Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Gynaliadwyedd a Thai

Ers tro, cydnabuwyd bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr ar lifogydd ac erydiad yr arfordir yn gyfyngedig o ran ei gwmpas ac o ran yr arfau y mae’n eu darparu ar gyfer rheoli’r risgiau hynny.  Dim ond llifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr y mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn berthnasol iddynt, sy’n gadael bwlch amlwg o ran llifogydd o ffynonellau eraill megis dŵr wyneb a dŵr daear. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn dibynnu’n drwm ar fesurau draenio a mesurau amddiffynnol.

 

Ym mis Mai 2008, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr. Mae diben deublyg i’r Mesur hwn, sef gweithredu canlyniad Adolygiad Pitt i’r llifogydd a fu yn Lloegr yn ystod haf 2007, a chyflwyno nifer o newidiadau angenrheidiol i’r ddeddfwriaeth mewn meysydd cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys nifer o newidiadau sydd eu hangen i’r ddeddfwriaeth ar reoli dŵr yn sgil materion a ddaeth i’r amlwg ers i Ddeddf Dŵr 2003 ddod i rym.

 

Cyhoeddwyd y Mesur drafft ar 21 Ebrill 2009 fel rhan o becyn o ddogfennau oedd yn cynnwys:

  • y ddogfen ymgynghori
  • y Mesur drafft
  • y nodiadau esboniadol
  • yr asesiad effaith ar gyfer y cam ymgynghori.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn manylu ar y cymalau sydd yn y Mesur drafft a’r polisi sy’n sail iddynt. Mae hefyd yn cynnwys adrannau naratif ar lifau gwaith lle nad yw’r polisi wedi ei bennu’n derfynol eto.  Mae hyn yn cynnwys cynigion polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar reoli risgiau llifogydd ac erydiad yr arfordir, a’r polisi ar ddŵr. Mae’r rhain i’w gweld yn Atodiad A y ddogfen. Y bwriad yn achos y meysydd hyn yw gofyn am sylwadau a fydd yn helpu i bennu gwedd derfynol y polisi ac yn arwain at gynnwys darpariaethau cysylltiedig yn y Mesur terfynol.

 

Mae’r darpariaethau sydd yn y Mesur drafft ac sydd wedi’u hamlinellu yn y ddogfen ymgynghori yn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth yn mynd i’r afael â phob ffynhonnell llifogydd, yn crisialu cyfrifoldebau’r awdurdodau gweithredol ac yn hwyluso’r gwaith o reoli risgiau llifogydd ac erydiad yr arfordir. Maent yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y mae wedi’i nodi yn y Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru, y Datganiad Sefyllfa ar y Polisi Strategol ar Ddŵr a’n hymateb i Adolygiad Pitt i lifogydd haf 2007.

 

Bydd y Mesur drafft yn destun ymgynghoriad am dri mis. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 24 Gorffennaf 2009.

 

Byddaf yn dal ati i weithio’n agos â’m cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i ddatblygu’r Mesur, ar sail yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r gwaith craffu cyn y broses ddeddfu. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd y gwaith hwn.