Skip to content

Llafar - Datganiad Deddfwriaethol ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Heddiw, yr wyf yn falch o wneud cyhoeddiad pwysig ar sut y bwriadwn symud ymlaen o ran ein hymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ i fynd i’r afael â thlodi plant ac allgáu cymdeithasol parthed rhai o’n plant a’n teuluoedd mwyaf difreintiedig. Dyma lansio cenhadaeth genedlaethol i roi i bawb o’n plant y dechreuad gorau mewn bywyd ac i dorri ar gylch dieflig amddifadedd ar draws cenedlaethau a’r anfantais sy’n difetha gormod o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled ein gwlad.

Ddoe, gosodais Fesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru), ynghyd â memorandwm esboniadol, gerbron y Cynulliad. Cyflwynais hefyd ddatganiad ysgrifenedig, ac yr wyf yn falch o gyflwyno’r Mesur arfaethedig i gael ei ystyried gan Aelodau’r Cynulliad heddiw.

Mae mynd i’r afael â thlodi plant a chryfhau’r cymorth i deuluoedd sy’n agored i niwed yn ganolog i amcanion Llywodraeth y Cynulliad o wella ansawdd bywyd a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal i bob cymuned yng Nghymru. Mae’r Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu cymorth i’r teuluoedd a’r plant hynny sy’n fwyaf eu hangen, a fyddai, heb gymorth ychwanegol, o dan anfantais annheg yn ein cymdeithas.

Mae’n ceisio darparu ffordd strategol a chydgysylltiedig o ymdrin â thlodi plant. Am y tro cyntaf, bydd yn rhoi dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar dlodi plant i Gymru. Caiff y strategaeth hon ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd yn cael ei hadolygu.

Mae angen strategaeth newydd arnom am nifer o resymau. Mae’r cyfnod economaidd cyfnewidiol a’r datblygiadau dros y misoedd diwethaf, a’r newidiadau o ran cyfeiriad polisi ac yn y sylfaen tystiolaeth ynglŷn â thlodi plant dros y blynyddoedd diwethaf, yn golygu ei bod yn bryd edrych eto ar ein strategaeth i leihau tlodi plant. Mae angen pwyso a mesur ac adeiladu ar yr ymrwymiadau a wnaethom yn 'Cymru’n Un’. Mae’r rhain i gyd wedi cael eu bwriadu i roi hwb ychwanegol i’n hymgais i ddefnyddio pob sbardun polisi sydd ar gael inni i wella cyfleoedd oes ein plant a’n pobl ifanc fwyaf difreintiedig.

Mae fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet a minnau’n cydnabod bod gennym gyfrifoldeb i ddarparu’r fframwaith strategol er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Bydd yn bwysig i’n strategaeth newydd wneud nifer o bethau: rhaid iddi greu synnwyr unedig o bwrpas cenedlaethol, gan weithio gyda Llywodraeth y DU i ddileu tlodi plant; bydd angen iddi osod cyfeiriad polisi cyffredinol i Lywodraeth y Cynulliad ei hun, ac yn dyngedfennol, i’n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus ar yr agenda gymhleth a thrawsbynciol hon; bydd angen iddi ddarparu darlun cynhwysfawr a chydlynol o’r camau y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i gyfrannu i’r targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, a hynny wedi’i seilio’n gadarn ar y dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio; a bydd angen iddi gynnwys amcanion clir ar draws y meysydd polisi hynny sy’n cyfrannu fwyaf at leihau lefelau tlodi plant, gan gynnwys trefniadau monitro ac adrodd trylwyr i fesur ein cynnydd o ran cyrraedd targedau heriol 2020.

Mae’r gwaith paratoadol ar gyfer y strategaeth newydd wedi dechrau gyda gwerthusiad o’r polisïau a’r rhaglenni tlodi plant amrywiol sydd eisoes ar waith ar draws Llywodraeth y Cynulliad, gyda’r prif nod o fynd i’r afael â thlodi plant. Dylai’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill, ac ar ôl hynny bydd y gwaith o ddatblygu strategaeth newydd yn dechrau. Caiff proses ymgynghori helaeth ei hymgorffori yn y broses o ddatblygu’r strategaeth newydd, gan roi llais i ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol. Mawr obeithiaf y caiff arbenigedd a phrofiad y grŵp arbenigol ar dlodi plant ei ddefnyddio’n llawn wrth ddatblygu’r strategaeth newydd, ac y bydd yn help inni gynhyrchu trywydd newydd tuag at nod 2020 o ddileu tlodi plant yng Nghymru, gan weithredu fel sail i’n dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth a fydd yn cyfrannu at ddileu tlodi plant. I awdurdodau lleol a’u partneriaid, y cynlluniau plant a phobl ifanc fydd y ffactorau sbardun strategol, allweddol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon.

Mae’r Mesur arfaethedig yn gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer un o’n hymrwymiadau yn 'Cymru’n Un’, i fwrw ymlaen i ddarparu gofal plant llawn amser, o ansawdd uchel, yn rhad ac am ddim i blant dwy oed yn yr ardaloedd mwyaf anghenus. Mae’r Mesur arfaethedig yn cynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol y ddarpariaeth i roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gofal plant rhad ac am ddim, o ansawdd uchel, sy’n cael ei dargedu, ar gael mewn ardaloedd penodol, ac mae’n dangos ein hymrwymiad tymor hir i’r agenda hon. Dim ond pe câi’r penderfyniad ei wneud i symud y cyllid ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg i’r grant cynnal refeniw ryw dro yn y dyfodol y câi’r pwerau newydd hynny eu sbarduno.

Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn darparu fframwaith deddfwriaethol i’r gweithgarwch sy’n cael ei gyllido ar hyn o bryd gan Cymorth—un o brif gyfryngau Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n werth dros £50 miliwn y flwyddyn. Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd drwy gyllid Cymorth yn parhau pan fydd y grant penodol yn dechrau symud i’r grant cynnal refeniw o fis Ebrill 2011. Mae’r Mesur arfaethedig yn cynnwys nifer o fecanweithiau i sicrhau y bydd hynny’n digwydd. Y bwriad yw y bydd yr amcanion a bennir gan awdurdod lleol o safbwynt cymorth rhianta, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a chymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant ac yn y gymuned, yn ogystal â helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, yn cynnwys gweithgareddau sydd ar hyn o bryd yn cael eu cyllido gan grant penodol Cymorth. Bydd hyn yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol elfen o ddisgresiwn i ddarparu’r gwasanaethau sy’n fwyaf priodol i anghenion y gymuned leol, a’u bod ar yr un pryd yn ategu strategaethau ac amcanion cenedlaethol. Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn cynnwys darpariaeth a fydd yn caniatáu i ni bennu amcanion os metha’r mecanwaith.

Yn ogystal, mae’r Mesur arfaethedig yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth rhianta ac iechyd a gyllidir gan Cymorth ar hyn o bryd yn cael eu darparu. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y Cynulliad i wneud rheoliadau sy’n pennu pa weithgarwch cymorth rhianta ac iechyd ddylai gael ei ddarparu, ymhle y dylai gael ei ddarparu a phwy ddylai fod yn gymwys. O ran gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Cymorth, dim ond lle mae’r mecanweithiau eraill sydd ar gael wedi methu sicrhau’r lefelau cyfredol o weithgarwch Cymorth y byddai’r ddarpariaeth i ni osod amcanion i awdurdodau lleol yn cael ei sbarduno. Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn gwreiddio gwaith rhagorol Cymorth o ran datblygu a deall chwarae plant a phobl ifanc, drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn eu hardal ar sail eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae. Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant yn y penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd y camau hyn yn cyfnerthu llawer o’r gwaith a ddechreuwyd gan Cymorth ac yn ei sefydlu’n rhan o’r brif ffrwd.

Mae’r Mesur arfaethedig yn cynyddu’r pwerau rheoleiddio a gorfodi mewn sefydliadau gwarchod plant a gofal plant i blant o dan wyth, fel eu bod yn cyd-fynd â’r trefniadau o ran pwerau gorfodi sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn sefydliadau ehangach a reoleiddir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Yr ydym hefyd wedi achub ar y cyfle i ailffurfio’r gyfraith yn y maes hwn, i ddod â mwy o eglurder i reoleiddio a chofrestru plant o dan wyth oed ac i weithio tuag at ein nod tymor hwy o gyfnerthu cyfraith plant yng Nghymru, gan wneud hynny fesul cam ac mewn ffordd hylaw. Yn arbennig, bydd yn caniatáu i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru bennu amodau a rhybuddion cosb am dorri gofynion rheoleiddio, yn hytrach nag achos llys. Yr ydym wedi ymestyn y cyfyngiad amser i achosion fynd i’r llys o chwech i 12 mis, fel na fydd camau gorfodi’n cael eu rhwystro am fod ymchwiliadau’n rhedeg allan o amser. Bydd y trefniadau newydd hyn yn cynnig ffordd fwy cymesur a phragmatig o ddelio â thorri gofynion rheoleiddio.

Mae’r Mesur arfaethedig yn nodi trefniadau ar gyfer timau cymorth teulu integredig a fydd yn diwygio’r ffordd y trefnir ac y cyflenwir gwasanaethau i blant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd, y mae ganddynt anghenion cymhleth ac y mae angen cymorth integredig dwys arnynt gan weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau lefel uchel. Mae hyn yn ddiwygio uchelgeisiol, ond yn ddiwygio y mae mawr ei angen, a fydd yn gwella’r gyfundrefn gwasanaethau plant i ddarparu ymyriadau cynharach i reoli a chefnogi plant a theuluoedd i fyw gartref ac i ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Bydd y timau cymorth teulu integredig yn chwarae rôl anhepgor yn ymdrin ag anghenion amrywiol plant sydd mewn angen neu mewn gofal, fel y gellir eu symud yn ôl yn ddiogel i fyw gyda’u teuluoedd neu ganiatáu iddynt barhau i wneud hynny. Bydd hefyd yn adnabod yn gynharach y plant hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl mawr ac na ellir ond diwallu eu hanghenion drwy drefniadau mwy parhaol y tu allan i’r teulu.
Mae strwythurau teuluoedd a gwead cymdeithasol y gymdeithas heddiw’n golygu bod gofyn ailfeddwl a newid pethau’n sylfaenol er mwyn i wasanaethau fod yn fwy ymatebol, yn enwedig ar gyfer teuluoedd sy’n straffaglu ac yn wynebu llu o anfanteision, a lle mai camddefnyddio alcohol neu gyffuriau gan rieni a salwch meddwl yw’r norm. Mae’r ymagwedd newydd hon yn ceisio mynd i’r afael â’r ffordd y mae’r problemau cymhleth hyn yn cydblethu â’i gilydd ac yn ceisio newid ymddygiad gan ganolbwyntio mwy ar werthoedd teulu cefnogol er mwyn i rieni roi mwy o flaenoriaeth i les eu plant.

Yn benodol, mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod awdurdodau lleol, gyda chymorth byrddau iechyd lleol, yn sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd yn eu hardal ac yn darparu adnoddau ar eu cyfer. Bydd y rhain yn cynorthwyo plant a theuluoedd agored i niwed a chanddynt anghenion penodol. Bydd gofyn iddynt hefyd sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd i gynnig cyfeiriad strategol ar gyfer swyddogaethau’r timau integredig. Bydd staff y timau cymorth integredig i deuluoedd yn weithwyr proffesiynol, medrus, amlddisgyblaeth a fydd yn gyfrwng i sicrhau newid o ran y gwasanaethau ac o ran datblygiad proffesiynol y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Swyddogaethau allweddol tîm integredig cymorth i deuluoedd fydd cyfarwyddo’r gwaith a wneir gyda theuluoedd a’u cynorthwyo drwy gyfrwng amrywiol dechnegau sy’n meithrin cysylltiad â theuluoedd a chanddynt anghenion cymhleth. Bydd y timau integredig cymorth i deuluoedd hefyd yn darparu swyddogaeth hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol o’r maes ehangach er mwyn iddynt feddu ar y sgiliau y mae eu hangen arnynt i weithio gyda theuluoedd a chanddynt anghenion cymhleth wrth iddynt ddarparu gwasanaethau ehangach i blant a theuluoedd.

Yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno na all hyn ond arwain at well canlyniadau i blant a’u teuluoedd. Rhoddaf ger eich bron Fesur arfaethedig sy’n darparu sylfaen gynhwysfawr ac arloesol er mwyn bwrw ymlaen â’n polisïau unigryw y bwriedir iddynt fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol plant a theuluoedd yng Nghymru. Mae’r Mesur arfaethedig yn disgrifio’n blaenoriaeth glir i gynorthwyo’r rheini yn y gymdeithas sy’n arbennig o agored i niwed ac yn wynebu’r anfanteision mwyaf. Mae’n mynd i’r afael yn benodol ag anghenion plant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi ac mewn teuluoedd lle ceir llu o broblemau ac sydd yn wir yn straffaglu. Oni awn ati gyda gwir ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol, ni wnaiff y plant hyn wireddu eu potensial, a chollir eu talentau a’u galluoedd am byth. Mae angen y plant hyn arnom ar gyfer y dyfodol, ond ar hyn o bryd, mae ein hangen ni arnynt hwy. Mae’r Mesur arfaethedig hwn yn fuddsoddiad mewn cyfiawnder cymdeithasol, yn nhalentau ac ym mhotensial ein pobl ifanc sy’n wynebau’r anfanteision mwyaf, ac yn fuddsoddiad yn y dyfodol er mwyn creu Cymru gwell a thecach.