TB gwartheg yw un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant llaeth a chig eidion yng Nghymru. Y llynedd, cafodd dros 12,000 o wartheg eu difa o ganlyniad i'r clefyd, ac fe wariwyd bron i £25 miliwn ar iawndal. Eleni, mae dros 8,000 o wartheg wedi eu lladd yn barod, o’i gymharu ac ychydig dros 7,000 o wartheg yn yr un cyfnod llynedd. Erbyn 2014 gallai'r gost i'r trethdalwr fod yn £80m, os na fyddwn yn gweithredu.
Rydym wedi sefydlu rhaglen gynhwysfawr i waredu TB gwartheg. Mae'r rhaglen yn ymdrin yn bennaf â chamau i rwystro gwartheg rhag lledu'r clefyd.
Mae'r gwaith ar rwystro gwartheg rhag lledu TB yn mynd rhagddo'n dda. Mae Archwiliad Iechyd TB Cymru, menter i brofi holl fuchesi Cymru cyn diwedd mis Rhagfyr, yn bwrw ymlaen ynghynt na'r disgwyl a hyd yma mae wedi llwyddo i ganfod bron i 100 o achosion newydd mewn buchesi na fyddent wedi’u canfod, o bosibl, am bedair blynedd arall. Caiff holl fuchesi Cymru eu profi eto yn 2010.
Mewn llai na blwyddyn, rydyn ni hefyd wedi sicrhau gostyngiad o dros 97% yn y nifer o brofion a oedd yn hwyr ar ddechrau’r fenter o 711 i 18.
Yn ddiweddarach y tymor hwn, rwy'n bwriadu ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fydd yn cynnwys newidiadau i'r iawndal ar gyfer TB gwartheg ac esemptiadau Cyn Symudiadau. Rydym hefyd yn datblygu polisïau mewn perthynas ag anifeiliaid eraill a allai ddal y clefyd, sef camelidau a geifr.
Ond ni allwn anwybyddu'r gronfa o afiechyd sydd o fewn ein bywyd gwyllt. Os ydym am waredu'r clefyd mae'n rhaid i ni gael Strategaeth Rheoli Bywyd Gwyllt effeithiol.
O'r cychwyn cyntaf, rwyf wedi dweud mai dim ond fel rhan o raglen gyffredinol i waredu TB y byddaf yn caniatáu difa moch daear, a hynny os yw'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos y gall gyfrannu at ostwng nifer yr achosion o TB mewn gwartheg.
Ym mis Mawrth 2009 fe gyhoeddais, ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, fy mod yn parhau i gredu bod difa'n angenrheidiol er mwyn gwaredu TB a fy mod yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth a fyddai'n caniatáu i Lywodraeth y Cynulliad weithredu a rheoli proses ddifa, ac ymgynghori ar yr is-ddeddfwriaeth honno. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw ar y Gorchymyn drafft hefyd yn gofyn i'r cyhoedd roi eu barn am y pwerau y byddai eu hangen er mwyn gweithredu strategaeth effeithiol i frechu moch daear pan fydd hi’n ymarferol i wneud hynny.
Fe ddechreuodd yr ymgynghoriad ym mis Ebrill ac fe barhaodd am 14 wythnos, sy'n hirach na chyfnod ymgynghori arferol Llywodraeth y Cynulliad. Hefyd, fe gyhoeddais y dystiolaeth berthnasol ar ein gwefan.
Roedd yna ddiddordeb eang yn yr ymgynghoriad. O'r 741 o ymatebion a atebodd y cwestiynau'n uniongyrchol, roedd 54% o'r ymatebwyr o Gymru, 31% o'r tu allan i'r wlad, ac ni wnaeth 15% ddarparu eu cyfeiriadau.
Roedd y Gorchymyn drafft yn gofyn chwe chwestiwn ond, yn ôl y disgwyl, mater difa fel rhan o strategaeth i reoli moch daear a dderbyniodd y nifer fwyaf o ymatebion.
Roedd tri chant saith deg a thri o ymatebwyr (50%) yn gwrthwynebu difa fel rhan o'r strategaeth; roedd tri chant a chwe deg un o'r ymatebwyr (49%) yn cytuno y gallai difa moch daear, ochr yn ochr â mesurau ar gyfer gwartheg, gael effaith ar waredu TB yn yr ardaloedd hynny lle mae'n endemig. Ni wnaeth 1% ymateb i'r cwestiwn hwn.
O blith y rhai o Gymru, roedd 85% yn cytuno bod angen ystyried difa fel rhan o strategaeth i reoli moch daear. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â difa fel rhan o strategaeth rheoli bywyd gwyllt o'r tu allan i Gymru, gan gynnwys 42% o'r tu allan i'r DU. Ni wnaeth 22% roi eu cyfeiriad.
Derbyniwyd hefyd ddwy ddeiseb, oedd â phedwar cant ac wyth deg saith
o lofnodion i gyd. Hefyd, derbyniwyd mil, cant a deunaw o e-byst. Er bod y rhain yn berthnasol i gynnwys yr ymgynghoriad, nid oeddent yn cyfeirio'n uniongyrchol at yr ymgynghoriad nac yn ateb unrhyw un o'r cwestiynau a ofynnwyd.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno mai Llywodraeth y Cynulliad oedd y corff mwyaf priodol i gynnal y rhaglen ddifa. Roeddent hefyd yn cytuno y dylem gael pwerau mynediad yn y dyfodol er mwyn gweithredu strategaeth frechu effeithiol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, ac wedi ystyried yr ymatebion a gyflwynwyd, rwy'n parhau i gredu bod difa moch daear yn yr Ardal Beilot Triniaeth Ddwys yn angenrheidiol fel rhan o'n rhaglen i waredu TB mewn gwartheg. Heddiw rwy'n gosod Gorchymyn Gwaredu Twbercwlosis (Cymru) 2009 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu'r pwerau deddfwriaethol ar gyfer strategaeth rheoli bywyd gwyllt dan reolaeth y llywodraeth, sy'n cynnwys difa a brechu. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon ohoni'i hun, fodd bynnag, yn golygu dechrau rhaglen difa moch daear.
Cyn i mi wneud penderfyniad terfynol ar Ardal Beilot Triniaeth Ddwys, mae yna gamau pellach y mae angen eu cymryd.
Rwyf wedi dweud yn gyson na allai unrhyw raglen i ddifa moch daear ddechrau hyd nes y bydd yr holl waith paratoadol wedi'i gwblhau. Mae'r Gorchymyn hwn yn gam pwysig tuag at gwblhau'r gwaith hwnnw, gan ddarparu'r pwerau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer rhaglen ddifa a reolir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae'r gwaith o asesu effaith amgylcheddol posibl proses ddifa ar yr Ardal Beilot Triniaeth Ddwys arfaethedig yn bwrw ymlaen yn dda, ac rydym yn parhau i ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio yn yr ardal dros yr haf i sicrhau y bydd, cyn belled â phosibl, yn bodloni safonau gofynnol y Grŵp Gwyddonol Annibynnol ar gyfer rhaglen ddifa lwyddiannus.
Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r broses ddifa. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y camau nesaf yn y man.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau nad ein bwriad yw lladd pob mochyn daear yng Nghymru ond, yn hytrach, ddileu clefyd gwanychol a heintus. Byddai unrhyw raglen ddifa'n targedu ardal endemig ac yn cael ei chynnal mewn ffordd fyddai'n osgoi creulondeb. Ein nod, yn y pen draw, yw cael poblogaeth o wartheg iach a moch daear iach. Mae moch daear yn parhau i fod yn rhywogaeth a warchodir, a rhaid hysbysu'r heddlu am unrhyw weithrediadau anghyfreithlon.
Gall Aelodau'r Cynulliad weld yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn www.cymru.gov.uk/tbmewngwartheg
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=144613&ds=9/2009
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=144614&ds=9/2009