Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad o’r Diwydiannau Creadigol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mewn ymateb i'r alwad gan y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant am adolygiad annibynnol o weithgarwch Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes y diwydiannau creadigol, rydym wedi gweithredu'n gyflym gan wahodd yr Athro Ian Hargreaves i ymgymryd â'r adolygiad. Derbyniodd yr Athro Hargreaves ein gwahoddiad.

Bydd yr Athro Hargreaves yn cymryd secondiad rhan amser o'i swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Strategol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Cyn gweithio i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad roedd yr Athro Hargreaves yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ofcom. Caiff swyddog o Lywodraeth Cynulliad Cymru ei secondio i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad tra bo'r Athro Hargreaves yn ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn i ni.

Mae gan yr Athro Hargreaves gyfoeth o brofiad perthnasol i'w alluogi i gynnal adolygiad trylwyr a threiddgar. Bu'n Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chyhoeddus BAA plc, Golygydd y New Statesman a'r Independent, Is-olygydd y Financial Times, Cyfarwyddwr Adran Newyddion a Materion Cyfoes y BBC ac aelod o fwrdd Ofcom. Mae'n gyn-gadeirydd ar Demos hefyd, a bu'n aelod o Dasglu Buddsoddi Cymdeithasol y Canghellor  ac yn Gyfarwyddwr ar Greenpeace yn y DU ac Ymddiriedolaeth GIG South Maudsley.
 
Bydd yr adolygiad, ym mhlith pethau eraill, yn ymdrin â'r canlynol: archwiliad cyffredinol o hyd a lled y farchnad; y cyfleoedd marchnad sydd ar gael i bob elfen o'r sector diwydiannau creadigol; cysylltiadau mewnol ac allanol Llywodraeth y Cynulliad; sgiliau; ac adolygiad o Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol Cymru. Bydd hefyd yn ystyried argymhellion a goblygiadau'r adroddiad 'Prydain Ddigidol' ar gyfer polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â darlledu a'r Diwydiannau Creadigol (Amgaeir y Cylch Gorchwyl llawn er gwybodaeth.) Bydd treiddgarwch yr Athro Hargreaves yn sicrhau bod Cymru'n cael y budd gorau posibl o'r sector hanfodol hwn.

Rydym yn disgwyl gallu cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad, a'n hymateb ninnau, i'r Cynulliad ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd.