Yn unol â’r ymrwymiad yn ‘Cymru’n Un’, euthum ati fis Medi diwethaf i gyhoeddi ymgynghoriad am y camau rheoli tir sy’n cael eu darparu o dan echel 2 o gynllun datblygu gwledig Cymru. Mae’r camau hyn yn cynnwys Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, y cynllun ffermio organig a’r cynllun coetiroedd gwell.
Yr oedd y papur ymgynghori yn nodi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermio o ran y newid yn yr hinsawdd, rheoli dŵr a bioamrywiaeth. Cynigiwyd nifer o ddewisiadau lle’r amlinellwyd sut y gellid mynd ati i ailgyfeirio cymorth o dan echel 2 er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Daeth 92 o ymatebion ffurfiol i law, yn ogystal ag adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, a chafodd dadl ei chynnal hefyd yn y Cyfarfod Llawn. Mae’r holl ymatebion hyn wedi cael eu dadansoddi’n ofalus. Wrth asesu’r dewisiadau, yr wyf hefyd wedi ystyried strategaeth datblygu cynaliadwy a strategaeth amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad. Ar ôl ystyried yn ofalus, yr wyf wedi penderfynu cyflwyno cynllun newydd a fydd yn cael ei enwi’n ‘Glastir’. Bydd dwy elfen i’r cynllun: bydd yr elfen gyntaf yn agored i bob ffermwr yng Nghymru, a bydd yr ail yn cael ei thargedu at yr ardaloedd hynny a fydd yn gallu sicrhau’r canlyniadau amgylcheddol sydd bwysicaf i Gymru.
Ar ôl gwrando ar y pryderon ynglŷn â rhoi digon o amser i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer unrhyw newidiadau, yr wyf wedi penderfynu peidio â chyflwyno’r cynllun newydd o 2010 ymlaen. Yn lle hynny, bydd yn cael ei gyflwyno o fis Ionawr 2012 ymlaen, a bydd trefniadau pontio yn eu lle tan 2014.
Mae’r cynlluniau presennol wedi bod yn effeithiol, ond yr oedd y cyd-destun yn wahanol bryd hynny. Mae’n rhaid i’r cynllun rheoli tir ar gyfer y degawd nesaf ymateb i’r heriau a amlinellwyd yn agenda archwiliad iechyd y polisi amaethyddol cyffredin, y cytunwyd arni fis Tachwedd diwethaf. Yr heriau hyn—sef y newid yn yr hinsawdd, rheoli tir a bioamrywiaeth—fydd sail cynlluniau rheoli tir ledled Ewrop o 2014 ymlaen. Pe byddem yn mynd ati i gyflwyno cynllun na fyddai’n mynd i’r afael â’r heriau hyn, byddai’n ddigon posibl y byddai angen newid y cynllun hwnnw ymhen ychydig flynyddoedd, a byddai hynny’n tarfu unwaith eto ar y sector ac yn arwain at wastraff gweinyddol sylweddol. Yr ydym yn rhagweld y bydd newidiadau mawr i gynllun taliad sengl y polisi amaethyddol cyffredin yn 2014 hefyd, ac mae’n bwysig ein bod yn osgoi dwy set o newidiadau mawr ar yr un pryd.
Euthum ati’n ofalus i ystyried a fyddai modd addasu’r cynlluniau sy’n bodoli eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol. Mae Tir Mynydd yn gynllun digolledu sy’n cydnabod y ffaith bod costau ychwanegol yn dod i ran y rheini sy’n ffermio mewn ardaloedd mwy ymylol, a bod eu hincwm hefyd yn is. O dan reolau’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer taliadau digolledu ac o fewn y gyllideb sydd ar gael, nid oes modd gwella’r cynllun hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a amlinellwyd yn yr archwiliad iechyd. O’r herwydd, yr wyf wedi penderfynu nad yw addasu’r cynlluniau presennol yn ddewis ymarferol er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn sefydlog yn y tymor hir.
Wrth ddatblygu cynllun newydd, yr wyf yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod yn rhaid iddo fod yn fodd i sicrhau diwydiant amaethyddol cynaliadwy, sy’n rhoi lle canolog i’r fferm deuluol. Y rhagolygon gwariant ar gyfer ein cynlluniau rheoli tir yn 2012 a 2013 yw £89 miliwn y flwyddyn, a bydd yr un lefel o daliadau ar gael i ffermwyr o dan y cynllun newydd.
Er na fydd mesur penodol bellach ar gyfer yr ardal lai ffafriol, bydd premiwm o 20 y cant ar gyfer pob ffermwr yn yr ardal lai ffafriol a fydd yn rhan o’r elfen Cymru gyfan o Glastir. Bydd hyn yn cynnwys pob ffermwr llaeth nad yw’n cael hawlio taliadau ardal lai ffafriol ar hyn o bryd. Bydd hwn yn daliad safonol ac ni fydd yn gwahaniaethu rhwng ardaloedd o dan anfantais fawr ac ardaloedd o dan anfantais. Er bod angen gwneud llawer o waith o hyd ar y trefniadau gweithredol newydd, awgryma’r amcanestyniadau cychwynnol y bydd y taliad sylfaenol ar gyfer yr elfen Cymru gyfan o’r cynllun tua £28 yr hectar. Bydd premiwm o 20 y cant ar gyfer ffermwyr sydd o fewn ffin bresennol yr ardal lai ffafriol, a fydd yn golygu y bydd eu taliad nhw yn £33.60 yr hectar. O dan y cynllun Tir Mynydd yn 2009, yr oedd y taliadau fesul hectar yn £24 ar gyfer yr ardal dan anfantais ac yn £28 ar gyfer yr ardal dan anfantais fawr.
O dan y cynllun Glastir, bydd grant cyfalaf blynyddol o £5 miliwn ar gael o 2012 ymlaen er mwyn gosod technolegau ynni adnewyddadwy a thechnolegau effeithlonrwydd ynni ar ffermydd. Bydd cymorth ychwanegol wedi’i dargedu ar gael hefyd i ffermwyr a fydd yn cynnig mynediad at ddibenion addysgol a mynediad caniataol. O fewn parthau perygl nitradau, bydd cymorth grant ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf i wella’r modd yr ymdrinnir â thail a slyri ac i leihau llygredd gwasgaredig. Bydd gweddill y cynllun ffermio sensitif i ddalgylch bellach yn dod yn rhan o’r elfen a dargedir o Glastir.
Yn ystod yr ymgynghoriad, gofynnwyd i bobl fynegi eu barn ynglŷn â chynnig cymorth ar gyfer cnydau ynni yng Nghymru. Ni ddaeth unrhyw farn gyffredinol a phendant i’r amlwg. Yr wyf wedi penderfynu, felly, bod mynd ati i ailffocysu echel 2, ynghyd â chyflwyno’r cynllun grantiau cyfalaf arfaethedig, yn ffordd well o ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael er mwyn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau y mae’r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â hwy. Er hynny, byddwn yn parhau i gydweithio â chadwyni cyflenwi ar gyfer cynlluniau pŵer lleol a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Bydd fy nghyhoeddiad heddiw yn arwain at gamau gweithredu amgylcheddol wedi’u targedu er mwyn sicrhau canlyniadau ym maes bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr. Bydd hefyd yn gymorth cyffredinol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol i ffermydd ledled Cymru â phob ffermwr yn cael gwneud cais i ymuno â chynllun sylfaenol Glastir, a bydd yn diwygio’r gyfres o gynlluniau a geir ar hyn o bryd, gan greu un broses hwylus a symlach ar gyfer ffermwyr. O ganlyniad i’m penderfyniad, bydd cynlluniau Tir Gofal a Tir Cynnal yn cael eu cau ar unwaith, ac ni fydd unrhyw ymgeiswyr newydd yn cael ymuno â hwy. Os bydd yr ymweliad cyntaf â’r fferm wedi’i gynnal erbyn 8 Mai, ac os bydd ffermwyr ar ganol llunio cytundebau, bydd y ceisiadau hynny’n cael eu prosesu. Bydd y taliad olaf o dan gynllun Tir Mynydd ym mis Mawrth 2011. Yr wyf yn parhau i ystyried sut i integreiddio’r cynllun organig i mewn i Glastir, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y man ar hynny. Ar gyfer 2012 yn unig, os bydd gan ffermwyr gontract dan gynllun Glastir, byddant yn gymwys i dderbyn rhagdaliad ym mis Medi, a bydd y taliad olaf yn cael ei dalu ym mis Rhagfyr. Wedi hynny, bydd y taliadau ar gyfer y cynllun yn cael eu talu ym mis Rhagfyr.
Mae’r trefniadau newydd hyn i reoli tir yn amodol ar gytundeb y Comisiwn Ewropeaidd. Caiff cynnig ffurfiol ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd y mis nesaf, gyda’r nod o sicrhau cymeradwyaeth yn yr hydref. Er bod yr union amserlen i’w chadarnhau, mae’n debygol y bydd y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer y cynllun newydd yn agor yn ystod haf blwyddyn nesaf, ac y bydd y contractau’n dod i rym ym mis Ionawr 2012.
Yn y cyfamser, yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r rheini sydd â buddiant ym maes ffermio ac yng nghefn gwlad wrth iddynt fynd ati i gadarnhau’r manylion ymarferol, a hynny fel y bo modd cyflwyno’r trefniadau newydd mewn modd effeithiol yn 2012. Yr wyf wedi gofyn iddynt edrych yn benodol ar leihau biwrocratiaeth.
Mae Glastir yn newid mawr. Mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd ac yn rheoli’r tir, ac maent yn gwneud hynny er eu budd masnachol eu hunain ac er lles y gymdeithas gyfan. Bydd Glastir yn talu ffermwyr i reoli’r tir mewn modd a fydd yn cwrdd â nifer o flaenoriaethau ein cymdeithas heddiw.