn bydd gwasanaethau'n dioddef llawer mwy, gyda'r perygl difrifol o fethu'n llwyr. Felly, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n talu costau'r Bwrdd Adfer, gan ddefnyddio rhan fechan o grant dewisol sy'n daladwy i Ynys Môn am fodloni'i blaenoriaethau gwella – ac nid oes blaenoriaeth fwy na hon o safbwynt gwella.  

Rwy'n gobeithio trefnu cyfarfod cyntaf y Bwrdd yn fuan a byddaf yn gwneud datganiad llafar gerbron y Cynulliad wedi hynny.