Skip to content

Llafar - Datganiad Strategol ar yr Amgylchedd Hanesyddol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Pan gefais fy mhenodi’n Weinidog dros Dreftadaeth, rhoddais ymrwymiad y byddwn yn cyhoeddi datganiad cyfeiriad strategol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Heddiw, dyma fi’n cyhoeddi nid un datganiad ond pecyn o dri.

 

Dyma ddatganiad sy’n dathlu cyfoeth ac amrywiaeth ein hamgylchedd hanesyddol a’r manteision sy’n dod yn ei sgîl ar draws pob portffolio. Ar yr un pryd, y mae’n cydnabod y cyfyngiadau a wynebwn, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd gennym i sicrhau bod ein treftadaeth drawiadol yn fywiog ac yn berthnasol i’r byd sydd ohoni. Mae’n ddatganiad am ein treftadaeth ac yn un ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

 

Cyhoeddais fy uchelgais ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol ar 6 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r uchelgais hwnnw’n rhan o’r pecyn hwn heddiw, ynghyd â dogfen sy’n amlinellu pwysigrwydd yr amgylchedd hanesyddol mewn llawer cyfeiriad gwahanol a’r heriau sy’n ein hwynebu ni. Yn bwysicaf oll, o bosibl, y mae’n ffurfio cynllun o gamau i’w cymryd dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Mae’r pecyn yn y datganiad heddiw yn deillio o waith ymgynghori eang dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys fy nghynadleddau Treftadaeth a ddenodd gynulleidfa eang, nid yn unig o blith cynrychiolwyr allweddol o’r sector treftadaeth ond o blith cymunedau lleol. Ymhlith y cyfranwyr yn y gynhadledd yn y gogledd, er enghraifft, yr oedd llawer o fyfyrwyr ifanc a phlant ysgol a ddaeth â golwg newydd a ffres i’r drafodaeth. Yr wyf wedi dibynnu’n drwm hefyd ar waith aelodau fy ngrŵp cynghori ar yr amgylchedd hanesyddol, sydd dros fisoedd lawer, wedi edrych yn fanwl ar y materion sy’n ein hwynebu er mwyn helpu i fwydo’r datganiad hwn.

 

Yr wyf wedi cyfeirio lawer gwaith, gan gynnwys yn y Siambr hon, at dreftadaeth gyfoethog a neilltuol Cymru, sydd o’n cwmpas ymhobman. Gwelwch adeiladau hanesyddol ar eich ffordd i’r gwaith; efallai eich bod yn byw mewn ardal ag olion ein gorffennol diwydiannol; ac efallai fod eich plant yn mynd ar deithiau ysgol i gestyll neu’n cymryd rhan mewn dramâu sy’n adrodd agweddau ar ein hanes. Bron bob dydd gwelwch gyfeiriad at ein treftadaeth yn y Western Mail neu’r Daily Post. Mae’n bosibl cyrraedd pwynt lle’r ydym yn cymryd ein treftadaeth yn ganiataol.

 

Mae gennym nodweddion lleol sy’n golygu llawer ac sy’n rhan annatod o fywyd cymunedau lleol. Yr ydym oll yn rhan o’r stori, ac mae’r adeiladau a’r archaeoleg o’n cwmpas yn helpu i roi ymdeimlad o le ac yn dylanwadu arnom. Mae gan bobl yng Nghymru brofiad o weithio yn y diwydiant glo, y chwareli, neu unrhyw fath o ddiwydiant—diwydiannau a fu mor bwysig wrth ddatblygu’r wlad—a dyna’u treftadaeth hwy. Mae teuluoedd cyfan wedi mynd 'o dan y ddaear’, fel y dywedais eisoes, neu wedi gweithio yn y chwarel leol, ac mae adeiladau’r capeli a’r ysgolion ym mhob cymuned yn ein hatgoffa am eu rôl ganolog yn hanes cymdeithasol Cymru. Mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn annatod glwm wrth amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae gan bawb ei stori i’w hadrodd ac mae angen inni fanteisio, drwy bob cyfrwng, i adrodd y storïau hynny.

 

Serch hynny, mae gan dreftadaeth fanteision eraill hefyd. Fel y dengys fy natganiad, gall treftadaeth wneud gwahaniaeth aruthrol i Gymru heddiw. Manteision economaidd drwy dwristiaeth yw’r enghraifft amlwg: mae 90 y cant o’r ymwelwyr rhyngwladol sy’n aros yng Nghymru yn ymweld â safleoedd diwylliannol. Bob blwyddyn, bydd 1.2 miliwn o bobl yn ymweld â’r 30 o safleoedd sydd wedi’u staffio gan Cadw, a cheir llawer mwy o ymweliadau â’r safleoedd sydd heb staff. Mae eiddo a thirluniau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn denu rhyw 5 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn, ac mae amgueddfeydd a chanolfannau treftadaeth Cymru yn denu tua 3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Ni allwn ddiystyru’r lefel hon o weithgarwch yn ein heconomi.

 

Mae cadw neu adfer ein hamgylchedd hanesyddol yn cyfrannu’n aruthrol at adfywio’r ardaloedd mwyaf llwm. Mae achos economaidd cryf dros adfywio adeiladau hanesyddol, nid yn unig er lles yr adeiladau unigol ond er lles yr ardal a’r gymuned ehangach. Gall treftadaeth a chadwraeth fod yn gyfle yn hytrach na llyffethair.

 

Mae’n rhaid inni beidio ag anghofio’r manteision i’r amgylchedd sydd i’w cael drwy ail-ddefnyddio adeiladau hanesyddol neilltuol, gan eu bod yn ymgorffori mwy o egni a chymeriad lleol nag adeiladau newydd sydd yn aml iawn yn gwbl ddi-liw.

 

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn gwneud Cymru’n wahanol, yn helpu i roi ein hunaniaeth inni ac mae’n adnodd cyfoethog ar gyfer addysg a dysgu gydol oes. Mae’n treftadaeth yn cael effaith ac yn creu manteision ar draws pob portffolio yn Llywodraeth y Cynulliad a hoffwn wneud y gorau o’r cydgyfleon hyn. Yr wyf wedi ei gwneud yn glir yn fy natganiad yr hoffwn i gydweithio â’r Gweinidogion eraill i hybu gwaith tîm gyda’u hadrannau er mwyn ategu fy strategaeth i.

 

Er mai at yr amgylchedd hanesyddol y mae’r datganiad hwn yn cyfeirio, dylwn i nodi yn y fan hon fod y synergeddau hyn yn nodweddiadol o’r portffolio treftadaeth cyfan. Er enghraifft, mae manteision addysgol a chymdeithasol ehangach y celfyddydau a chwaraeon yn ganolog i’r rheswm pam mae Llywodraethau’n dewis buddsoddi ynddynt. Yr wyf am i effaith y portffolio treftadaeth fod hyd yn oed yn fwy grymus nag ydy hi yn barod. Yn y flwyddyn newydd byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynigion i hybu’r agenda diwylliannol ehangach.

 

Fodd bynnag, dyna ddigon o rethreg. Datganiad strategol yw hwn am yr amgylchedd hanesyddol. Yr wyf am iddo fod yn ymarferol ac yn ystyrlon, felly rhan allweddol o’r pecyn yw cyfres o gamau gweithredu.  Maent yn gamau gweithredu heriol ond realistig yr wyf am eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Fy swyddogion yn Cadw fydd yn gyrru llawer o’r camau gweithredu ymlaen, ond nid yw hynny’n wir am bob un ohonynt. Ni all Cadw weithio’n annibynnol ar rannau eraill o Lywodraeth y Cynulliad nac yn annibynnol ar ein partneriaid yn y sector treftadaeth ehangach. Mae’r cynllun gweithredu’n eang ei ystod ac mae’n ceisio rhoi sylw i faterion ar draws y sbectrwm. Bydd yn berthnasol i waith awdurdodau lleol, y trydydd sector, adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth, perchnogion asedau unigol ac unigolion a grwpiau eraill.

 

Fy mwriad nawr yw manylu ar rai o’r camau gweithredu allweddol yr wyf wedi’u nodi. Bydd Cadw yn cynnal arolwg newydd i adnabod asedau’r ugeinfed ganrif sydd o bwysigrwydd hanesyddol ac yn ymgynghori ar gofrestr o feysydd brwydrau. Bydd hefyd yn cymryd camau i ddatblygu system fodern, glir ac atebol o warchod treftadaeth a fydd yn cynnwys y canllawiau diweddaraf. Er mwyn sicrhau deialog barhaus gyda phawb sydd â diddordeb yn y sector, byddaf yn cynnal cynhadledd arall ar Dreftadaeth ym mis Gorffennaf 2010. Yr wyf eisoes wedi cael cyfarfodydd â’r Dirprwy Weinidog dros Adfywio ac wedi trafod dulliau y gall ein hadrannau gydweithio i adfywio safleoedd treftadaeth a thirluniau mewn modd cynaliadwy. Bydd rhaglen barhaus Cadw o astudiaethau o nodweddion trefol i ddal hanfod yr hyn sy’n gwneud ardaloedd lleol yn unigryw yn helpu i lunio’r cynlluniau adfywio. Yr wyf hefyd mewn trafodaethau â’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol oes a Sgiliau ac eraill o ran hyrwyddo astudio hanes Cymru, ar lefel gymunedol ac mewn addysg uwch, ac am y cyfraniad y gall ein hamgylchedd hanesyddol ei wneud at y cwricwlwm ysgol. Yr wyf hefyd am archwilio ffyrdd o gydweithio i hyrwyddo cadwraeth a sgiliau crefft adeiladu traddodiadol.

 

Byddaf yn gwneud yn siŵr bod fy swyddogion yn Cadw a Croeso Cymru, ac eraill ar y bartneriaeth twristiaeth ddiwylliannol, yn parhau i weithio’n agos i sicrhau, fel rhan o gynllun gweithredu’r prosiect, bod safleoedd treftadaeth yn cyfrannu’n effeithiol at yr arlwy i dwristiaid yng Nghymru yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Byddaf hefyd yn trefnu uwchgynhadledd a fydd yn canolbwyntio ar dreftadaeth a thwristiaeth yn benodol. Bydd Cadw yn gweithio gyda chymunedau lleol i gynnal digwyddiadau yn safleoedd Cadw a bydd yn hyrwyddo prosiectau lleol sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, enwau lleoedd, treftadaeth leol a chwedloniaeth. Byddwn yn trafod â’r trydydd sector ynghylch sut i ddatblygu cyfleoedd gwerth chweil ar gyfer gwirfoddoli a datblygu sgiliau, a byddwn yn helpu i gynnal y gwaith o greu rhwydwaith dreftadaeth.

 

Byddwn yn llunio canllawiau ar dechnolegau microgynhyrchu ac yn cymryd camau i leihau’r ynni a ddefnyddir yn ogystal â lleihau allyriadau carbon yn y safleoedd dan ofal Cadw. Bydd fy ngrŵp amgylchedd hanesyddol yn gweithio i flaenoriaethu camau gweithredu i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol. Drwy’r grŵp amgylchedd hanesyddol, byddaf yn trafod camau ar y cyd i fynd i’r afael â rhwystrau o ran agwedd a rhwystrau ffisegol, ariannol a  logistaidd i dreftadaeth. Yn olaf, byddaf yn cynnal uwchgynhadledd ar dreftadaeth yn 2010 i drafod sut i ddehongli treftadaeth a'r cysylltiadau rhwng treftadaeth a'r celfyddydau gyda'm swyddogion, cyrff a noddir a mudiadau pwysig eraill sydd â diddordeb mewn treftadaeth.

 

Cipolwg yn unig yw hwn, a cheir cynllun gweithredu mwy manwl ar wefan Cadw, lle bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn rheolaidd drwy adroddiadau cynnydd. Heb os nac oni bai, mae hwn yn agenda uchelgeisiol, ond mae angen iddo fod, gan fod yr amgylchedd hanesyddol yn treiddio i gymaint o agweddau o’n lles a’n hegni cenedlaethol. Fe’ch cymeradwyaf ichi.