Skip to content

Llafar - Tasglu’r Gymraeg mewn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud datganiad ar waith y grŵp gorchwyl ynghylch yr iaith Gymraeg ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fe’i sefydlwyd yn 2000 mewn ymateb i bryderon ynghylch prinder gwasanaethau iechyd a oedd ar gael i gleifion a’u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg. ob dydd, bydd gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau o safon uchel. I lawer o deuluoedd, mae cael gofal o safon uchel yn golygu bod â’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd maent yn teimlo’n fwy cyfforddus yn eu hiaith eu hunain.

Gwn fod derbyn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Gymraeg yn fwy na mater o gydraddoldeb yn unig; mae hefyd yn hollbwysig wrth wneud asesiad clinigol a rhoi triniaeth. Felly, yr wyf i a’r Gweinidog am gryfhau’r ddarpariaeth yn y sector i deuluoedd sy’n siarad Cymraeg.

Mae llawer o bobl yn teimlo’n ansicr iawn pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r sector, ac nid ydynt yn ddigon hyderus i ofyn am wasanaeth Cymraeg. Oherwydd hyn, teimlaf yn gryf fod y cyfrifoldeb i sicrhau gwasanaethau yn y Gymraeg yn cwympo ar ysgwyddau’r sawl sy’n darparu’r gwasanaeth ac nid ar y defnyddiwr. Sefydlwyd y tasglu i roi arweiniad a chyfeiriad i’r gwasanaeth ac i sicrhau fod gwasanaethau drwy gyfrwng eu dewis iaith ar gael i ddefnyddwyr yn gynyddol, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Mae aelodaeth y tasglu yn cynrychioli trawsdoriad o’r gwasanaeth: cyrff statudol a gwirfoddol, darparwyr a rheoleiddwyr. Mae aelodau’r tasglu yn cydnabod bod llawer o waith i’w wneud ac felly penderfynwyd blaenoriaethu’r gwaith ar agweddau personol ar ofal, sef profiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ac ar bedwar grŵp blaenoriaeth sy’n arbennig o fregus, sef plant a phobl ifanc, pobl hŷn, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, a phobl sydd ag anableddau dysgu. Mae’r tasglu hefyd wedi nodi pedair thema allweddol ar gyfer y gwaith: cryfhau gwasanaethau dwyieithog, rhoi arweiniad, datblygu gweithlu dwyieithog, a hwyluso newid. Hoffwn sôn am rai o’r datblygiadau yn y meysydd hyn.

Dangosodd adolygiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg bod gwasanaethau dwyieithog yn cryfhau os oedd ymddiriedolaeth iechyd yn cyflogi swyddog iaith Gymraeg. Oherwydd hyn, gofynnodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i bob ymddiriedolaeth benodi swyddog iaith Gymraeg llawn amser ac i’r byrddau iechyd lleol sefydlu unedau iaith Gymraeg rhanbarthol yn seiliedig ar y model llwyddiannus a oedd yn bodoli’n barod yn y gogledd. Mae peth pryder y byddai lleihau nifer y cyrff yn y gwasanaeth iechyd yn arwain at leihau nifer y swyddogion iaith. Yr wyf yn falch o gyhoeddi heddiw fy mod i a’r Gweinidog wedi cymryd camau i sicrhau na fydd ailstrwythuro’r gwasanaeth iechyd yn cael effaith andwyol ar ein nod o wella gwasanaethau Cymraeg. Mae’r Gweinidog wedi hysbysu prif weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ei bod am gadw’r lefel bresennol o swyddogion iaith yn y gwasanaeth iechyd. Dyna arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth i gryfhau’r gwasanaethau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd.

Rhan bwysig o waith y tasglu yw sicrhau bod yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi arweiniad ar y mater hwn drwy bolisïau a fframweithiau cenedlaethol. Enghraifft ddiweddar o hyn yw’r gwaith a wneir ar y safonau gofal iechyd a’r canllawiau technegol er mwyn cryfhau eu dimensiwn o ran y Gymraeg. Yr wyf hefyd wedi cael trafodaeth gydag Autism Cymru er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio yn y strategaeth awtistiaeth.

Mae’r tasglu wedi gofyn i’r ddwy arolygiaeth ddatblygu canllawiau o ran arolygu gwasanaethau Cymraeg yn y sector. Mae gwaith pwysig hefyd yn mynd yn ei flaen i brif-ffrydio’r Gymraeg mewn rhaglenni cyfrifiadurol fel y cofnod iechyd unigol.

Gwn o brofiad bod gair o gysur yn Gymraeg gan nyrs neu ofalwr yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i lawer o deuluoedd. Am y rheswm hwnnw, mae’r tasglu yn gweld cryfhau sgiliau iaith y gweithlu yn un o’i brif flaenoriaethau. Nododd adroddiad Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar gynllunio’r gweithlu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol fod angen cymryd camau i gynyddu nifer y staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd. Mae’r tasglu yn rhoi sylw i hwn, a bydd yn edrych ar dair elfen: yr angen i ystyried sgiliau iaith Gymraeg wrth recriwtio staff; yr angen i ystyried sgiliau iaith fel rhan o’r broses o gynllunio’r gweithlu; a’r angen i gryfhau’r dimensiwn ieithyddol mewn hyfforddiant cyn-gofrestru. Bydd yr Asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesoldeb dros Ofal Iechyd yn cynnal adolygiad o’r addysg a gynigir yn Gymraeg yn y sector iechyd. Datblygiad sydd i’w groesawu yw’r cyhoeddiad diweddar y bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cwrs therapi iaith a lleferydd dwyieithog i ôl-raddedigion. Mae’r tasglu hefyd wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu canllawiau ar gynllunio sgiliau dwyieithog i’r gwasanaeth.

Yn ddiweddar, cafodd cylch gorchwyl y tasglu ei ymestyn i gynnwys gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â gwasanaethau iechyd. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda’r cynghorydd Meryl Gravell, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd, er mwyn ystyried sut mae’r tasglu yn gweithio gyda’r sector. Bu inni gytuno y byddai’n fuddiol edrych i mewn i’r posibilrwydd o gynnal prosiect peilot ar gryfhau sgiliau dwyieithog y gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rhoddaf fwy o fanylion i chi am hynny cyn bo hir.

I gloi, yr wyf yn falch o allu dweud bod y tasglu yn gwneud gwahaniaeth, ond yr ydym yn cydnabod bod llawer iawn i’w wneud o hyd. Yr oedd adroddiad diwethaf Cyngor Ewrop yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud ond nododd hefyd fod y gwasanaeth Cymraeg yn y sector yn dal i fod yn fater o hap a damwain yn hytrach na’i fod wedi’i seilio ar gynllunio bwriadol. Mae’r tasglu’n rhoi arweiniad a chefnogaeth i’r gwasanaeth ar y mater hwn. Yr wyf yn ffodus fod gennyf aelodau ymroddedig a gwybodus ar y tasglu, ac yr wyf hefyd yn ddiolchgar i uned iaith Gymraeg yr adran iechyd am ei gwaith. Fodd bynnag, yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i’r gweithwyr iechyd a’r gweithwyr gofal cymdeithasol, sef y rheiny sy’n cydnabod bob dydd pa mor bwysig ydyw i bobl allu trafod eu pryderon yn eu hiaith eu hunain. Drwy ddangos parch fel hyn, mae pobl yn wirioneddol yn derbyn gofal o ansawdd uchel.