Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Bydd yr Aelodau am nodi y caiff y Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) ei osod heddiw, 2 Mawrth 2009. Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol gerbron y Cyfarfod Llawn yfory, 3 Mawrth 2009, er mwyn cyflwyno’r Mesur.

Mae’r Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella bywydau plant a theuluoedd agored i niwed yng Nghymru a bywydau’r rhai hynny sydd o dan anfantais oherwydd tlodi plant. Bydd yn ein galluogi i roi cymorth i’r teuluoedd a’r plant hynny sydd â’r angen mwyaf a fyddai, heb gymorth ychwanegol, o dan anfantais annheg yn ein cymdeithas.

Mae'r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yn gwneud darpariaeth statudol, drwy fframwaith deddfwriaethol, i fynd ati i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran tlodi plant, ac i fynd ati'n fuan i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer plant agored i niwed drwy ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl, a gorfodaeth reoleiddiol gryfach mewn lleoliadau plant.

Mae'r Mesur yn waith trawsbynciol ac wedi'i rannu'n bedair rhan:

  • Rhan 1:  Dileu Tlodi Plant
  • Rhan 2:  Gwarchod Plant a Gofal Dydd i Blant 
  • Rhan 3:  Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd  
  • Rhan 4:  Amrywiol a Chyffredinol

Rhan 1: Dileu Tlodi Plant

Nod y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yw mynd i’r afael â thlodi plant mewn modd strategol a chydgysylltiedig. Am y tro cyntaf, bydd yn ei gwneud hi’n ddyletswydd statudol ar i Weinidogion Cymru ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd ar gyfer Cymru. Caiff y Strategaeth hon ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a’i hadolygu bob tair blynedd.

Rydym hefyd yn cydnabod y rhan allweddol a fu gan awdurdodau Cymreig eraill yn ein brwydr ar y cyd yn erbyn tlodi plant. I’r perwyl hwnnw felly, mae’r Mesur yn rhoi dyletswydd gyffelyb ar awdurdodau Cymreig a chyrff eraill i nodi a chymryd camau mewn perthynas â’u hamcanion a’u strategaethau eu hunain. Mae llwyddiant y gwaith partneriaeth ymhlith awdurdodau lleol wrth fynd i’r afael â thlodi plant yn sail i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant. Y Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc fydd y prif gyfrwng strategol i awdurdodau lleol a’u partneriaid eu defnyddio i gyflawni’r ddyletswydd hon.

Ceir yn y Mesur arfaethedig ddarpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer ein hymrwymiad yn Cymru’n Un i fynd ati i ddarparu gofal plant llawn amser o'r radd flaenaf yn ddi-dâl ar gyfer plant dwy oed mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf am y gofal hwnnw. Mae’n cynnwys ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ddarpariaeth i’w gwneud hi’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gofal plant wedi’i dargedu o’r radd flaenaf ar gael yn ddi-dâl mewn ardaloedd penodol ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad hirdymor i’r agenda hon. Dim ond petai’r penderfyniad yn cael ei wneud rywbryd yn y dyfodol i drosglwyddo’r cyllid Dechrau’n Deg i’r Grant Cynnal Refeniw y câi’r pwerau newydd hyn eu defnyddio.

Mae’r Mesur hefyd yn gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer gweithgareddau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd drwy’r rhaglen Cymorth – un o brif gyfryngau Llywodraeth y Cynulliad o fynd i’r afael â thlodi plant – pan gaiff yr adnoddau hyn eu symud i’r Grant Cynnal Refeniw o fis Ebrill 2011 ymlaen.

Diben Rhan 1 y Mesur yw cyflwyno fframwaith deddfwriaethol sy'n pennu:

  • ystod o nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant; 
  • dyletswydd ar 'awdurdodau Cymreig' i lunio a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru;
  • manylion sy'n gymwys i Weinidogion Cymru o ran eu strategaeth;
  • manylion sy'n gymwys i awdurdodau lleol o ran eu strategaeth;
  • diwygiadau i adran 26 o Ddeddf Plant 2004 i glymu dyletswydd yr awdurdod lleol i fod â strategaeth gyda'r ddyletswydd o dan yr adran honno i lunio cynllun;
  • darpariaeth am y strategaethau i'w llunio gan awdurdodau Cymreig heblaw Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol;
  • dyletswydd i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau gofal plant di-dâl yn unol â Rheoliadau a chanllawiau;  
  • pŵer i awdurdodau lleol sicrhau gwasanaethau cymorth i rieni a gwasanaethau cymorth iechyd;
  • gofyniad i awdurdodau lleol ddarparu mathau penodol o wasanaethau cymorth i rieni lle bo’n ofynnol gan reoliadau;
  • gofyniad i awdurdodau lleol ddarparu mathau penodol o wasanaethau cymorth iechyd lle bo’n ofynnol gan reoliadau;
  • pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol am y camau i'w cymryd i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant ac arfer swyddogaethau o dan Adrannau 1 i 9;
  • pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adrannau perthnasol lle mae Gweinidogion Cymru yn fodlon fod yr awdurdod Cymreig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan Adran 2, 6 neu 9 neu'n debygol o fethu â chydymffurfio â hi;
  • yr awdurdodau Cymreig sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan Adran 2 o'r Mesur.

Rhan 2: Gwarchod Plant a Gofal Dydd i Blant

Bydd Rhan 2 o’r Mesur arfaethedig yn caniatáu i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) alinio pwerau gorfodi ar gyfer gwasanaethau wedi’u rheoleiddio ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd i blant â gwasanaethau eraill sy’n cael eu rheoleiddio, er enghraifft cartrefi plant a chartrefi gofal i oedolion. Bydd y Mesur felly yn cryfhau pwerau rheoleiddio a gorfodi mewn lleoliadau plant.

Dyma’r gwelliannau i’w gwneud:

  • y gallu i osod amodau cofrestru mewn argyfwng;  
  • rhoi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau cofrestredig, ac
  • ymestyn y terfyn amser ar gyfer erlyniadau o chwe mis i ddeuddeg mis.

Bydd y cynigion yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym, yn bendant ac i raddau sy’n gymesur i achos lle torrwyd rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr plant a darparwyr gofal dydd.

Er mwyn sicrhau eglurder wrth ddrafftio’r darpariaethau gorfodi newydd, bu’n rhaid ail-fframio’r ddeddf mewn perthynas â rheoleiddio a chofrestru gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd i blant o dan 8 oed ac sydd wedi’u nodi ar hyn o bryd yn Rhan 10A o Ddeddf Plant 1989, ynghyd ag Atodlen 9A. Heblaw am y darpariaethau gorfodi ehangach, mae’r Mesur yn ailddatgan ac yn addasu’r ddeddf mewn dull mwy cydlynus. Nid yw’n effeithio mewn unrhyw fodd ar allu pobl i gofrestru’n warchodwyr plant neu’n ddarparwyr gofal dydd i blant ac nid yw’n darparu ar gyfer beichiau newydd sylweddol.

Mae hefyd yn gwneud darpariaeth newydd sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau i’r cynlluniau cofrestru deddfwriaethol. Ceir disgresiwn i gadw’r diffiniadau presennol ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd yn Rhan 10A o Ddeddf Plant 1989 neu i wneud newidiadau mewn ymateb i’r polisi newydd ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid. Yn ogystal â hynny, mae’n hyrwyddo nod hirdymor Llywodraeth y Cynulliad i gydgrynhoi cyfraith plant ac mae’n manteisio ar y cyfle i ddefnyddio Mesur priodol i wireddu’r nodau ehangach hyn.

Rhan 3:  Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd  

Mae’r Mesur yn nodi’r trefniadau ar gyfer Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd a fydd yn diwygio’r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu trefnu a’u cyflenwi i blant a theuluoedd agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth ac y mae angen cymorth integredig dwys arnynt gan weithwyr proffesiynol â lefel uchel o sgiliau.

Bydd y diwygiadau uchelgeisiol hyn, y mae eu gwir angen, yn gwella’r system gwasanaethau i blant er mwyn medru ymyrryd yn gynharach i reoli a chynorthwyo plant a theuluoedd i fyw gartref a ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Bydd gan y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd ran annatod i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag anghenion amrywiol plant sydd ‘mewn angen’ neu ‘mewn gofal’ fel y gallant gael eu haduno’n ddiogel er mwyn byw gyda’u teuluoedd. Bydd hefyd yn golygu y gellir canfod yn gynharach y plant hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl mawr ac na ellir bodloni eu hanghenion ond drwy wneud trefniadau mwy parhaol y tu allan i’r teulu.

Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (TICID) ddarparu gwasanaethau i deuluoedd lle mae yno blant mewn angen neu blant sy'n derbyn gofal a lle mae hynny'n gysylltiedig â rhyw fath ar angen (ee dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau) ar ran yr oedolion sy'n gofalu amdanynt. Mae hefyd yn rhoi dyletswyddau ar y Bwrdd Iechyd Lleol i helpu'r awdurdod lleol i sefydlu TICID a rhoi adnoddau iddo fel y gall awdurdod lleol gyflawni'i ddyletswyddau.

Mae'r darpariaethau'n cynnwys swyddogaethau, staff (aelodau craidd y tîm, safonau proffesiynol a galwedigaethol, a'r gofynion cofrestru) a'r trefniadau i sefydlu TICID a rhoi adnoddau iddynt, gan gynnwys cyfeiriad strategol gan Fwrdd TICID sydd â dyletswyddau statudol penodol mewn perthynas â'r TICID.

Timau amlasiantaethol fydd y TICID a'u swyddogaeth fydd darparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn uniongyrchol i deuluoedd lle mae yno blant mewn perygl o ddatblygu anawsterau hirdymor, neu ddioddef diffyg dilyniant sylweddol yn eu magwraeth a allai olygu fod y plentyn yn cael ei dderbyn i ofal. Hefyd, bydd y TICID yn cynorthwyo i aduno plant sydd wedi derbyn gofal yn wirfoddol. Bydd gan y TICID rôl hyfforddi o ran darparu hyfforddiant dan oruchwyliaeth i staff eang sy'n gweithio gyda theuluoedd mewn awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar amryw o dechnegau i ymgysylltu â theuluoedd cymhleth a darparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rhan 4:  Amrywiol a Chyffredinol

Diben Adran 4 o’r Mesur arfaethedig yw sicrhau bod gwaith gwych Cymorth yn sail i ddatblygu cyfleoedd chwarae plant a phobl ifanc a deall yr hyn sy’n gysylltiedig â hynny. Mae hefyd yn adlewyrchu’r rhan arweiniol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i chwarae yn hyrwyddo’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, yng ngoleuni asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae y bydd yn rhaid ei gynnal yn unol â rheoliadau a chanllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Hefyd, rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i sicrhau bod plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdodau lleol.

Yn arbennig, caiff y dyletswyddau canlynol eu rhoi ar awdurdodau lleol yn unol â Rhan 4:-

  • y ddyletswydd i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal;
  • y ddyletswydd i sicrhau y darperir digon o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol;
  • gwneud trefniadau i sicrhau y gall plant gymryd rhan ym mhenderfyniadau’r awdurdod sy'n effeithio arnynt.

Mae’r Mesur cynhwysfawr a thrawsbynciol hwn yn sylfaen gadarn i roi ar waith ein polisïau arbennig sydd wedi’u llunio i fodloni amgylchiadau penodol plant a theuluoedd yng Nghymru.