Mae agwedd ragofalus Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at gynhyrchu cnydau a addaswyd yn enetig ar raddfa fasnachol yn cael ei thanlinellu yn ein hymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ i gyfyngu cnydau GM i’r eithaf yng Nghymru. Mae cytundeb barn am hyn ar draws pob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r safbwynt hwn wedi’i gefnogi ers tro byd. Bydd Aelodau yn ymwybodol o’r ffaith nad oes gennym unrhyw bwerau i wahardd cnydau GM ac yn gwybod ein bod wedi mabwysiadu’r polisi mwyaf cyfyngol sy’n gyson â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Ym mis Ebrill 2008, cyhoeddwyd adroddiad gan yr Asesiad Rhyngwladol o Wybodaeth Amaethyddol, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gyfer Datblygu, sy’n cefnogi arddel agwedd ragofalus tuag at GM. Cyfrannodd dros 400 o wyddonwyr o bob cwr o’r byd at yr adroddiad hwnnw. Mae’r arbenigwyr hyn yn parhau i drafod manteision a bygythiadau posibl GM, ac mae gwaith ymchwil yn dangos lefelau amrywiol o ran y cynnydd a’r gostyngiad mewn cynhyrchiant. Bu i’r adroddiad rybuddio bod y gwaith o asesu’r dechnoleg hon ar ei hôl hi o’i gymharu â’r broses o’i datblygu, sydd yn ein gwneud yn fwy ansicr ynghylch y peryglon i’r amgylchedd, i iechyd pobl ac i’n heconomi.
Mae ein hagwedd ragofalus, felly, heb newid ac yr wyf heddiw yn cyhoeddi fy nghynlluniau i gynnal ymgynghoriad llawn ar drefniadau ar gyfer cydfodoli. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi datgan na ddylid diystyru unrhyw ffurf ar amaethyddiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, boed yn ffermio GM, yn ffermio traddodiadol neu’n ffermio organig. Yr wyf felly yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn ychydig wythnosau yn amlinellu cynigion i roi trefniadau cydfodoli ar waith rhwng cnydau GM, cnydau traddodiadol a chnydau confensiynol yng Nghymru.
Mae cydfodoli yn cyfeirio at allu ffermwyr i wneud dewis ymarferol rhwng cynhyrchu cnydau GM, cnydau confensiynol a chnydau organig, gan gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer labelu, a’r meini prawf o ran purdeb. Ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd bod cnydau GM yn bresennol mewn cnydau confensiynol ac organig, ac efallai bod oblygiadau masnachol ar gyfer y ffermwyr sydd felly wedi’u heffeithio. Mae angen mesurau addas wrth dyfu, cynaeafu, cludo, storio a phrosesu cnydau er mwyn sicrhau cydfodolaeth. Nod mesurau cydfodoli yw amddiffyn ffermwyr sy’n cynhyrchu cnydau confensiynol ac organig rhag yr anfanteision economaidd a allant ddeillio o gael eu halogi’n ddamweiniol gan gnydau GM.
Gellir gweld ein safbwynt o gyfyngu ar dyfu cnydau GM yng Nghymru drwy’r dull yr ydym yn bwriadu ei fabwysiadu o weithredu’r agweddau GM ar y gyfarwyddeb atebolrwydd amgylcheddol. Diben y gyfarwyddeb honno yw atal niwed mawr i’r amgylchedd drwy orfodi busnesau sy’n llygru i dalu am gostau atal ac adfer. Yn sgîl ein hymgynghoriad cyhoeddus y llynedd ar y gyfarwyddeb atebolrwydd amgylcheddol, bydd y cynigion yr ydym wedi’u gwneud mewn perthynas â’r agweddau GM ar y gyfarwyddeb yn dod i rym cyn bo hir drwy ddeddfwriaeth ddomestig. Bydd hynny’n sicrhau mwy o amddiffyniad i’n hamgylchedd yng Nghymru drwy wneud y tyfwyr a’r cwmnïau biodechnoleg, sef deiliaid y trwyddedau, yn gyfrifol am unrhyw niwed i’r amgylchedd nad oes modd ei ragweld y gallai cnwd GM ei achosi.
Y bwriad yw sicrhau bod y mesurau cydfodoli o dan reolaeth lem yng Nghymru. Bydd ein mesurau arfaethedig yn fwy cyfyngol na’r rheiny sy’n cael eu hargymell yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Hoffwn gymryd y cyfle i amlinellu rhai o brif nodweddion ein cynigion ar gyfer mesurau cydfodoli.
O ran trothwyon ar gyfer hadau, byddwn yn gwahodd sylwadau ynghylch a ddylid cadw at y trothwy presennol ar gyfer hadau o 0.1 y cant, gan fod llawer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi sefydlu pellteroedd gwahanu ar y sail honno.
O ran atebolrwydd, byddwn yn cynnwys opsiynau ar gyfer gorfodi atebolrwydd llym ar dyfwyr cnydau GM ac yn cyflwyno cynllun digolledu gwirfoddol wedi’i ariannu gan y diwydiant. Efallai hefyd y bydd modd ystyried opsiwn ar gyfer cyflwyno cynllun digolledu statudol.
O ran parthau rhydd o GM, byddwn yn gwahodd sylwadau ar ba mor briodol y byddai gwaharddiad statudol ar dyfu cnydau GM ym mhob un o’r ardaloedd cadwraeth statudol yng Nghymru. O ran cael cofrestr o gnydau GM, byddwn yn cynnig cofrestr genedlaethol statudol y bydd modd i’r cyhoedd ei gweld. I dyfu cnydau GM, bydd angen cofrestru â Llywodraeth y Cynulliad dri mis cyn plannu’r cnydau. Bydd disgwyl i dyfwyr ymgynghori â’u cymdogion er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y pellteroedd gwahanu, ac yr ydym yn cynnig hefyd y bydd gofyniad statudol i roi gwybod am hyn i bobl sy’n byw yn y cyffiniau ac i gymdogion sy’n dirfeddianwyr. Cynigir y dylid ei wneud yn ofyniad statudol i gynhyrchwyr GM gadw cofnodion ac i bawb sy’n bwriadu tyfu cnydau GM ar ffermydd gael hyfforddiant ar sut i’w trin.
Bydd y mesurau caeau y byddaf yn eu cynnig yn seiliedig ar faint cae âr ar gyfartaledd yng Nghymru, sef llai na 3 ha. Byddaf hefyd yn cynnig pennu pellteroedd ynysu sylweddol rhwng cnydau GM a chnydau rhydd o GM, ynghyd â pharthau clustogi sy’n cynnwys rhwystrau paill neu faglau.
Yr wyf yn ymwybodol fod ffactorau fel poblogaeth y byd yn tyfu, newid yn yr hinsawdd a chostau bwyd cynyddol wedi arwain at bryderon ynghylch diogelu’r cyflenwad bwyd yn y dyfodol. Mae mwy a mwy o drafod am y rôl y gall cnydau GM eu chwarae yn y broses o sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd. Nid wyf yn credu bod tystiolaeth glir fod gan gnydau GM ran i’w chwarae yn hyn o beth. Serch hynny, yr wyf yn siŵr y bydd pob plaid yn y Siambr hon yn ystyried y drafodaeth hon yn ddwys.
Mae fy swyddogion yn parhau i gydweithio ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn perthynas â’r gyllideb ymchwil a datblygu y mae DEFRA yn ei rheoli yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys GM a’r rhaglenni bwyd a ffermio cynaliadwy. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio ar raglen Foresight y Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys materion defnydd tir a diogelu’r cyflenwad bwyd. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i adolygu’r dystiolaeth, fel y gwnawn ym mhob maes polisi, i sicrhau fod ein hagwedd at GM yn dal i fod yn gytbwys a’n bod yn ystyried tystiolaeth newydd sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r dystiolaeth gyfredol yn cefnogi parhau i arddel safbwynt rhagofalus, ac mae’n fwriad gennyf barhau i fabwysiadu agwedd mor gyfyngol â phosibl tuag at gnydau GM, sy’n gyson â’n rhwymedigaethau cyfreithiol. Edrychaf ymlaen at dderbyn sylwadau am y cynigion ar gyfer mesurau cydfodoli a fydd yn ein helpu i roi trefn briodol ar waith i reoli unrhyw drefniadau i ddatblygu cnydau GM yng Nghymru yn y dyfodol.