Skip to content

Llafar - Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

Ym mis Tachwedd 2008, mewn cyfarfod Llawn, dynodais fod gwaith yn mynd rhagddo o ran datblygu rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol gyda’r Gronfa Loteri Fawr. Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 5 Awst, hysbysais Aelodau fy mod wedi cyhoeddi partneriaeth swyddogol rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr i fwrw ymlaen â’r rhaglen hon. Mae’n ddull cyffrous o weithio: buddsoddiad ar y cyd o gronfeydd i gryfhau cymunedau mentrus Cymru. Bellach, mae’r partïon wedi cytuno ar gyfanswm gwerth y gronfa, sef £13 miliwn. Bydd hyn yn cynnwys yr elfennau cyfalaf a refeniw.

Nod y rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol fydd meithrin cymunedau mentrus i gymryd cyfrifoldeb dros asedau cymunedol a’u datblygu gan ddarparu atebion i’r heriau a wynebant; cyfrannu at adfywiad a chynaliadwyedd economaidd cymunedau; hybu a chryfhau annibyniaeth mudiadau’r trydydd sector drwy hwyluso menter gymdeithasol; a chael y sector cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill i weithio’n well mewn partneriaeth.

Mae’r dystiolaeth dros gael rhaglen yn ymwneud â throsglwyddo asedau cymunedol yn argyhoeddiadol. Gwnaethpwyd y pwynt yn adolygiad Quirk, a gynhaliwyd ar lefel y DU yn 2007, nad oes unrhyw rwystrau o bwys sy’n atal trosglwyddo asedau cyhoeddus i gymunedau. Cytunaf yn llwyr â hynny. Aeth yr adolygiad ymlaen i nodi bod gofyn cael ewyllys gwleidyddol, dychymyg rheolaethol, ac agwedd sy’n canolbwyntio fwy ar fusnes gan y sector cyhoeddus a chymunedol er mwyn hwyluso’r trosglwyddiadau hyn. Eisoes ledled Cymru, mae llawer o asedau wedi cael eu trosglwyddo—rai ohonynt yn llwyddiannus iawn: er enghraifft Galeri yng Nghaernarfon. Gwyddom fod risgiau gyda phob trosglwyddiad ond gwyddom hefyd y gellid eu lleihau a’u rheoli drwy ewyllys creadigol cymunedau a’u dyheadau i symud oddi wrth y cylch tlodi tuag at ffyniant.

Mae llawer o waith wedi’i wneud er mwyn llunio’r rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol. Yn 2008, comisiynwyd Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno cynigion ar sut y gallwn hybu trosglwyddo asedau a datblygu cymunedol yng Nghymru. Tynnodd astudiaeth y Gymdeithas sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ar gyfer buddsoddi mewn datblygu a throsglwyddo asedau cymunedol. At hynny, cynhaliodd y Gronfa Loteri Fawr ymarfer ymgynghori 16 wythnos, a oedd yn cynnwys ffocws penodol ar asedau cymunedol yng Nghymru. Dangosodd ymgynghoriad y Gronfa Loteri Fawr ar asedau cymunedol fod cyfle i ddatblygu’r bartneriaeth honno gyda ni a rhoddwyd arwyddion clir gan randdeiliaid ynghylch sut y dylid datblygu rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, cronfa ategol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyn o beth yw’r rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol, a gafodd ei hadolygu’n ddiweddar i gryfhau ei ffocws ar adfywio. Yr wyf yn awyddus i sicrhau bod y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol a’r rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol yn ategu’i gilydd. Felly, yr wyf wedi sicrhau y bydd y gronfa trosglwyddo asedau cymunedol yn darparu grantiau cyfalaf a refeniw, a gaiff eu dyfarnu o un ffynhonnell, a bydd yn ariannu ceisiadau’n ymwneud â throsglwyddo perchnogaeth oddi ar gyrff y sector cyhoeddus. Yn y cyfamser, bydd y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yn ariannu trosglwyddo perchnogaeth, neu lesio, asedau oddi ar gyrff sector preifat, gyda grantiau cyfalaf yn unig yn cael eu rhoi hyd at £300,000 dros dair blynedd ariannol. Felly, yr wyf yn gweld y gronfa trosglwyddo asedau cymunedol yn ategu’r gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru. Gobeithiaf y bydd partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn annog trosglwyddo asedau ac yn cefnogi cyfleusterau sy’n eiddo i’r gymuned fel rhan o’n hagenda ar y cyd i rymuso cymunedau a gweld gwasanaethau, asiantaethau a chyllidwyr yn integreiddio’n agosach.

Drwy’r rhaglen hon, gobeithiwn gydweddu dyheadau cymunedau â’r rheini sy’n gallu eu gwireddu. Y dasg, serch hynny, fydd creu partneriaethau ystyrlon. Mae’n bosibl y bydd gan y sector cyhoeddus dir neu adeiladau, a bydd y trydydd sector yn ymwybodol o’r anghenion cyfredol a bydd ganddo’r ymrwymiad i’w datrys. Gobeithiaf y bydd y rhaglen hon yn cefnogi’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i fod yn fwy cynaliadwy ac i ddarparu mwy o fudd i’r gymuned. Bydd y rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol yn rhedeg am dair blynedd, yn dechrau mis Hydref 2009. Mae fy swyddogion yn gweithio ar hyn o bryd law yn llaw â’r Gronfa Loteri Fawr o ran llunio’r canllawiau a’r deunydd ymgeisio terfynol ar gyfer ymgeiswyr. Byddwn yn annog unrhyw ddarpar ymgeiswyr i’r rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol i gysylltu â’r Gronfa Loteri Fawr i drafod eu syniadau.