Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi’r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghori ar Ddatganiad Polisi Lefel Uwch

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Heddiw, lansiwyd ymgynghoriad gennyf ar gam un Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth y Cynulliad.    

Bwriad y ddogfen ymgynghori yw rhoi amlinelliad o amcanion polisi Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd, gan adeiladu ar yr ymrwymiadau sy’n cael eu cynnwys o fewn Cymru’n Un, a chydnabod y fframwaith statudol newydd a sefydlwyd gan Ddeddf y Newid yn yr Hinsawdd 2008.  

Mae’r ddogfen ymgynghori yn rhoi amlinelliad cynhwysfawr o’n targed i leihau allyriadau carbon 3%, gyda chymorth Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru, ond mae hefyd yn cydnabod y bydd y gweithredu ar addasu effeithiau y newid yn yr hinsawdd yn elfen allweddol o’n strategaeth derfynol.  

Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau yn barhaol dros gyfnod o amser.  Golyga hyn y bydd yn rhaid inni nid yn unig weithredu i leihau allyriadau nawr, ond bod angen inni hefyd ddechrau gwneud y newidiadau a fydd yn ein rhoi ar y llwybr iawn i barhau i gyrraedd y targed o 3% yn y dyfodol.  Mae’n rhaid inni gynllunio i leihau allyriadau dros y pum, deg a’r ugain mlynedd nesaf i gyrraedd y targedau hirdymor uchelgeisiol sydd wedi’u pennu yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU.  

Wrth ddiffinio ein targed o leihau allyriadau blynyddol 3% yn fanylach, rydym yn cynnig y bydd yn berthnasol i allyriadau o’r chwech o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynnwys ar y rhestr o nwyon tŷ gwydr dadelfenedig.  Bydd yn cynnwys yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr ‘uniongyrchol’ yng Nghymru, ar wahân i’r rhai hynny o ddiwydiant trwm ac o ganlyniad i gynhyrchu ynni, sy’n cael eu diffinio’n gyffredinol fel y safleoedd hynny sy’n cael eu cynnwys yng Nghynllun Masnachu Allyriadau yr UE (EU ETS).  

Golyga hyn y bydd yr allyriadau uniongyrchol o drafnidiaeth, y sector preswyl, y sector cyhoeddus, gwastraff, amaethyddiaeth, a’r newid yn y defnydd o dir yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r holl allyriadau o fyd busnes a diwydiant, nad ydynt yn rhan o’r EU ETS.  Hefyd, byddwn yn cynnwys yr allyriadau sy’n deillio o ddefnyddio trydan ymhob sector.  

Rydym wedi llunio diffiniad eang o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnwys o fewn ein targedau; er enghraifft, holl allyriadau preswyl neu o drafnidiaeth Cymru.  Bydd yr allyriadau hyn yn cael eu dylanwadu gan amrywiol ffactorau, nid yn unig bolisïau a rhaglenni Llywodraeth y Cynulliad.  Bydd ein gweithgareddau yn cyd-fynd â mentrau y DU a’r UE, fel sbardun i leihau allyriadau ac i gael pobl i newid eu hagwedd o fewn pob sector.  Dim ond ar y cyd ag ymdrechion y DU a’r UE fydd Cymru’n cyrraedd y targed sydd ganddynt ar gyfer gostwng allyriadau.  Elfen hanfodol o’r holl gamau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd fydd cyfathrebu effeithiol a chysylltu â phobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru.  

Er mwyn mesur y targed, byddwn yn cymharu yr allyriadau perthnasol ym mhob blwyddyn unigol o 2001 ymlaen i linell sylfaen.  Bydd y llinell sylfaen hon yn gyfartaledd o’r allyriadau perthnasol rhwng 2006 a 2010, ond caiff ei diweddaru pob deng mlynedd i sicrhau ei bod yn adlewyrchu lefelau diweddaraf yr allyriadau.  Byddwn yn defnyddio’r rhestr o nwyon tŷ gwydr dadelfenedig, sy’n cofnodi allyriadau sy’n benodol i Gymru, fel y prif ffynhonnell ddata i osod y llinell sylfaen ac i fesur cynnydd.  Bydd y cynnydd yn erbyn y targed yn cael ei asesu gan gymhariaeth syml rhwng lefelau yr allyriadau a’r llinell sylfaen.  

Yn ogystal â diffinio targedau yn fanylach, mae’r ymgynghoriad yn pennu gweledigaeth glir o sut le fyddai Cymru carbon isel, fyddai’n gwrthsefyll effeithiau y newid yn yr hinsawdd.  Yna mae’n tynnu sylw, yn gyffredinol, at y meysydd allweddol yr ydym yn rhagweld y bydd angen inni weithredu i leihau’r allyriadau, a’r fframwaith ar gyfer datblygu camau i addasu.

Bydd y syniadau cyffredinol hyn yn cael eu datblygu, a rhaglen weithredu yn cynnwys cynigion penodol o bolisïau a rhaglenni i gyflawni’r weledigaeth yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach yn 2009.  Mae’r ymgynghoriad presennol yn rhoi cyfle allweddol am fewnbwn cynnar i ddatblygu’r rhaglen honno.  

Yn ogystal â defnyddio’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i lywio datblygiad ein rhaglen weithredu, byddwn hefyd yn tynnu ar yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan Is-grwpiau y Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd a chyngor y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd fel a amlinellwyd yn eu hadroddiad Adeiladu economi carbon isel – cyfraniad Prydain i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2008.  Mae’r adroddiad nid yn unig yn rhoi cyngor ar faint o ostyngiad y mae’n rhaid i’r DU gyfan ei wneud, ond hefyd yn rhoi asesiad manwl o lle fyddai’n bosibl gostwng yr allyriadau, a’r mathau o bolisïau a rhaglenni sydd eu hangen i gyflawni hynny.  

Mae’r ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn gam pwysig yn ein hymateb i’r her o’r newid yn yr hinsawdd.  Nid yw’n bosibl i un gwlad ar ei phen ei hun fynd i’r afael â phroblem y newid yn yr hinsawdd, ond nid yw hynny’n esgus dros beidio â gweithredu.  

Rydym am i Gymru arwain a dangos sut y gall gwlad fechan wneud gwahaniaeth bositif gyda phroblem y newid yn yr hinsawdd.  Fel rhan o’r ymdrech gydweithredol hon â’r gymuned ryngwladol, roeddwn yn bresennol ar ddechrau Rhagfyr yng Nghynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Poznań, Gwlad Pwyl.

Y gynhadledd hon oedd yr olaf mewn cyfres sy’n anelu at lunio ymateb rhyngwladol i’r newid yn yr hinsawdd, i ddisodli Protocol Kyoto, i’w gytuno yn Copenhagen yn ddiweddarach eleni.

Roedd llawer o’m gwaith yn Poznań ar y cyd â chynrychiolwyr o Lywodraethau is-genedlaethol eraill, a’r bwriad oedd sicrhau bod y fframwaith newydd yn cydnabod pwysigrwydd arweiniad rhanbarthol er mwyn cael gostyngiadau i allyriadau, ac i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.  Mae’n amlwg bod gan y llywodraeth nifer o ddulliau o weithredu posibl ar hyn o bryd, a bod nifer o’r ffyrdd mwyaf deinamig ac arloesol o fynd i’r afael â’r her yn cael eu datblygu gan wledydd, rhanbarthau a thaleithiau bychain – ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol bod Cymru yn chwarae ei rhan yn llawn hefyd.