Sefydlwyd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ym mis Mawrth 2007, o dan gadeiryddiaeth y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Peter Archer QC o Sandwell, er mwyn ymchwilio i ddigwyddiadau yn y 1970au ac ar ddechrau’r 1980au a oedd yn gysylltiedig â’r canlynol ‘the supply to patients of contaminated NHS blood and blood products, its consequences for the haemophilia community and others affected: and further steps to address both their problems and needs and those of bereaved families’.
Cyhoeddwyd adroddiad yr Ymchwiliad ar 23 Chwefror a daeth i’r casgliadau canlynol:
· Dylid bod wedi cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus llawn i’r mater hwn ynghynt o lawer er mwyn ymateb i bryderon y gymuned haemoffilia.
· Cafodd yr ymdroi o ran bod yn hunangynhaliol ar lefel genedlaethol er mwyn osgoi defnyddio cynhyrchion gwaed uchel eu risg o dramor, ganlyniadau trychinebus. Pe bai cyflenwadau digonol wedi’u sicrhau ynghynt, byddai maint y trychineb wedi bod yn llai o lawer. Os bydd pryderon yn codi yn y dyfodol ynghylch diogelwch cynhyrchion gwaed, dylid cofio’r wers hon.
· Weithiau cafodd y berthynas rhwng y meddyg a’r claf ganlyniadau anffodus wrth i’r trychineb hwn ddatblygu. Ymddengys fod y proffesiwn meddygol wedi gwneud cynnydd da yn hyn o beth. Bellach mae pobl yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynnwys cleifion wrth wneud penderfyniadau clinigol anodd ac ni ddylid anghofio hyn.
· Ni ddylai blaenoriaethau masnachol byth â bod yn bwysicach na buddiannau iechyd y cyhoedd.
Croesawaf yr adroddiad, mae’r Arglwydd Archer a’i gyd-aelodau ar yr ymchwiliad wedi cyflawni ymchwiliad cynhwysfawr a manwl o gofio mor anodd yw ymchwilio i bethau a ddigwyddodd dros 20 mlynedd yn ôl.
Rwyf wedi ystyried argymhellion yr Adroddiad ac rwyf wedi nodi fy ymateb i bob un o’r argymhellion isod. Fodd bynnag, mae angen rhoi ystyriaeth fanylach i rai argymhellion o hyd.
Diben yr Adroddiad oedd ystyried cyflenwadau gwaed a chynhyrchion gwaed a halogwyd â feirws, a’r effaith drychinebus a gafodd hyn ar y gymuned haemoffilia yn enwedig, o ddechrau’r 1970au ymlaen, nes bod profion ar gael ar gyfer hepatitis C a HIV.
Argymhelliad 1 – Pwyllgor statudol i roi cyngor ynghylch rheoli haemoffilia
Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ddadl yn adroddiad yr Arglwydd Archer ei bod yn hanfodol i gleifion gael eu cynrychioli pan fydd penderfyniadau am arferion da o ran darparu gofal iechyd yn cael eu gwneud. Dyna'r egwyddor fawr sydd wrth wraidd y diwygiadau i’r gwaith o ddarparu gofal iechyd sydd wedi dechrau yng Nghymru.
Er fy mod yn cydnabod ei bod yn hollbwysig cynnwys cleifion, nid wyf i, na gweinyddiaethau iechyd eraill y DU, yn argyhoeddedig mai pwyllgor statudol newydd, â phwerau dros gyflenwadau gwaed a chynhyrchion gwaed, yw’r ffordd orau o gynnwys cleifion haemoffilia mewn penderfyniadau o’r fath.
Rydym yn dal i gredu ei bod yn hollbwysig sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle er mwyn rhoi cyngor ar ddiogelwch gwaed, ac er mwyn argymell gwelliannau. Mae gennym drefn eisoes er mwyn gwneud hyn trwy’r pwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol ar Ddiogelwch Gwaed, Meinwe ac Organau (SaBTO), sy’n rhoi cyngor i weinyddiaethau’r DU. Mae cynrychiolaeth o blith cleifion ar SaBTO, ac mae’n datblygu ffyrdd effeithiol o gyfleu ei gyngor i randdeiliaid a’r cyhoedd.
Y farn gyffredinol yn ein plith yw ei bod hi’n well adeiladu ar y trefniadau a’r arbenigedd sy’n bodoli eisoes. Rydym wedi penderfynu, felly, i adeiladu ar y bartneriaeth sy’n bodoli eisoes ledled y DU rhwng cleifion meddygon haemoffilia ac eraill sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ofalu am y cleifion hyn, sef y Cynghrair Haemoffilia. Bydd gofyn i’r Cynghrair roi cyngor ar faterion sy’n ymwneud yn benodol â gofalu am gleifion haemoffilia a chaiff ei wahodd hefyd i ymuno â grwpiau cynghori perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yna gysylltiadau cadarn rhwng y Cynghrair a SaBTO.
Argymhelliad 2 – Cleifion haemoffilia a’u partneriaid i gael unrhyw brofion a argymhellir gan y pwyllgor statudol
Byddwn yn ystyried unrhyw brofion perthnasol newydd a argymhellir gan y Cynghrair Haemoffilia ar gyfer trallwyso gwaed.
Argymhelliad 3 – Pob rhoddwr gwaed i gael yr un profion (a argymhellir gan y pwyllgor statudol)
Mae’r pwyllgor cynghori ar ddiogelwch gwaed, meinwe ac organau yn rhoi cyngor eisoes ar brofion ar gyfer y rheini sy’n rhoi gwaed a bydd yn parhau i wneud hynny.
Argymhelliad 4 - Presgripsiynau am ddim a’r hawl i fanteisio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau eraill “not freely available under the NHS including GP visits, counselling, physiotherapy, home nursing and support services” ar gyfer y rheini y mae hyn yn effeithio arnynt
Mae’r gofyniad hwn yn cael ei weithredu eisoes yng Nghymru gan fod presgripsiynau rhad ac am ddim wedi’u cyflwyno ym mis Ebrill 2007. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod pobl sydd â haemoffilia ac eraill sydd wedi’u halogi ag Hepatitis B a/neu HIV o waed a chynhyrchion gwaed yn cael gofal da, eu bod yn cael cymorth yn eu cymunedau, ac yn cael gwybod yn llawn am y modd gorau o ofalu am eu hiechyd. Rhoddir ystyriaeth i unrhyw argymhellion oddi wrth y Cynghrair Haemoffilia ar gyfer gwella’r gofal y mae’r grŵp hwn o gleifion yn ei gael.
Argymhelliad 5 – Sicrhau dyfodol y Gymdeithas Haemoffilia trwy’i hariannu’n ddigonol
Yn ei hymateb i Adroddiad yr Arglwydd Archer, mae’r Adran Iechyd yn cynnig rhoi arian i’r Gymdeithas Haemoffilia. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithredu nifer o gynlluniau grant i gefnogi sefydliadau elusennol a gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru, a gallai sefydliadau o’r fath ystyried gwneud cais am y grantiau hyn.
Argymhelliad 6 – Dylid cynyddu’r cymorth ariannol a hynny ar ffurf taliadau penodol rheolaidd
Mae tri chynllun taliadau ar waith eisoes yn y DU.
Sefydlwyd Ymddiriedolaethau Macfarlane ac Eileen ar gyfer cleifion a halogwyd trwy amryfusedd trwy waed a chynhyrchion gwaed â HIV. Mae’r Ymddiriedolaethau hyn wedi rhoi cymorth gwerth dros £45 miliwn hyd yn hyn. Yr Adran Iechyd, ar ran y DU, sy’n goruchwylio’r gwaith o redeg Ymddiriedolaeth Macfarlane ac Ymddiriedolaeth Eileen fel ei gilydd, ac yn ei hymateb i Adroddiad yr Arglwydd Archer, mae wedi ymrwymo i gynyddu’r arian sydd ar gael.
Cynllun taliadau cydnabyddiaeth ledled y DU yw Cronfa Skipton, ar gyfer gwneud taliadau i bobl a halogwyd ag hepatitis C yn sgil triniaeth â gwaed neu gynhyrchion gwaed yn y GIG cyn mis Medi 1991. Sefydlwyd Cronfa Skipton gan bedair gweinyddiaeth iechyd y DU ar y cyd er mwyn gweinyddu’r cynllun a gwneud taliadau i’r hawlwyr perthnasol. Mae’r Cynllun wedi talu dros £97 miliwn gan gynnwys dros £5.3 miliwn i dderbynyddion yng Nghymru. Ni fyddwn yn newid y modd y gweithredir Cronfa Skipton ond yr wyf i, ynghyd â’r Gweinidogion Iechyd eraill yn y DU, yn ymrwymo i adolygu’r cynllun yn 2014, pan fydd yr Ymddiriedolaeth wedi bodoli ers 10 mlynedd.
Argymhelliad 7 - Galluogi pobl i fanteisio ar yswiriant trwy gynnig premiymau neu sefydlu cynllun ar wahân
Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain wedi sicrhau’r Adran Iechyd nad yw yswirwyr yn trin haemoffiligion na’r rheini sydd wedi’u halogi â HIV neu â Hepatitis C yn wahanol i bobl sydd â chyflyrau sydd arnynt eisoes. Ym mhob achos, penderfynir a ddylid rhoi yswiriant i rywun a lefel y premiymau trwy asesu’i risg unigol.
Bydd y taliadau uwch hyn sydd ar gael trwy law Ymddiriedolaethau Macfarlane ac Eileen yn helpu pobl sydd wedi’u halogi â HIV i dalu’r premiymau yswiriant uwch y byddant o bosibl yn eu hwynebu.
Argymhelliad 8 – Mynd ati i fwrw golwg yn ôl i nodi rhagor o bobl sydd wedi’u halogi o bosibl
Byddwn yn mynd ati i fwrw golwg yn ôl unwaith eto i nodi unrhyw unigolion eraill nad ydynt wedi’u nodi trwy’r gwaith a wnaed eisoes ac rydym wedi gofyn i Sefydliad Meddygon Canolfan Haemoffilia’r DU (UKHCDO) fod yn gyfrifol am hyn.
I gloi, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod gyda thristwch y canlyniadau trallodus sydd wedi dod i ran llawer o gleifion a’u teuluoedd, sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r union driniaethau a ddylai fod wedi gweddnewid eu bywydau er gwell.
Fy nghyfrifoldeb i, fodd bynnag, yw ystyried yr Adroddiad yng nghyd-destun anghenion y GIG yn ehangach yng Nghymru. Rwyf yn derbyn nad yw fy ymateb i argymhellion yr Adroddiad yn debygol o fodloni’n llawn bryderon na dymuniadau’r unigolion hynny y mae’r pethau hyn wedi cael effaith mor erchyll arnynt.