Skip to content

Llafar - Corus a Chyhoeddiadau Diweddar Eraill am Swyddi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Prif Weinidog a`r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gwerthfawrogaf y cyfle i roi’r datganiad hwn.

Ddoe, fel y gwyddom oll, cyhoeddodd Grŵp Corus gamau ailstrwythuro sylweddol a fydd yn arwain at golli 2,500 o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd y cyhoeddiad hwn yn ergyd drom inni yng Nghymru, gan fod Corus, yn ôl yr hyn a ddeallwn, yn disgwyl cael gwared ar ryw 1,000 neu 1,100 o weithwyr. Gwerthfawrogaf yn llawn y gofid a’r ansicrwydd y bydd y cyhoeddiad hwn yn ei achosi i weithwyr Corus, a’r effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael ar y gymuned ehangach.

Mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn o’r cefndir i’r cyhoeddiad hwn. Ers cryn amser, bu’r diwydiant dur yng Nghymru yn agored i ffactorau byd eang. Yn y cyd-destun hwn, llai a llai o archebion sydd gan gynhyrchwyr dur ledled y byd wrth i’r galw am ddur leihau. Er bod rhesymau byd eang y tu ôl i’r dirywiad economaidd, mae ei ganlyniadau a’i effeithiau i’w teimlo yn y cymunedau lleol a gynrychiolwn. Er gwaethaf hyn, mae’r cyhoeddiad hwn yn achosi tristwch a siom i mi. Mae’n ergyd ofnadwy i’r gweithwyr a’u teuluoedd, a bydd ei chanlyniadau i’w teimlo ymhell y tu hwnt i safleoedd Corus yng Nghymru.

Mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch faint yn union o swyddi a gollwyd o Gymru, ac ynghylch yr effaith ar safleoedd unigol. Yr ydym yn ceisio eglurhad ynghylch hynny gan Corus yn ddiymdroi. O’r 1,000 i 1,100 o ddiswyddiadau a gyhoeddwyd gan Corus, dim ond 760 ohonynt sydd wedi’u priodoli i safleoedd penodol. Deallwn y bydd hyd at 340 o ddiswyddiadau pellach ar sail amcangyfrif corfforaethol o’r swyddi hynny yng Nghymru y mae’n debyg yr effeithir arnynt gan yr adolygiad o swyddogaethau ac effeithlonrwydd a gynhelir ar hyn o bryd gan Corus. Disgwylir i’r adolygiad hwnnw gymryd wythnosau lawer i’w gwblhau.

I grynhoi, o ddadansoddi’r 760 o swyddi sydd i’w colli o Gymru gwelwn fod 528 ohonynt yn Llan-wern, 52 ym Mhontarddulais, 73 yn Llandybïe ger Rhydaman, 90 yn Shotton, ac 17 yng Nghaerffili.

Mae cysylltiad rhwng pobl Cymru a’r diwydiant dur ers tro byd, ac ymfalchïwn yn yr hanes hwnnw. Yr wyf yn benderfynol o sicrhau y byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddiogelu ei ddyfodol. Yr ydym wedi siarad ag uwch-reolwyr y cwmni nifer o weithiau ac yr ydym wedi eu sicrhau’n llwyr y byddwn yn cydweithio â Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr yr undebau llafur i wneud popeth posibl i gefnogi’r gweithlu a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae Corus yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r ymrwymiad hwnnw. Fel ni, mae’n cydnabod yr angen inni gadw ein pennau uwchben y dŵr yn ystod y trafferthion presennol, a chymryd camau i sicrhau ein bod yn gryfach ac yn wytnach ac yn gallu manteisio ar yr amgylchiadau economaidd newydd.

Ar adegau anodd fel hyn, rhy hawdd o lawer yw anghofio newyddion cadarnhaol, ond gwnaethpwyd y cyhoeddiad hwn ddoe ar yr un pryd â chyhoeddiad adran Paneli a Phroffiliau Corus ynghylch ei bwriad i gyfuno y rhan fwyaf o’i weithrediadau yn y DU ar safle Shotton. Yn hanfodol, mae ei fuddsoddiad o £2 miliwn er mwyn gwella’r seilwaith ar y safle yn dal i fynd rhagddo.

Bydd llawer yn cofio’r 3,500 o swyddi a gollwyd yn Corus yn 2001. Er bod y colledion hynny’n syfrdanol, yr oedd yr hinsawdd economaidd yn wahanol iawn bryd hynny. Mae’r farchnad lafur yn fwy heriol nag ydoedd yn 2001. Eto i gyd, yr wyf yn ffyddiog fod gennym drefniadau yn eu lle i leddfu ergyd y cyhoeddiad diweddaraf hwn, ac i helpu’r bobl yr effeithiwyd arnynt i gael cyfleoedd hyfforddiant neu waith arall.

Byddwn yn trefnu bod y rhaglen ReAct ar gael i bawb o weithwyr Corus a ddiswyddwyd yng Nghymru, a byddwn yn parhau i drafod ProAct a’r rhaglen ehangach i ddatblygu’r gweithlu gyda Corus, i weld sut i’w defnyddio i ddiogelu swyddi gweithwyr Corus. Byddwn yn ddiflino yn ein hymdrechion i gynorthwyo’r gweithwyr hynny i ddod o hyd i gyfleoedd newydd. Byddwn yn mynd ati i ddiogelu buddiannau’r cymunedau lleol y mae’r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda’r cwmni ac i ystyried unrhyw ffordd y gallwn helpu a chynorthwyo mewn meysydd megis arloesi, effeithlonrwydd ynni a datblygiadau eraill a fydd yn sylfaen ar gyfer twf yn y dyfodol.

Mae hon yn adeg heriol dros ben. Er hynny, rhof sicrwydd i weithwyr Corus ac, yn wir, i Gymru gyfan fod Llywodraeth y Cynulliad yn mynd ati i weithredu ar fyrder, a hynny mewn modd pendant ac arloesol i lywio Cymru drwy’r adeg gythryblus hon. Rhaid inni sicrhau hefyd ein bod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr amgylchiadau economaidd newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg.

Daw’r colli swyddi yn Corus ar ben colledion eraill a gyhoeddwyd yn ystod y dirywiad economaidd. Efallai fod y colledion hyn ar raddfa lai ac efallai eu bod yn cael llai o sylw’r cyfryngau, ond mae pob un yn drychineb bersonol i’r bobl yr effeithir arnynt, ac i’r rhai sy’n dibynnu arnynt.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf yr ydym wedi clywed cyhoeddiadau am ddiswyddiadau gwirioneddol neu ddiswyddiadau posibl mewn cwmnïau megis Triumph Business Systems Cyf ym Merthyr Tudful, Unisem (Europe) Cyf yng Nghaerffili a Thompson Technik (Bridgend) Cyf, ac mae bygythiad i swyddi yn Alwminiwm Môn.

Mae pob un o’r diswyddiadau hyn yn achos tristwch i mi. Ond yr hyn sy’n cyfrif ar hyn o bryd yn anad dim byd arall yw ein bod yn mynd ati i weithio ar y cyd. Yma yng Nghymru yr ydym ar y blaen i wledydd eraill o ran gweithio drwy ein huwchgynadleddau economaidd. Mae pob uwchgynhadledd wedi esgor ar bolisïau ymarferol sydd wedi eu targedu ac sy’n cael cymorth a chefnogaeth oddi wrth ddwy ochr y diwydiant ac oddi wrth randdeiliaid allweddol eraill. Mae’r uwchgynadleddau wedi ein galluogi i gymryd camau pendant er mwyn dwyn ymlaen wariant cyfalaf, gan sefydlu’r rhaglen ProAct a buddsoddi’n drwm mewn gwariant ar seilwaith megis tai. Nid oes unrhyw ddiffyg yn ymrwymiad y Llywodraeth hon i Gymru a’i phobl. Caiff yr uwchgynhadledd economaidd nesaf ei chynnal ar 6 Chwefror yn y gogledd.

Ni ddylem gymryd arnom nad hon yw’r her economaidd fwyaf i ni ei hwynebu ers cenhedlaeth a mwy. Bydd rhagor o anawsterau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ni all neb ohonom ddweud yn union sut y bydd yr economi yn newid wrth i ni ddod drwy’r argyfwng hwn. Ein lle ni yn y Llywodraeth yw sicrhau bod gan economi Cymru y sgiliau a’r hyblygrwydd i fanteisio ar yr hinsawdd newydd honno.