Ar 22 Ebrill, fel rhan o’r gyllideb ariannol, cyhoeddodd y Canghellor gyllidebau carbon cyntaf erioed y byd a oedd yn pennu’n gyfreithiol dargedau i ostwng lefelau nwyon tŷ gwydr o leiaf 34% erbyn 2020.
Ochr yn ochr â chyhoeddiadau’r Gyllideb ariannol, cafwyd nifer o gyhoeddiadau eraill gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd yn ogystal ag adroddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd. Rwy’n awyddus i’ch hysbysu am y cyhoeddiadau hyn.
Cyflwynwyd y Gorchymyn Cyllidebau Carbon, Gorchymyn Deddf Newid yn yr Hinsawdd (Targedau 2020, Terfyn Credyd a Diffiniadau) a’r Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon gerbron y Senedd ar 22 Ebrill.
Mae’r Gorchymyn Cyllideb Carbon yn pennu’r tair cyllideb garbon gyntaf yn unol â gofynion Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Wrth bennu’r Cyllidebau Carbon mae Llywodraeth y DU wedi ystyried cyngor adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (CCC), ‘Building a Low Carbon Economy – the UK’s contribution to tackling Climate Change’ a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr.
Wrth baratoi ei gyngor, roedd rhaid i’r CCC wneud rhai rhagdybiaethau ynglŷn â natur pecyn hinsawdd ac ynni terfynol yr UE, sy’n pennu fframwaith polisi’r UE. Mae’r pecyn y cytunwyd arno yn Ewrop ar 12 Rhagfyr yn wahanol i ryw raddau i argymhellion gwreiddiol y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n golygu bod cyfran y DU o derfyn Cynllun Masnachu Gollyngiadau’r UE ychydig yn fwy llym na’r hyn yr oedd y CCC wedi’i ragdybio. O ganlyniad, mae’r cyllidebau carbon arfaethedig a gyhoeddwyd ychydig yn dynnach ac felly’n anoddach i’w cyflawni na’r rhai a argymhellodd y CCC fel cyllidebau interim cyn y cytundeb rhyngwladol.
Mae Gorchymyn Cyllidebau Carbon 2009 yn pennu’r tair cyllideb garbon ar gyfer y cyfnodau 2008-12, 2013-17, a 2018-22 fel a ganlyn:
- y gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol 2008-2012 yw’r hyn sy’n cyfateb i 3018 miliwn tunnell o garbon deuocsid;
- y gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol 2013-2017 yw’r hyn sy’n cyfateb i 2782 miliwn tunnell o garbon deuocsid; ac
- y gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol 2018-2022 yw’r hyn sy’n cyfateb i 2544 miliwn tunnell o garbon deuocsid;
Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bennu’r Cyllidebau Carbon erbyn 1 Mehefin 2009. Disgwylir i’r Gorchymyn hwn ddod i rym ar 31 Mai 2009.
Mae Gorchymyn Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (Targed 2020, Terfyn Credyd a Diffiniadau) yn diwygio targed 2020 i adlewyrchu’r gostyngiad o 34% yn yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yn hytrach na gostyngiad o 26% mewn allyriadau carbon deuocsid fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (CCC) ar gyfer y trydydd cyfnod cyllidebol. Mae hefyd yn pennu’r terfyn credyd ar gyfer y gyllideb gyntaf ac yn diffinio “hedfan rhyngwladol” a “morgludo rhyngwladol”.
Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn nodi bod angen system gyfrifyddu carbon hefyd er mwyn pennu cydymffurfiaeth â chyllidebau a thargedau carbon y Ddeddf. Tra bod y Ddeddf yn pennu gofynion sylfaenol y system, mae angen is-ddeddfwriaeth i bennu’r manylion. Mae’n rhaid cael system gyfrifyddu carbon oherwydd yn ogystal ag allyriadau domestig y DU, mae’n rhaid cyfrif am unedau carbon a brynir neu a werthir dramor drwy fasnach allyriadau hefyd. Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn gofyn am ddatganiadau i’r Senedd bob blwyddyn ac ar ddiwedd cyfnod pob cyllideb, a bydd y Rheoliadau’n sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i gynhyrchu’r adroddiadau hyn. Mae’r Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon wedi cyflwyno’r system sy’n ofynnol o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon yn y DU. Cyflwynodd yr ymgynghoriad argymhellion yn ymwneud â’r canlynol:
- Y mathau o unedau carbon i’w defnyddio wrth gyfrifyddu cyfrif carbon net y DU;
- Yr amgylchiadau lle gellir credydu unedau carbon i gyfrif carbon net y DU a’u debydu ohono, a sut y bydd hyn yn cael ei wneud;
- Canslo unedau carbon dros ben sydd gyfwerth â’r gwahaniaeth rhwng y gyllideb garbon a tharged Kyoto y DU;
- Gweinyddu’r cynllun.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r cynigion, a mabwysiadodd Llywodraeth y DU y rheolau fel y’u cynigiwyd yn yr ymgynghoriad. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi hefyd ochr yn ochr â’r Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon a chanllawiau ar sut i ddilyn y Rheoliadau yn ymarferol.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 11 Mawrth, cyflwynais grynodeb o ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (CCC) “Building a Low Carbon Economy - the UK’s contribution to tackling Climate Change.” Ochr yn ochr â chyflwyno’r Gorchymyn Cyllidebau Carbon, ar 22 Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb sy’n ystyried ein safbwyntiau ni. Mae’r adroddiad ‘Building a Low Carbon Economy - Implementing the Climate Change Act 2008’ ar gael ar wefan yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd neu fel dogfen atodol i’r Adroddiad ar Gyllideb 2009 ar wefan Trysorlys Ei Mawrhydi.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Asesiad o Effaith pecyn Hinsawdd ac Ynni’r UE ar y DU. Mae hyn yn pennu’r costau a’r manteision i’r DU o gyrraedd ei thargedau newid yn yr hinsawdd canolradd mewn ffordd sy’n gyson â phecyn targedau a pholisïau Hinsawdd ac Ynni’r UE y cytunwyd arno. Mae’r Asesiad o Effaith hefyd yn ystyried costau a manteision pennu Cyllidebau Carbon y DU yn unol ag ymrwymiadau’r DU o dan becyn yr UE.
Yn ogystal, cyhoeddwyd Investing in a Low Carbon Britain ar 23 Ebrill sy’n adeiladu ar Low Carbon Industrial Strategy Llywodraeth y DU drwy roi mwy o fanylion am gyhoeddiadau Cyllideb 2009 yn ymwneud â chreu Prydain carbon isel. Er enghraifft: rhoi manylion am y Gronfa Buddsoddi Carbon Isel gwerth £405 miliwn ar gyfer ymyriadau a dargedir mewn diwydiannau carbon isel â blaenoriaeth.
Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi adroddiad yn yr haf ar gynigion a pholisïau’r DU ar gyfer bodloni’r tair cyllideb garbon gyntaf, yn unol â gofynion y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Byddwn yn cyfrannu at yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r polisïau a’r rhaglenni sydd i’w cynnwys yn Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Cymru – Rhaglen Weithredu, y byddwn yn ymgynghori yn ei chylch yn yr haf.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwneud popeth posibl i helpu i ostwng allyriadau. Rydym yn credu y gallai Cymru fod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r heriau anferth yr ydym yn eu hwynebu mewn perthynas ag achosion newid yn yr hinsawdd, ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y targedau yr ydym wedi’u pennu i ni ein hunain.