Mae bellach yn Bythefnos Masnach Deg, sy’n para rhwng 23 Chwefror ac 8 Mawrth, a hoffwn gyfeirio at rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal drwy Gymru ynghyd ag at ein llwyddiannau dros y flwyddyn diwethaf pan ddaethom yn Wlad Masnach Deg gyntaf y byd.
Mae’r mudiad masnach deg cenedlaethol yn dal i dyfu, gan sicrhau gwell telerau i ffermwyr a chynhyrchwyr yn y gwledydd sy’n datblygu. Mae tua chwarter poblogaeth y byd yn dal i fyw mewn tlodi eithafol, ar lai na $1 y dydd, ond mae masnach deg yn galluogi rhai o ffermwyr a chynhyrchwyr tlotaf y byd i oresgyn y tlodi hwnnw drwy fasnachu. Telir pris teg am eu cynnyrch a rhoddir cymorth ar ben hynny i ddatblygu eu cymunedau yn y dyfodol. Gall hyn wneud byd o wahaniaeth i deuluoedd a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd anfon eu plant i’r ysgol, cael gafael ar ddŵr glân neu fanteisio ar gyfleusterau meddygol. Amcangyfrifir bod dros 7 miliwn o bobl yn Affrica, Asia ac America Ladin bellach yn elwa yn sgil masnach deg.
Mae cynlluniau a chynlluniau gweithredu Llywodraeth y Cynulliad ym maes datblygu cynaliadwy yn dangos sut yr ydym yn cefnogi masnach deg, ac mae’r gefnogaeth honno hefyd yn rhan allweddol o’n fframwaith ar gyfer gweithredu ar ddatblygu rhyngwladol cynaliadwy a’r rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Yn y Llywodraeth ddiwethaf, ymrwymwyd i gefnogi’r ymgyrch i wneud Cymru yn Wlad Masnach Deg gyntaf y byd. Sefydliad Masnach Deg Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad a oedd yn arwain yr ymgyrch honno.
Pennwyd y meini prawf ar gyfer rhoi statws Gwlad Masnach Deg yn 2006. Bu panel rhyngwladol o gynrychiolwyr y sector masnach deg yn asesu llwyddiannau Cymru ar sail y meini prawf y llynedd. Cafwyd datganiad mai Cymru oedd Gwlad Masnach Deg gyntaf y byd ar 6 Mehefin 2008, a hynny mewn uwchgynhadledd masnach deg a gynhaliwyd yng Nghasnewydd. Yr oedd 18 o ffermwyr o America Ladin ac Affrica yn bresennol yn yr uwchgynhadledd honno.
Bu dros 1,000 o wirfoddolwyr drwy Gymru yn gweithio’n galed fel rhan o’r ymgyrch Gwlad Masnach Deg, ac maent yn dal i gynnal y llwyddiant a gafwyd ac yn adeiladu arno. Er mwyn dod yn Wlad Masnach Deg, yr oedd angen i holl awdurdodau lleol Cymru a thros hanner holl drefi’r wlad gael grwpiau masnach deg gweithredol. Yr oedd angen i bob un o’n dinasoedd a 60 y cant o’n sefydliadau addysg uwch gael statws masnach deg. At hynny, yr oedd yn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio cynnyrch masnach deg yn fewnol, a hyrwyddo masnach deg yn allanol.
Cyflawnwyd hyn oll a mwy, ond nid yw’r gwaith wedi dod i ben. Ers yr haf, mae dau awdurdod lleol arall wedi ennill statws masnach deg, sy’n golygu bod gan dros 60 y cant o siroedd Cymru y statws hwn bellach. Mae un ar ddeg o drefi eraill yng Nghymru wedi sefydlu grwpiau masnach deg, sy’n golygu bod cyfanswm o 69 tref masnach deg drwy’r wlad. Mae pum cant o ysgolion Cymru wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun ysgolion masnach deg, sef tua 25 y cant o holl ysgolion Cymru. Mae hynny’n cymharu â 10 y cant o ysgolion yr Alban a 5 y cant o ysgolion Llundain. Erbyn diwedd Pythefnos Masnach Deg, mae disgwyl y bydd ein holl brifysgolion wedi ennill statws masnach deg. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Trenau Arriva Cymru ei fod wedi gwneud penderfyniad arwyddocaol i ddechrau gwerthu diodydd poeth masnach deg ar ei holl wasanaethau.
Hyd yma, mae llawer o’r gwaith wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, ond gobeithiwn newid y pwyslais dros amser er mwyn creu cysylltiadau mwy uniongyrchol rhwng defnyddwyr a chynhyrchwyr masnach deg. Drwy raglen Cymru o Blaid Affrica, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu menter sy’n galluogi busnesau o Gymru i roi cyngor a chymorth i Fenter Gydweithredol Coffi Masnach Deg Gumutindo yn Uganda. Byddwn hefyd yn cefnogi sefydliad Gwenyn ar gyfer Datblygu i alluogi pobl sy’n cadw gwenyn yn y Camerŵn i werthu mêl a chŵyr gwenyn drwy gwmni masnach deg yng Nghymru.
Felly, gall Cymru deimlo’n falch iawn wrth ddathlu Pythefnos Masnach Deg eleni. Bydd nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal drwy’r wlad, wedi’u trefnu gan grwpiau masnach deg lleol, cefnogwyr a sefydliadau, gyda chymorth Masnach Deg Cymru. Byddwn hefyd yn croesawu ymweliadau gan dri ffermwr masnach deg yn ystod y pythefnos, gan gynnwys cynhyrchydd bananas o Ynys Dominica, un o Ynysoedd y Gwynt, cynhyrchwr te o Sri Lanca a chynhyrchwr coffi o Golumbia. Byddant i gyd yn bresennol ac yn siarad mewn nifer o’r digwyddiadau drwy Gymru.
Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn cynnwys cynhadledd ysgolion masnach deg yng Nghaerffili, ras gyfnewid gyda bananas drwy Rydaman, noson o gerddoriaeth werin y byd yn Llandudno, a dadl fawr am fasnach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yr wyf wedi cael fy ngwahodd i gadeirio’r ddadl honno, sy’n cael ei threfnu gan Sefydliad Masnach Deg y DU. Bydd y cyfranwyr diddorol yn cynnwys cynrychiolwyr o Fudiad Datblygu’r Byd a’r Rhwydwaith Polisi Rhyngwladol, ynghyd â Peter Griffiths, awdur The Economist’s Tale. Byddant yn trafod y cwestiwn: 'A all masnachu fod yn rhydd ac eto’n deg?’
Digwyddiad arall y byddaf yn bresennol ynddo yw her 'mynd yn fananas dros fasnach deg’ yn siop Co-op, Porth, fore Sadwrn, 7 Mawrth. Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgais drwy’r DU i dorri’r record am y nifer fwyaf o fananas masnach deg i gael eu bwyta gan gynifer o bobl â phosibl dros gyfnod o 24 awr, o hanner dydd ar 6 Mawrth tan hanner dydd ar 7 Mawrth. Bydd nifer o grwpiau yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr her, gan gofrestru’r canlyniadau ar wefan y Sefydliad Masnach Deg. Byddwn yn annog pawb, yn enwedig Aelodau’r Cynulliad, i gymryd rhan.
Mae gwefan Cymru Masnach Deg yn rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal dros Bythefnos Masnach Deg, felly, gofynnaf i Aelodau’r Cynulliad gefnogi’r gweithgareddau hyn os bydd modd. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i Masnach Deg Cymru a’r cannoedd o wirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig sy’n hyrwyddo masnach deg yn eu cymunedau a’u busnesau lleol.
Slogan Pythefnos Masnach Deg eleni yw 'Gwnewch iddo ddigwydd. Dewiswch Masnach Deg’. Mae Cymru’n dangos sut y gall gwlad fach hyd yn oed wneud camau mawr er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae ein penderfyniad i gefnogi a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fasnach deg yn cael effaith aruthrol o bwysig ar fywydau cynhyrchwyr a’u teuluoedd yn y trydydd byd.