Skip to content

Ysgrifenedig - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Arian Cyfalaf Trosiannol i Ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Ym mis Chwefror eleni, gwnes ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn fod y Llywodraeth hon, fel rhan o agenda ‘Cymru’n Un’, wedi ymrwymo i ddarparu ysgolion sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ac fy mod yn bwriadu datblygu cynllun buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor a fyddai’n effeithio ar bob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.

 

Mae angen i ysgolion yng Nghymru fod yn llefydd sy’n ysbrydoli ein pobl ifanc; yn llefydd sy’n gallu defnyddio technoleg yr 21ain ganrif ac ymaddasu i ddiwallu anghenion cyfnewidiol dysgwyr mewn economi wybodaeth sy’n datblygu’n gyflym.

 

Nodais yn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn y byddwn yn ceisio gwneud cyhoeddiad ym mis Mawrth ar y dyraniadau cyfalaf cyntaf i ysgolion yr 21ain ganrif yn 2009-10 fel y cam nesaf yn y symudiad tuag at broses ddyrannu fwy strategol.

 

Wrth inni symud tuag at weithredu rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, bydd yn golygu newid mawr i awdurdodau lleol wrth inni symud oddi wrth brosiectau unigol i ddull mwy strategol o fuddsoddi cyfalaf mewn ysgolion. Byddwn yn ceisio targedu ysgolion sy’n barod am y newid; ond yn fwy pwysig lle mae yna angen clir. Mae’r meini prawf ar gyfer y cyllid hwn wedi’u datblygu mewn partneriaeth â CLlLC a Chyfarwyddwyr Addysg.

 

Fel rhan o’r broses honno, ym mis Ionawr 2009 gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer yr haen gyntaf o fuddsoddiad cyfalaf trosiannol mewn ysgolion. Roedd yr ymateb yn eithriadol gyda 130 o gynigion â chyfanswm gwerth buddsoddiad o £405m o bob un o’r 22 awdurdod addysg lleol.

 

Rwy’n falch o gyhoeddi bod 32 o brosiectau cyfalaf wedi’u cymeradwyo yn yr haen gyntaf o fuddsoddiad cyfalaf trosiannol Llywodraeth y Cynulliad sy’n dod i gyfanswm o £78.7 miliwn, gan ychwanegu at £161.3 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Leol. Bydd y dyraniad cyllid cyntaf hwn yn helpu i ddarparu 12 ysgol newydd a 10 cynllun adnewyddu sylweddol yn ystod 2009-10. Bydd y buddsoddiad yn effeithio ar yr ystod gyfan o ddarpariaeth addysg o’r blynyddoedd cynnar/dechrau’n deg hyd y ddarpariaeth gynradd, uwchradd ac AAA.

 

At hyn, bydd y buddsoddiad penodol hwn nawr yn dechrau helpu awdurdodau i fynd i’r afael â’r tanfuddsoddi a welwyd yn y gorffennol, gyda nifer o brosiectau yn ei gwneud yn bosibl i awdurdodau lleol ddarparu ystafelloedd ac adeiladau newydd yn lle rhai gwael sydd islaw’r safon a chynnig cyfleusterau sy’n fwy priodol i anghenion myfyriwr yn y 21ain ganrif.

 

Bydd y dyraniadau hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol o raglen y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a bydd nawr yn ei gwneud yn bosibl ehangu’r rhaglen a’i chyflwyno ledled Cymru.

 

Mae’r rhaglen hon yn newid mawr yn y buddsoddiad strategol mewn addysg yng Nghymru. O ganlyniad i’r dyraniadau hyn a gyhoeddwyd heddiw, bydd awdurdodau yn gallu symud ymlaen â rhaglenni ad-drefnu a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu awdurdodau i sicrhau arbedion effeithlonrwydd parhaus – adnoddau y gellir eu defnyddio i wella addysg yng Nghymru. Wrth edrych i’r dyfodol, drwy gymryd camau ymarferol ar lefel Cymru gyfan, gallwn sicrhau gwerth mwy am arian a helpu i ad-drefnu ar raddfa fwy a gweithredu cynlluniau i weddnewid mannau dysgu.

 

A minnau wedi cymeradwyo cynigion Cyngor Sir Dinbych i ddiwygio addysg ôl-16 yn y Rhyl yn sylfaenol, mae’r grant o dros £3.4 miliwn tuag at adeiladu cyfleusterau newydd yn dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i greu amgylcheddau dysgu yn yr 21ain ganrif sy’n ysbrydoli’r myfyrwyr, gan gynnig dewis eang o opsiynau astudio ar yr un pryd, yn alwedigaethol ac yn academaidd, mewn lleoliad cyfleus.

 

Dyraniadau i Sefydliadau Addysg Bellach a Phartneriaethau Dysgu 14-19

 

Mae dau ddeg pump cynnig wedi’u cyflwyno gan Sefydliadau Addysg Bellach a Phartneriaethau Dysgu 14-19 i’w hystyried i gael arian ar gyfer y cyfnod 2009-10 i 2011-12 â chyfanswm gwerth o £205.7m.

 

Rwy’n falch hefyd o gyhoeddi bod 8 prosiect arall wedi’u cymeradwyo ar gyfanswm o £52.4m gyda Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi £30.2m dros y tair blynedd nesaf. Bydd yr arian hwn yn caniatáu i’r sefydliadau hynny wella’u hystâd cyfalaf yn sylweddol. Yn benodol, bydd yn cefnogi prosiectau sylweddol fel campws newydd yn Nantgarw. Bydd yn helpu i fynd i’r afael â’r bylchau o ran sgiliau fel canolfan Ynni a Saernïo yng Ngholeg Menai a fydd yn darparu sgiliau ym maes Ynni Niwcliar. Mae angen mawr am y sgiliau hyn yn yr ardal honno.

 

Yn amlwg, ni fydd pob awdurdod lleol neu goleg wedi llwyddo i ddiogelu cyllid yn ystod yr haen gyllido gyntaf a bydd swyddogion y Cynulliad yn ysgrifennu at y rhai a oedd yn aflwyddiannus er mwyn rhoi cymorth ychwanegol iddynt cyn cyfarfod nesaf y Panel Cyfalaf a fydd yn digwydd ym mis Mai/Mehefin.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau pendant yn ystod y dirwasgiad hwn, yn enwedig ym maes buddsoddiad cyhoeddus. Mae’r £9m a ddygais ymlaen o flwyddyn ariannol 2009-10 i 2008-09 wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn helpu awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion gyda’u mân-raglenni gwaith. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi sôn am yr effaith gadarnhaol ar yr economi leol yn sgil y gwaith adeiladu a grëwyd ar gyfer cwmnïau lleol.

 

Mae hwn yn gyfle da hefyd i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i annog awdurdodau lleol i sicrhau bod toiledau ysgol yn cael lle blaenllaw mewn prosiectau adnewyddu mawr.

 

Bwriad fy natganiad heddiw yw rhoi adroddiad ar ymrwymiadau a wnes yn y Cyfarfod Llawn. Mae rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif yn gynllun uchelgeisiol a fydd, yn y tymor hir, yn gweddnewid addysg ôl-16 ac yn ailadeiladu ac adnewyddu pob ysgol yng Nghymru. Mae’r £78.7 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi’r cam tuag at fuddsoddiad mwy strategol ac mae’n dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynnig rhaglen i fuddsoddi yn ysgolion yr 21ain ganrif.