Skip to content

Llafar - Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Yr wyf yn falch o adrodd ar gyfarfod diweddaraf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 14 Mai. Mae cofnodion y cyfarfod hwn ar gael ar-lein ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr wyf wedi darparu trosolwg o’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ers i’r comisiwn gyfarfod ddiwethaf ym mis Mawrth. Ymysg yr eitemau diweddaru allweddol mae: cyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig diwygiedig ar yr amgylchedd, a fydd, os caiff ei gymeradwyo, yn darparu pwerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad dros wastraff, llygredd a niwsans; lansio’r nodyn cyngor technegol ar gynllunio ar gyfer newid yn yr hinsawdd ac adeiladau cynaliadwy, a fydd yn sicrhau bod polisi cynllunio yn llwyr gefnogi ein hamcanion lleihau allyriadau ac ymaddasu; lansio’r ymgynghoriad ynghylch y strategaeth gwastraff newydd, sy’n canolbwyntio ar leihau gwastraff ac eco-ddylunio, a fydd, y naill a’r llall, yn help i leihau allyriadau anuniongyrchol ac allyriadau ar wahân i garbon deuocsid; a lansio her yr amgylchedd ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a’r Ymddiriedolaeth Carbon, sy’n annog tafarndai a chlybiau rygbi i hyrwyddo gweithredu yn eu cymunedau.

 

Yr wyf hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ac ymweliadau, gan gynnwys Awr y Ddaear y WWF, uwchgynhadledd Calan Mai, dadorchuddio’r paneli solar ar Ysgol Gynradd Bro Aled yng Nghonwy, cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a oedd yn canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, a lansio canllawiau’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i ddinasyddion yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ymysg yr adroddiadau diweddaru pellach yr oedd cefnogi gweithdy mawr ar yr ymrwymiad i ostwng lefelau carbon, a drefnwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, a chefnogi’r gwaith sy’n parhau ar ranbarthau carbon isel, o dan arweiniad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, sy’n gweithio tuag at integreiddio newid yn yr hinsawdd yn fwy trylwyr ym mhenderfyniadau grwpiau ardal y cynllun gofodol. Mae hynny’n cyd-fynd â’n gwaith presennol i greu parth carbon isel mwyaf Ewrop yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd. Ddiwedd y flwyddyn y llynedd, lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio raglen i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar draws y rhanbarth, a darparwyd £12 miliwn ar gyfer hynny o’r gronfa buddsoddi cyfalaf strategol.

 

Cynhaliwyd y cyntaf o dri digwyddiad rhwydweithio i annog rhannu’r arferion gorau rhwng pobl sy’n arwain y gweithredu ar ddatblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd yn Llangollen ac yr oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau llawr gwlad. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig y cynlluniau amaeth-amgylchedd newydd, sy’n canolbwyntio’n gryf ar newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cadw carbon mewn pridd a chefnogaeth i ynni adnewyddadwy ar ffermydd; y cyhoeddiad gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ynghylch buddsoddiad o £6 miliwn mewn cyfleusterau parcio a theithio ar hyd llinellau rheilffordd cwm Rhymni a Dyffryn Taf, a lansiad cynllun cefnogaeth hyblyg i fusnesau er mwyn rhoi cyngor i bob busnes ar leihau ei ôl troed carbon a lleihau cymaint â phosibl ar wastraff.

 

Ceir hefyd gyhoeddiad y tair cyllideb garbon gyntaf gan Lywodraeth y DU a chyflwyno mesuryddion deallus i bob cartref erbyn 2020 ynghyd â’r cyhoeddiad mai Syr John Krebs yw cadeirydd is-bwyllgor addasu y pwyllgor ar newid yn yr hinsawdd; ceir hefyd lansiad canolfan darogan llifogydd newydd Cymru a Lloegr a’r ymgynghoriad ar y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr drafft.

 

Rhoddodd aelodau’r comisiwn yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud yn eu sectorau a’u sefydliadau hwy. Cafodd y comisiwn yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am waith y ganolfan carbon isel/dim carbon, a’r is-grŵp amaethyddiaeth a defnydd tir. Cafodd y comisiwn gyflwyniad gan ddau o’n hyrwyddwyr newid hinsawdd newydd. Yr oedd y cyflwyniad yn cynnwys y fideos a gyflwynwyd yn rhan o’u cais ar gyfer y gystadleuaeth hyrwyddwyr, amlinelliad o’r gweithgareddau yr oeddent wedi cymryd rhan ynddynt ers dod yn hyrwyddwyr, a rhai syniadau hynod o gyffrous am waith yr oeddent yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol.

 

Cafodd y comisiwn yr wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiad cyllideb ariannol y DU a’r dair cyllideb garbon gyntaf. Ysgogodd hyn drafodaeth ar y fethodoleg orau ar gyfer mesur ein cynnydd at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Bydd y pwyntiau a godwyd yn help i oleuo ein gwaith ar adrodd ynghylch cynnydd at y targed o 3 y cant.

 

Dechreuodd y comisiwn ar y broses o gynhyrchu datganiad ar y canlyniadau yr hoffai eu gweld ar gyfer cynhadledd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn Copenhagen yn ddiweddarach eleni. Bydd y datganiad yn canolbwyntio ar yr angen am gytundeb rhyngwladol cryf ar leihau allyriadau ac ar swyddogaeth hanfodol Llywodraethau is-genedlaethol o ran sicrhau’r gostyngiadau hyn. Bydd y datganiad yn chwarae rhan bwysig hefyd yn ystod gweithgareddau eraill y comisiwn, ac mae aelodau’r comisiwn yn bwriadu ei ddefnyddio yn rhan o’u presenoldeb yng Ngŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian 2009 yn Washington yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Cafodd y comisiwn drafodaeth fanwl ar y drafft diweddaraf o ail gam yr ymgynghoriad ar y strategaeth newid yn yr hinsawdd. Mae’r ail gam yn rhoi manylion rhaglen weithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau gostyngiadau blynyddol o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2011. Yr oedd y comisiwn yn gyffredinol yn hynod o gefnogol o gynnwys y ddogfen ymgynghori. Cafwyd amrywiaeth eang o awgrymiadau ar gyfer gwella’r drafft ac yr oedd y comisiwn yn arbennig o awyddus i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn datgan mor eglur â phosibl bod mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd nid yn unig yn gyfrifoldeb i’r Llywodraeth, ond y bydd hefyd yn gofyn am weithredu ledled y gymdeithas yng Nghymru.

 

Bydd cynnwys y comisiwn ar bob cam o ddatblygiad y strategaeth newid yn yr hinsawdd yn helpu i sicrhau’r ymwneud ehangach hwn ac mae arnom eisiau adeiladu ar sail hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori ac wrth ddatblygu’r strategaeth derfynol. Yn ystod rhan olaf y cyfarfod, trafododd y comisiwn sut orau i gyflawni’r swyddogaeth hon fel arweinwyr a llysgenhadon o fewn eu sefydliadau a’u sectorau. Bydd canlyniadau’r drafodaeth hon yn cyfrannu at waith y comisiwn yn y dyfodol. Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd ar 25 Mehefin, a bydd yn cynnwys lansio’r ymgynghoriad ar raglen weithredu’r strategaeth newid yn yr hinsawdd.