Skip to content

Ysgrifenedig - Dadansoddiad o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth ar Newid yn yr Hinsawdd – ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi Lefel Uchel

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai

Ym mis Ionawr, cyhoeddais ymgynghoriad ar Strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar Newid yn yr Hinsawdd – y Datganiad Polisi Lefel Uchel. 

 

Pwrpas y ddogfen ymgynghori oedd amlinellu amcanion polisi Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd, adeiladu ar yr ymrwymiadau a wnaed yn y ddogfen Cymru’n Un a chydnabod y fframwaith statudol newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. 

 

Roedd y ddogfen ymgynghori’n amlinellu diffiniad cynhwysfawr o’n targed o 3% ar gyfer lleihau allyriadau, ond roedd hefyd yn cydnabod y byddai gweithredu i addasu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn un o brif elfennau ein strategaeth derfynol. 

 

Daeth cam un yr ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror. 

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn yr ymgynghoriad. Cafwyd sylwadau adeiladol ar gyfer gwella’r ddogfen ac awgrymwyd camau gweithredu y gellid eu cynnwys yn ail gam y strategaeth, sef y rhaglen weithredu.

 

I grynhoi, daeth pum deg chwech o ymatebion i law. Roeddent yn cynrychioli barn y sector busnes, y trydydd sector, awdurdodau lleol, y sector cyhoeddus, sefydliadau academaidd, sefydliadau amaethyddol, cyrff proffesiynol ac unigolion.

 

At ei gilydd, roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r cyfeiriad polisi a’r weledigaeth gyffredinol a amlinellwyd yn y Datganiad Polisi Lefel Uchel ac yn cefnogi’r angen i weithredu yn y sectorau a nodwyd. Roedd nifer yn croesawu’r datganiad, ei eglurder a’i fformat sionc yn ogystal â’i drafodaeth ynghylch galluogi pobl i weithredu. 

 

Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg, yn eu plith:

  • Mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddangos arweiniad a dylai Llywodraeth y Cynulliad a’r sector cyhoeddus ehangach arwain drwy esiampl.
  • I annog newid mewn ymddygiad, bydd cyfathrebu effeithiol ac ymgysylltu â phobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru yn un o  elfennau hanfodol gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
  • Bydd angen addysgu pawb am eu cyfraniad i’r newid yn yr hinsawdd a sut y gallant arbed ynni’n fwy effeithlon ac addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
  • Mae gan bob sector a nodir yn y datganiad Polisi Lefel Uchel eu rhan i’w chwarae yn y broses o addasu a lleihau allyriadau ac mae angen i bob sector weithredu’n awr i gyfrannu at y targed o 3%. Dylid ystyried cyflwyno targedau penodol i sectorau.
  • Pryder nad yw’r targed o 3%  o bosibl yn ddigon i gyflawni’r hyn y mae’r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym.
  • Bydd gan grwpiau Cynllun Gofodol Cymru ac awdurdodau lleol rannau pwysig i’w chwarae wrth roi’r polisïau ar y newid yn yr hinsawdd ar waith.

Argymhellodd nifer o ymatebwyr hefyd y gallai sectorau penodol ymgymryd â’r gwaith o gyfrannu tuag at leihau a/neu addasu allyriadau a gwireddu’r weledigaeth a amlinellwyd yn y Datganiad Polisi Lefel Uchel.

 

Rydym bellach yn gweithio ar y cam nesaf o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth ar Newid yn yr Hinsawdd, sef y rhaglen weithredu a fydd yn cael ei chyhoeddi i ymgynghori arni yn ystod haf 2009.

 

Yn ogystal â defnyddio’r ymatebion i’r ymgynghoriad i lywio’r broses o ddatblygu ein rhaglen weithredu, byddwn hefyd yn tynnu ar yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan Is-grwpiau’r Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ac ar gyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd fel yr amlinellwyd yn eu hadroddiad Building a low-carbon economy – the UK’s contribution to tackling climate change, a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2008.  Mae’r adroddiad nid yn unig yn rhoi cyngor ar lefel yr allyriadau y mae angen i’r DU gyfan fynd ati i’w lleihau, ond mae hefyd yn darparu asesiad manwl o ble y gellid o bosibl leihau allyriadau a’r mathau o bolisïau a rhaglenni y byddai eu hangen i gyflawni hyn.

 

Bydd yr ymatebion i’r ddau ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lywio a datblygu’r Strategaeth derfynol ar Newid yn yr Hinsawdd y disgwylir ei chyhoeddi erbyn diwedd 2009.