Skip to content

Ysgrifenedig - Hynt rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013 yng Nghymru a chytundeb y Comisiwn Ewropeaidd ar newidiadau i raglenni

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae'n bleser gen i roi adroddiad ar hynt rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 yng Nghymru ac ar gytundeb diweddar y Comisiwn Ewropeaidd ar ein cynigion i ddiwygio'r rhaglenni.

 

Pan gwrddais i â swyddogion y Comisiwn ym Mrwsel yn gynharach eleni, gofynnais iddynt ystyried caniatáu hyblygrwydd o fewn y rhaglenni i helpu Cymru i ymateb i'r dirywiad economaidd byd-eang (yn ogystal â newidiadau yn y gyfradd gyfnewid) a phwysau ar ffynonellau arian cyfatebol yn sgil hynny, yn benodol o'r sector preifat. Yn ystod mis Gorffennaf, cytunodd y Comisiwn Ewropeaidd yn ffurfiol ar sawl newid yn y rhaglen Gydgyfeirio (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) a rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol (Dwyrain Cymru) ERDF 2007-2013. 

 

Rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol ac amserol y Comisiwn i'n cynigion, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan a'i bartneriaid cyflenwi, gan gynnwys CLlLC, i'n helpu i ddod i'r cytundeb hwn.

 

Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn canolbwyntio ar dair agwedd ar gyflwyno'r rhaglenni drwy:

  • leihau cyfran yr arian cyfatebol sy'n ofynnol drwy gynnydd yng nghyfraddau ymyrraeth yr UE i ysgafnhau'r pwysau y mae ymgeiswyr yn eu hwynebu, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gostyngiad yng ngwerth Sterling yn erbyn yr Ewro
  • ymateb yn benodol i anawsterau economaidd cyfredol, yn benodol yn y farchnad lafur
  • gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd newydd yng Nghynllun Adfer Economaidd yr UE drwy ehangu cwmpas gweithgareddau cymwys mewn meysydd allweddol.

 

Mae cyfraddau ymyrraeth o ran y rhaglenni wedi'u haddasu fel bod noddwyr sy'n gwneud cais am arian ar gyfer prosiectau newydd yn gallu derbyn cyfran fwy o arian yr UE:

·        Cydgyfeirio ERDF: o 46.46% i 57.47%

·        Cystadleurwydd ERDF: o 40.16% i 45.30%

·        Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop: o 55.56% i 64.36%

Mae'n bwysig cofio bod yr un gwerth cyffredinol Sterling i'r rhaglenni ac i ymrwymiadau arian cyfatebol Llywodraeth y Cynulliad â phan gytunwyd ar y rhaglenni yn 2007.

 

Mae strategaeth gyffredinol y rhaglenni yng Nghymru hefyd yr un fath. Mae'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â gwendidau a heriau strwythurol tymor canolig a hirdymor, agendâu Lisbon a Gothenburg yr UE a strategaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer creu swyddi a thwf cynaliadwy.

 

Mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 yn parhau i symud ymlaen yn dda. Yn wir, yn ddiweddar cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig drwy fwrw ein targed ymrwymiad diwedd blwyddyn (2009) o 50% (dros £920 miliwn) o gronfeydd yr UE, targed a gynyddwyd gennym mewn ymateb i'r dirywiad. At hynny, mae'r ymrwymiad hwn hyd yma yn cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o fwy nag £1.8 biliwn, gan roi cymorth hollbwysig i ryw 120 o brosiectau a fydd yn helpu bron i 29,000 o fusnesau Cymru a 280,000 o unigolion i gael gwaith a hyfforddiant.

 

Dros gyfnod yr haf, cadarnhawyd bod £140m o arian yr UE wedi'i gymeradwyo ar gyfer 15 prosiect, gwerth dros £245 miliwn o fuddsoddiad. Rydym hefyd yn symud ymlaen o ran ein targedau gwariant (N+2), a bennwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, a ninnau eisoes wedi bwrw ein targedau diwedd blwyddyn (Rhag 2009) ar gyfer 2009 o ran rhaglenni Cydgyfeirio Cronfeydd Strwythurol Ewropaidd a Chystadleurwydd ERDF. Rydym yn dal ar y trywydd iawn i fwrw targedau eraill y rhaglenni.

 

Fel y mae'r newidiadau rwyf wedi'u disgrifio yn dangos, yn ystod y dirywiad economaidd byd-eang presennol mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn bwysicach nag erioed. Rwy'n hyderus bod yr hyn y mae'r rhaglenni wedi'i gyflawni a'r newidiadau y cytunwyd arnynt gyda'r Comisiwn yn mynd i helpu busnesau, cymunedau ac unigolion drwy'r dirwasgiad gan helpu i baratoi Cymru ar gyfer adferiad economaidd.