Skip to content

Ysgrifenedig - Sefydlu Uned Datblygu Eiriolaeth a Pherfformiad Plant a Phobl Ifanc a'r cynnydd wrth sefydlu Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Yn dilyn fy natganiad ym mis Mawrth 2008 mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran darparu Gwasanaethau Eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.

 

Sefydlwyd yr Uned Datblygu Eiriolaeth a Pherfformiad o fewn yr Adran  Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ac mae bellach wedi'i staffio'n llawn gyda phennaeth cangen, rheolwr cangen a gweinyddwr cangen yn eu swyddi ers mis Ionawr 2009.

 

Ei phrif swyddogaethau yw –

 

-          hyrwyddo eiriolaeth ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion

-          hyrwyddo a chefnogi'r gwaith o weithredu Model ar gyfer Gwasanaethau Eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth y Cynulliad yng Nghymru

-          ystyried opsiynau ar gyfer datblygu a chomisiynu Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyngor Cymru Gyfan i bob plentyn a pherson ifanc

-          sefydlu Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol

-          cyflwyno adroddiad ar safonau eiriolaeth a chanlyniadau ledled Cymru

-          cefnogi Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc i weithredu'r trefniant newydd yn lleol a/neu'n rhanbarthol

 

Ar hyn o bryd caiff aelodau eu recriwtio i'r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol, a fydd yn cynnwys tri aelod bwrdd sy'n oedolion, cadeirydd a phedwar aelod sy'n blant a phobl ifanc. Bydd y bwrdd yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a bydd yn cynghori Gweinidogion Cymru ar y ffordd orau o ddarparu'r Model Gwasanaeth Newydd.  Caiff yr aelodau bwrdd sy'n oedolion eu recriwtio drwy ddefnyddio'r broses penodiadau cyhoeddus a hysbysebwyd y swyddi'n eang. Cafwyd llawer o ddiddordeb yn y swyddi, gyda dros 200 o geisiadau am wybodaeth. Bydd y cyfweliadau ar gyfer swyddi'r Cadeirydd ac aelodau'r bwrdd, y disgwylir eu cynnal ar ddiwedd mis Ebrill 2009, yn cynnwys plant a phobl ifanc.

 

Mae'n bleser gennyf nodi bod gwir ddiddordeb ymhlith plant a phobl ifanc mewn bod yn aelodau o'r Bwrdd, ac ymgeisiodd dros 40 o blant a phobl ifanc.  Roedd cymaint o amrywiaeth a chyfoeth o brofiadau a chefndiroedd, ac yn hytrach na cholli'r cyfle o weithio gyda'r plant a phobl ifanc nas dewiswyd ar gyfer y Bwrdd, mae'r uned yn bwriadu llunio grŵp rhithwir er mwyn defnyddio eu sgiliau, profiad a'u brwdfrydedd.  Bydd hyn yn sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd yn ystyried barn ystod ehangach o blant a phobl ifanc. 

 

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd ddechrau'r haf a bydd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.