Skip to content

Ysgrifenedig - Cynnydd ar yr Adolygiad o Gyrfa Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths , y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Heddiw rwyf yn cyhoeddi cynnyrch cyntaf yr Adolygiad – asesiad annibynnol o sut y mae trefniadau Gyrfa Cymru yn cymharu â systemau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn y DU a fan arall, gan gyfeirio at feini prawf yr OECD o ran arferion gorau. Cyflawnwyd yr astudiaeth gan yr Athro Tony Watts, arbenigwr rhyngwladol blaenllaw yn y maes hwn. Bydd ei adroddiad “Gyrfa Cymru: Adolygiad o Safbwynt Rhyngwladol” ar gael yn y Llyfrgell ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Daw’r Adroddiad i’r casgliad mai dyma gryfderau neilltuol Gyrfa Cymru:

• cenhadaeth glir a chydlynus;
• gwasanaethau sy’n darparu ar gyfer pobl o bob oed;
• ei broffesiynoldeb, a’r gwasanaethau o ansawdd sy’n deillio o hynny;
• y ffaith ei fod â’i wreiddiau ym mholisïau Llywodraeth y Cynulliad; a
• y ffaith ei fod yn gymaint rhan o gymunedau lleol.

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd rai heriau sy’n dal i’n hwynebu:

• y galw cynyddol i gynyddu lefelau’r gwasanaethau i oedolion mewn ymateb i agenda Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru a’r agenda diwygio lles o ganlyniad i’r cynnydd sydyn mewn diswyddiadau a diweithdra;
• yr angen i benderfynu a ddylai Gyrfa Cymru mewn gwirionedd fod yn ddarparwr gwasanaethau ar gyfer pobl o bob oed a gallu neu a ddylid caniatáu iddo gyfyngu ar fynediad a gwahaniaethu yn ymateb y gwasanaeth i rai categorïau o gleientiaid er mwyn canolbwyntio’r adnoddau sydd ar gael ar y rhai sydd angen cymorth fwyaf; a
• y rhaglen bartneriaeth y mae Gyrfa Cymru eisoes yn rhan fawr ohoni ar lefel leol drwy Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc a rhwydweithiau 14-19, sy’n mynnu cymaint o amser rheolwyr Gyrfa Cymru.

Mae’r Adroddiad yn cydnabod bod angen ailgydbwyso’r gwasanaethau ar raddfa helaeth gan roi blaenoriaeth i’r ddarpariaeth oedolion drwy gael darpariaeth sy’n gwahaniaethu’n amlycach ar gyfer pobl ifanc, trwy roi mwy o sylw i ddarparu cymorth yn y gweithle, a thrwy roi mwy o bwyslais ar feithrin gallu sefydliadau eraill i gyflenwi gwasanaethau. Mae’n nodi bod datblygu ymgysylltiad Gyrfa Cymru â chyflogwyr bellach yn bwysig iawn, fel bod pobl yn cael cymorth gweithredol i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfa gydol eu bywydau gwaith yn ogystal â chymorth o ran addysg gyrfaoedd a phrofiad gwaith pan fyddant yn ifanc.

Mae’r Athro Watts hefyd yn meddwl bod angen gwell arweinyddiaeth a gallu strategol o fewn Gyrfa Cymru, yn ogystal â rhyngwyneb cryfach â Llywodraeth y Cynulliad.  

Ochr yn ochr ag Adroddiad yr Athro Watts, rwyf hefyd yn cyhoeddi adroddiad gan Estyn, a gomisiynwyd yn gyfraniad i’r Adolygiad, sy’n cynnig trosolwg o berfformiad cwmnïau Gyrfa Cymru ar sail tystiolaeth adroddiadau arolygu. Nodir bod gwahaniaeth rhwng perfformiad y cwmnïau a arolygwyd. Fodd bynnag, er bod angen rhoi sylw i amryw ddiffygion, dengys fod eu perfformiad yn dda yn gyffredinol a bod cwmnïau Gyrfa Cymru yn gallu cyflawni canlyniadau eithriadol.

Ar sail y ddau Adroddiad, a chan ystyried sylwadau Grŵp Gorchwyl a Gorffen WESB sydd wedi cydredeg ag adolygiad Watts, rwy’n mynd i estyn cwmpas yr adolygiad o Yrfa Cymru. Bydd cam nesaf yr Adolygiad yn:

• cwmpasu’r ystod eang o wasanaethau addysg gyrfaoedd a gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd a ddarperir gan gwmnïau Gyrfa Cymru a gwasanaethau tebyg perthnasol eraill a ddarperir ym maes addysg, y sector gwirfoddol, byd busnes a’r gyfundrefn budd-daliadau;

• ystyried asesiad yr Athro Watts o sut mae’r ddarpariaeth gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru yn cymharu â’r ddarpariaeth mewn rhannau eraill o’r DU a gwledydd blaenllaw eraill; a sut y gellid datblygu’r trefniadau cyfredol yng Nghymru yn system o safon fyd-eang;

• ystyried gofynion neilltuol gwahanol grwpiau o gleientiaid a gofynion cyflogwyr wrth iddynt helpu unigolion i ddatblygu eu dyheadau gyrfaol, llwybrau dysgu a hunanreolaeth a sgiliau gyrfaol;

• ystyried cydlyniaeth gwasanaethau cyfredol sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd, pa mor gost-effeithiol y maent a pha mor dda y bydd cwmnïau Gyrfa Cymru, darparwyr addysg, cynghorwyr cyflogaeth a darparwyr gwasanaethau tebyg eraill yn gweithio mewn partneriaeth; dylai hyn gynnwys rhoi ystyriaeth i gwtogi ar nifer cwmnïau Gyrfa Cymru;

• datblygu’r weledigaeth o system addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd sy’n darparu ar gyfer pobl o bob oed a gallu – system o safon fyd-eang sy’n integredig ac yn cael ei harwain gan broffesiynolion; ac yn

• cynnig strategaeth ar gyfer gwireddu’r weledigaeth hon.

Rwy’n bwriadu trefnu i apwyntai allanol arwain cam nesaf yr Adolygiad (fel yn achos yr Adolygiad parhaus o Addysg Uwch), gyda chymorth grŵp llywio o brif randdeiliaid gan gynnwys cwmnïau Gyrfa Cymru. Rwy’n gobeithio y caiff y cam pellach hwn o’r adolygiad ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ynglŷn â hyn maes o law.

Yn y cyfamser, mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn ymateb i’r cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn. Cyhoeddais yn y bumed uwchgynhadledd economaidd ym mis Ebrill ein bod yn bwriadu darparu arian i’w gwneud yn bosibl penodi 30 o gynghorwyr gyrfaoedd eraill. Mae’r trefniadau ar gyfer y cyllid hwn yn cael eu gweithredu bellach.

Rwyf am orffen drwy dalu teyrnged i waith cwmnïau Gyrfa Cymru am y ffordd y maent wedi ymateb i’r dirywiad economaidd a’r cynnydd mewn diweithdra ac am y gwaith partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n rhan mor bwysig o’r ymateb hwnnw. Mae cyngor gyrfa o ansawdd uchel yn hollbwysig mewn cyfnod economaidd mor anodd – ond mae’r un mor bwysig wrth inni edrych i anghenion y dyfodol.