Skip to content

Ysgrifenedig - Y bwriad i ddiwygio trefniadau llywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Gan adeiladu ar Adolygiad Webb o Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru (Addewid a Chyflawniad: Rhagfyr 2007), rwy’n bwriadu rhoi trefniadau llywodraethu ar waith i hyrwyddo mwy o gydweithio ac integreiddio rhwng ysgolion a sefydliadau addysg bellach a sicrhau hyblygrwydd i’w gwneud yn haws cydweithredu ar draws ffiniau.

 

Rwy eisiau sector AB a 6ed dosbarth hyfyw, tra llwyddiannus, sy’n gallu cydweithredu ac ymrwymo’n llawn i agenda gwell sgiliau, parch cydradd i astudiaethau galwedigaethol ac academaidd, ac agor y drws yn ehangach i genedlaethau newydd o fyfyrwyr, a hynny ledled Cymru.

 

Mae AB yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae llawer o’n sefydliadau addysg bellach eisoes yn perfformio’n aruthrol o dda. Rwy eisiau gweld yr ymdrechion hynny yn cael eu hategu gan drefniadau llywodraethu a fframwaith deddfwriaethol priodol.

 

Mae gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud darpariaeth am lywodraethu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a’u cydweithrediad â’i gilydd ac â sefydliadau addysgol eraill.

 

Heddiw rwy’n cyhoeddi bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ystyried cynnig deddfwriaeth sy’n diwygio trefniadau llywodraethu sefydliadau addysg bellach, fel rhan o’n penderfyniad cyffredinol i weddnewid tirwedd addysg ôl-16 yng Nghymru, mewn sefydliadau addysg bellach ac ysgolion.

 

Rwy’n bwriadu tynnu Grŵp ynghyd i roi cyngor imi ar opsiynau ar gyfer y diwygio hwn. Bydd y Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r undebau llafur perthnasol, myfyrwyr, Fforwm, penaethiaid colegau, cyrff llywodraethu cyfredol, buddiannau cyflogwyr priodol a CLlLC. Fi fydd yn cadeirio’r Grŵp. Bydd ei gylch gwaith yn cynnwys ymchwilio i wahanol fodelau ar gyfer llywodraethu AB a grwpiau chweched dosbarth yn y dyfodol, o fewn cyfyngiadau’r pwerau deddfwriaethol newydd, a gwneud argymhellion.

 

Rwy’n bwriadu i’r adroddiad cyntaf fod gyda fi erbyn yr hydref, fel y bydd y gwaith y mae ei angen er mwyn drafftio Mesur i’w gynnwys mewn rhaglen ddeddfwriaeth o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu dechrau.