Skip to content

Ysgrifenedig - Y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol, Cylch Ceisiadau Ebrill 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw rhoi manylion canlyniadau Cylch Ceisiadau mis Ebrill 2009 y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.

Roedd 104 o geisiadau cymwys wedi dod i law erbyn i'r cylch ceisiadau gau ym mis Ebrill 2009. Cafodd y rhain eu hasesu gan fy swyddogion yn erbyn meini prawf cyhoeddedig y rhaglen. Gwnaeth y Gweinidog  dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a minnau ystyried y cyngor a dderbyniwyd am y ceisiadau, ac rydym wedi penderfynu cymeradwyo grantiau ar gyfer 48 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae cymeradwyo 48 prosiect yn ymrwymo £7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru dros dair blynedd ariannol. Mae'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol, felly, yn parhau i roi swm sylweddol o arian i gymunedau ar draws Gymru, a llawer ohonynt yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ceir manylion y prosiectau unigol a fydd yn cael eu hariannu o dan gylch ceisiadau Ebrill 2009 yn y rhestr isod.

Ynys Môn:

Kiddyland - Prynu Meithrinfa Ddydd Kiddyland - £150,000.00

Medrwn Môn - Cronfa Allweddol Gymunedol Môn - £50,000.00

Elusen a Chymdeithas Man Chwarae i Blant Thomas Close - Parc Chwarae a Phêl i Blant a Phobl Ifanc - £131,187.67

Blaenau Gwent:

Kidz R Us -Estyniad er Budd Ychwanegol i'r Gymuned - £291,476.57

Pen-y-bont ar Ogwr:

Tabernacl Bracla - Uwchraddio Cyfleusterau Hyfforddiant,ar gyfer defnydd y Gymuned /Sector Gwirfoddol - £23,504.00

Clwb Bowlio Wyndham - Canolfan Gymunedol a Bowlio Nant-y-moel - £224,176.76

Caerffili:

Yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig - Gwaith Adnewyddu Adeilad Rhestredig - £253,000.00

Neuadd y Plwyf a Chanolfan Gymunedol Rhydri - -Adnewyddu / Ailwampio Neuadd a Chanolfan Gymunedol Rhydri - £300,000.00

Partneriaeth Gelligaer a Phen y Bryn - Man Chwarae Trosnant Crescent - Pen y Bryn - £76,240.70

Cymdeithas Gristnogol Trethomas - Clwb Gwaith Cartref - £24,750.00

Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Trecenydd - Ailwampio'r Ganolfan Gymunedol - £100,000.00

Sir Gaerfyrddin:

Neuadd Gymunedol Babel - Neuadd Gymunedol Babel: Prosiect Gwella - £245,570.00

Ceredigion:

Pwyllgor Defnyddwyr Neuadd Goffa Felin-fach - Adnewyddu Neuadd Goffa Felin-fach - Cymal Terfynol - £10,196.00

Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan Cyf - Ailwampio Ystafell y Peiriannau a'r Boeleri  - £31,115.00

Conwy:

Clwb Rygbi Nant Conwy -Estyniad i Ystafelloedd Newid Presennol y Clwb Chwaraeon/Cymunedol  - £100,000.00

Sir Ddinbych:

Grwp Gweithredu Ieuenctid Y Rhyl Cyf - Ymlaen Gyda'n Gilydd - £134,669.00

Gwynedd:

Meithrinfa Meirion Cyf - Estyniad Meithrinfa Seren Fach - £174,533.58

Gwarchod Ardal Porthmadog (GAP) - Prosiect Diogelu Porthmadog - £5,000.00

Canolfan Gymunedol Llanbedr - Adfywio Cae Chwarae Llanbedr - £52,035.83

Neuadd Dyfi - Prosiect Ailddatblygu Neuadd Dyfi - £300,000.00

Pwyllgor Neuadd Bentref Dinas Mawddwy - Uwchraddio Neuadd Dinas Mawddwy - £46,699.80

Clwb Rygbi Hen Ramadegwyr Dolgellau - Uwchraddio ac Adfywio - £85,250.00

Pwyllgor Neuadd Goffa Mynydd Llandygai - Ailwampio Neuadd Goffa Mynydd Llandygai - £163,062.00

Merthyr Tudful:

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful - Rhaglen Grantiau Cyfalaf Bach - £40,000.00

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful - Cynllun Soar - £300,000.00

Castell-nedd Port Talbot:

Academi Calkadies -  Canolfan Gymunedol yr 21 Ganrif ar gyfer Ffitrwydd, Dysgu a Digwyddiadau Cymdeithasol, - £300,000.00

Pwyllgor Neuaddau Cwm-gors - Cwrt Peli a Man Chwarae Cwm-gors - £57,803.00

Gweithdy DOVE Cyf - Ymestyn Caffi Sarn Helen - £299,857.00

Casnewydd:

Neuadd Bentref Redwick - Ailddatblygu Neuadd Bentref Redwick   - £75,000.00

Sir Benfro:

Clwb Chwaraeon Wdig ac Abergwaun - Canolfan Gymunedol Phoenix - Wdig ac Abergwaun - £300,000.00

Cymdeithas Gymunedol a Chaeau Chwarae Llanbedr Felffre - Neuadd Bentref Llanbedr Felffre - £154,429.00

Neuadd Goffa Llandudoch / - Ailwampio'r Neuadd Goffa - £40,629.28

Cymdeithas Gymunedol yr 21 ganrif Penfro -  Parhau i ailwampio Canolfan  
Gymunedol T? Ffowndri - £270,000.00

Sefydliad Pentref Johnston - Prosiect Datblygu Sefydliad Pentref Johnston - £231,900.00

Powys:

Pwyllgor Rheoli Neuadd Hundred House - Neuadd Hundred House - £91,126.00

Ymddiriedolaeth Elusennol Compton Yard - Prosiect Diogelu Strydoedd Rhag D?r - £9,730.84

Neuadd Goffa Llanfechain -Ailddatblygu Neuadd Goffa Llanfechain  £96,502.00

Rhondda Cynon Taf:

Capel y Bedyddwyr Seion, Maerdy - Prosiect Capel Seion - £230,000.00

Parc Sgrialu Glynrhedynog Cyf- Parc Sgrialu Glynrhedynog Cam 2 - £100,000.00

Cymdeithas Gymunedol Cwm-parc - Datblygu Caffi Cymunedol - £69,202.07

Plwyf Aberdâr , Sain Ffagan - Adnewyddu ac Adeiladu Rhan o'r Newydd -Canolfan Gymunedol y Plwyf - £138,134.72

Abertawe:

Neuadd Gymunedol Oxwich a Phen-rhys -  Adnewyddu Canolfan Gymunedol- Oxwich and Phen-rhys - £60,742.00

Canolfan Gymnasteg West Street -  Ailwampio Canolfan Gymnasteg West Street - £121,800.00

Torfaen:

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen  - Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Cynghrair Gwirfoddol Torfaen - £50,000.00

Bro Morgannwg:

Eglwys Bresbyteraidd y Drindod Sanctaidd Y Barri, - Ailadeiladu'r Eglwys a'r Neuadd Gymunedol - £97,000

Eglwys Unedig Elfed Avenue -Atgyweirio Wal Gefn yr Eglwys - £14,662.50

Cyngor Sgowtiaid Penarth a'r Ardal - Datblygu Canolfan Gweithgareddau Sgowtiaid Penarth a'r Ardal ar gyfer y Sgowtiaid a'r Gymuned  - £128,974.00

Wrecsam:

Sefydliad y Glowyr Llai- Gwaith Adnewyddu To yr Adeilad Rhestredig Gradd 2 - £163,615.00

Byddaf yn hapus i wneud datganiad llafar os yw Aelodau'r Cynulliad yn dymuno hynny cyn gynted ag y caf gyfle yn y sesiwn newydd.