Skip to content

Llafar - Gyllid i Fyfyrwyr Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Fis Tachwedd diwethaf, gwnes ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn, yn cyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i ailfodelu’r system cyllid myfyrwyr. Dilynodd y cynigion hyn argymhellion cam 1 yr adolygiad o addysg uwch, dan arweiniad yr Athro Merfyn Jones, ac yr oeddent yn seiliedig ar ein hymrwymiadau 'Cymru’n Un’ i ddarparu cymorth ychwanegol o ran dyledion myfyrwyr ac i fuddsoddi yn y sector addysg uwch. Heddiw, hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am ganlyniadau’r ymgynghoriad a dynodi sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r mater.

Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad, cafwyd cyfanswm o 28 ymateb. Yr oedd yr ymatebwyr ar y cyfan yn cytuno â’r egwyddor sylfaenol o dargedu cefnogaeth at fyfyrwyr o aelwydydd incwm isel sy’n mynd i mewn i addysg uwch. Yr oedd cynrychiolwyr myfyrwyr yn cefnogi ein hymdrechion i dargedu adnoddau at y rheini sydd fwyaf angen cymorth. Yr oedd cyfres o randdeiliaid allweddol hefyd yn cefnogi’r cynnig y dylai cyfran o’r adnoddau a ryddheir yn sgil ailfodelu ein system gyfredol gael ei hail-fuddsoddi yn y sector addysg uwch yng Nghymru.

Byddwn yn dirwyn y grant ffioedd dysgu i ben yn raddol ar gyfer myfyrwyr newydd o flwyddyn academaidd 2010-11 ac yn ailfodelu’r system cyllid myfyrwyr. Byddwn yn ailgyfeirio adnoddau oddi wrth y grant ffioedd dysgu ac yn eu dyrannu fel a ganlyn. Bydd cyfanswm o £44 miliwn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y system cyllid myfyrwyr i gynyddu grant dysgu’r Cynulliad. O ganlyniad, byddwn yn codi lefel grant dysgu llawn y Cynulliad o £2,906 yn 2009-10 i £5,000 yn 2010-11, a fydd yn cael effaith benodol ar fyfyrwyr o deuluoedd â’r incymau isaf. Ar yr un pryd, ac er mwyn sicrhau na fydd yr un myfyriwr israddedig llawn amser sy’n hanu o Gymru yn gymwys am lai o gefnogaeth grant ar gyfer costau byw nag y byddent dan y system cyllid myfyrwyr yn Lloegr ar gyfer 2009-10, bydd trothwy incwm yr aelwyd i gael grantiau dysgu rhannol y Cynulliad yn mynd i fyny £10,000.

Erbyn blwyddyn ariannol 2015-16, bydd y system newydd yn rhyddhau £31 miliwn bob blwyddyn i gael ei gyfeirio o’r newydd i’r sector addysg uwch. Bydd hynny’n cynnwys darparu bwrsarïau ac ysgoloriaethau wedi’u targedu, fframwaith bwrsarïau cenedlaethol, a chefnogaeth i flaenoriaethau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, megis prifysgol Blaenau’r Cymoedd a’r coleg ffederal. Byddwn hefyd yn ailgyfeirio £2 miliwn ar gyfer cymhellion hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd.

Mae’n bleser gennyf hefyd gyhoeddi cynllun arloesol ar gyfer grant recriwtio graddedigion newydd, a chaiff £1 miliwn ei neilltuo ar ei gyfer. Bydd hwnnw’n annog graddedigion newydd, sydd wedi cael cefnogaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ystod eu cyfnod mewn addysg uwch, i weithio yng Nghymru mewn swyddogaethau neu broffesiynau penodol y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt. Erbyn 2015-16, ac yn sail i’r system newydd hon, bydd gwerth £63 miliwn o gefnogaeth ychwanegol, i sicrhau na fydd angen i’r un myfyriwr israddedig llawn amser o Gymru dalu unrhyw ffioedd dysgu cyn cychwyn.

Yn y papur ymgynghori, nodais fwriad y weinyddiaeth hon yn glir i gyflwyno elfen newydd, unigryw i Gymru, yn ein system o gefnogaeth i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r cynnydd yng ngrant dysgu’r Cynulliad, bydd darparu elfen o ryddhad dyledion yn helpu’r myfyrwyr llai cefnog i oresgyn y pwysau y gallent eu hwynebu wrth astudio mewn sefydliad addysg uwch.

Gallaf ddatgan heddiw bod tair elfen wahanol i’r canlyniad. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud ymrwymiad i ddileu hyd at £1,500 o ddyled benthyciad myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr parhaus sy’n hanu o Gymru ac sy’n cael benthyciad cynhaliaeth yn y flwyddyn academaidd 2010-11 gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ymysg y rhain bydd llawer nad oedd wedi gallu manteisio ar y grant ffioedd dysgu yn y blynyddoedd blaenorol. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau astudio dan y system newydd, ac sy’n cael benthyciad cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru o’r flwyddyn academaidd 2010-11 ymlaen, ein bwriad yw dileu hyd at £1,500 o ddyled benthyciad myfyrwyr ar yr adeg pan fydd rhaid i unrhyw unigolyn ddechrau ad-dalu. Ein rhagdybiaeth wrth gynllunio’r ail agwedd hon o ryddhad dyledion yw y caiff ei osod ar hyd at £1,500 am bob myfyriwr o Gymru, ni waeth ymhle y gwnaeth ef neu hi astudio yn y DU.

Tynnais sylw gynnau at drydedd elfen y pecyn hwn, sef cynllun recriwtio graddedigion. Fel rhan o’r pecyn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu edrych ar opsiynau, o fewn pwerau Gweinidogion Cymru, i dalu am gynllun i annog graddedigion newydd a gafodd eu cefnogi gan bartneriaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru drwy eu haddysg uwch i gymryd swyddi yng Nghymru mewn proffesiynau neu alwedigaethau penodol sy’n feysydd blaenoriaeth. Datblygid cynllun o’r fath mewn partneriaeth â chyflogwyr Cymru, bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru a’r cynghorau sgiliau sector.

Yn hyn oll, gadewch imi ddweud yn glir na fydd cymhwysedd ar gyfer grantiau a benthyciadau presennol ddim yn newid i unrhyw fyfyriwr sydd â hawl ar hyn o bryd i’r grant ffioedd dysgu tra pery eu cwrs astudiaeth presennol. Ni fydd y system ailwampiedig yn effeithio ychwaith ar hawl myfyrwyr sy’n cychwyn eu haddysg uwch mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd 2009-10. Câi’r newid ei gyflwyno’n raddol, gan gychwyn o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2010-11 i fyfyrwyr newydd.

O ran sefyllfa sefydliadau addysg uwch Cymru, bydd y cynllun ailwampiedig yn darparu adnoddau ychwanegol sylweddol i addysg uwch yng Nghymru, yn gyfanswm o dros £31 miliwn y flwyddyn erbyn 2015-16. Ar adeg pryd yr ymddengys y bydd buddsoddi cyffredinol yn y sector cyhoeddus a phreifat dan gryn gyfyngiadau, bydd hyn gymaint â hynny’n bwysicach wrth ymdrin â’r heriau y mae Cymru’n eu hwynebu. Fel yr wyf wedi datgan yn glir o’r dechrau, fodd bynnag, dyrennir yr adnoddau ychwanegol hyn yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru’n Un. Byddaf yn edrych at gam 2 o’r adolygiad o addysg uwch yng Nghymru i helpu i ffurfio’n meddyliau ymhellach ar y mathau o fuddsoddi sydd yn rhoi’r gwerth gorau i Gymru. Yr wyf yn ddiolchgar i Merfyn Jones a’i dîm am eu gwaith hyd yma ac am eu cefnogaeth glòs drwy gydol y broses hon.

Byddaf yn ystyriol hefyd o’r materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr. Er enghraifft, yr wyf yn bryderus am effaith costau astudio cudd, gan gynnwys costau am ddeunyddiau cyrsiau, gwasanaethau llyfrgell neu lungopïo a sefyllfa myfyrwyr rhan amser. Mae’n bwysig nad oes dim rhwystrau i atal pobl rhag cyrraedd eu llawn botensial drwy addysg uwch, beth bynnag fo’r amgylchiadau ariannol.

Ac edrych ymlaen, bydd y camau nesaf cyntaf yn cynnwys cyfnod ymgynghori technegol ar y rheoliadau cyllid myfyrwyr i roi grym i’r newidiadau yr wyf wedi’u cyhoeddi heddiw. Canlyniad hyn fydd system sydd wedi’i gwneud yng Nghymru, yn deg ac yn gynaliadwy, yn ateb ymrwymiadau 'Cymru’n Un’, ac yn dderbyniol gan fyfyrwyr, y sector AU a’r cyhoedd yng Nghymru’n gyffredinol.