Skip to content

Llafar - Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Y mae newid yn yr hinsawdd yn parhau’n un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni. Bydd sut yr ydym yn rheoli ein tir—boed hynny’n dir ffermio, yn goedwigoedd neu’n wlypdiroedd—yn hollbwysig o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar reoli tir, ac er mwyn ategu gwaith y Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, yr wyf yn bwriadu sefydlu grŵp defnydd tir a newid hinsawdd Cymru.

Mae ffermio’n gyfrifol am ryw 10 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Mae’r ffigur hwn yn cynyddu’n sylweddol os ystyriwn hefyd brosesu bwyd, manwerthu a gwastraff. Mae patrymau defnydd tir yn bwysig o ran helpu i ddiogelu’r stociau carbon yn ein pridd. Mae un o’n prif storfeydd carbon i’w chanfod ym mhridd ucheldir Cymru—rhwng 400 miliwn a 500 miliwn o dunelli ohono. I bob pwrpas, dyna fersiwn Cymru o’r goedwig law. Rhagwelir y bydd yn rhaid i’r bwyd a gynhyrchir ledled y byd gynyddu 50 y cant erbyn 2030 i ddiwallu anghenion poblogaeth sy’n cynyddu’n fyd-eang. Gyda golwg ar leihau allyriadau, mae’n hanfodol inni sicrhau nad yw’r broses o gynhyrchu mwy o fwyd yn peryglu’r carbon yn ein pridd. Pe bai 3 y cant o’r carbon ym mhridd Cymru’n cael ei ryddhau, byddai’n dyblu cyfanswm ein hallyriadau. Mae’r diwydiant ffermio’n gollwng nwyon tŷ gwydr eraill, a’r amlycaf o’r rhain yw methan o anifeiliaid ac ocsid nitraidd o wrteithiau.

Mae’n rhaid i’n diwydiannau ffermio a choedwigaeth ymateb i effaith y newid yn yr hinsawdd. Mae’n bosibl y bydd tywydd gwael a chlefydau newydd mewn anifeiliaid yn effeithio ar gynhyrchiant y diwydiant ffermio. Yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn o ymddangosiad y dafod las a’i heffaith ddifrifol yn Ewrop yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond yn ogystal â pheryglon newydd, fe ddaw cyfleoedd newydd i’r amlwg hefyd, megis y cyfle i dyfu cnydau newydd.

Yr wyf am i Gymru fod yn wlad bwysig o safbwynt cynhyrchu bwyd ac i gyfrannu at sicrhau cyflenwad bwyd i’r byd. Ond yr her yw cynyddu’r bwyd yr ydym ei gynhyrchu mewn ffordd sydd, drwy arferion cynaliadwy, yn rhoi llai o straen ar yr amgylchedd, ac mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddar, lansiodd Jane Davidson ymgynghoriad ar strategaeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd. Diben yr ymgynghoriad hwn yw ystyried sut allwn ni gyflawni’r addewid yn nogfen 'Cymru’n Un’ i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3 y cant y flwyddyn o 2011 ymlaen. Bydd gan reoli tir ran allweddol i’w chwarae wrth geisio gwireddu’r addewid hwn.
Gall ffermio yng Nghymru weithio ochr yn ochr â’r amgylchedd naturiol. Gellir gwneud hynny drwy addasu arferion ffermio, er enghraifft, drwy ddefnyddio gwrtaith yn fwy effeithlon a rheoli anifeiliaid a thail yn well. Gallai’r arferion hyn fod yn fuddiol i bawb, gan leihau costau yn ogystal ag allyriadau. Pe bai pob ffermwr yn mabwysiadu’r arferion gorau presennol, gallai hynny leihau allyriadau oherwydd ffermio cymaint â 10 y cant. Yn ogystal, drwy blannu coed mewn priddoedd mwynol, gallai ffermwyr gynyddu’r carbon a gaiff ei storio yn y pridd. Mae gan Gyswllt Ffermio ran allweddol i’w chwarae wrth helpu ffermwyr i fabwysiadu’r arferion gorau.

Yr ydym eisoes yn cymryd camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Bydd y rhaglen datblygu newydd ar y newid yn yr hinsawdd yn cael ei lansio yn yr haf fel rhan o Gyswllt Ffermio. Bydd y rhaglen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i reolwyr tir am ddefnyddio dulliau a thechnegau newydd i ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd hefyd yn eu helpu i fanteisio ar ostyngiadau posibl mewn costau, ac ar y cyfleoedd busnes newydd a ddaw i’w rhan.

Fel y gwyddoch, yr wyf wrthi’n adolygu ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol er mwyn sicrhau eu bod yn dod â buddion i’r amgylchedd. Mae hyn yn hanfodol os ydym am fodloni’r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau. Yr wyf yn ddiolchgar i bawb a fynychodd gyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru i fynegi eu barn, ac i’r rhyw 100 o fudiadau ac unigolion a gyflwynodd ymatebion ysgrifenedig. Yr ydym yn dadansoddi’r ymatebion ar hyn o bryd, ac mae’r adolygiad yn cynnwys archwilio rôl bosibl biomas a chnydau ynni adnewyddadwy.

Bydd cynhyrchu bwyd yn lleol hefyd yn dod yn gynyddol bwysig. Mae prynu bwyd yn lleol yn cefnogi ffermwyr lleol ac yn lleihau’r pellter y mae’n rhaid i fwyd deithio. Yn ystod y gwanwyn, byddaf yn lansio cynllun gweithredu cyrchu lleol er mwyn datblygu a hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn lleol.

Yr wyf yn cyhoeddi sefydlu grŵp defnydd tir a newid hinsawdd Cymru heddiw i ystyried sut gall ffermio a defnydd tir addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y grŵp hwn yn edrych ar yr effeithiau, ac ar sut i ymateb i’r cyfleoedd i fusnesau ffermio a choedwigaeth, yn ogystal ag ystyried y bygythiadau. Amcan cyntaf y grŵp yw cynhyrchu adroddiad trafod erbyn yr hydref. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnig camau newydd tuag at gyflawni’r targed o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3 y cant, ac i helpu’r diwydiant ffermio Cymru i fod yn garbon niwtral erbyn 2020.
Bydd y grŵp yn annibynnol ar Lywodraeth y Cynulliad, a rhoddir cymorth technegol iddo gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, gan swyddogion Adran yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, a swyddogion fy Adran Materion Gwledig i. Bydd y cadeirydd yn ymuno â’r comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd, dan arweiniad Jane Davidson, i roi adroddiadau rheolaidd ar gynnydd.

Yr wyf yn ceisio enwebiadau gan sefydliadau allweddol ledled Cymru. Bydd aelodau’r grŵp yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a byddaf yn cyhoeddi enw’r cadeirydd ar ôl dod i wybod pwy yw’r aelodau. Bydd y grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mawrth.

I gloi, mae ein hamcanion yn rhai dewr: lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwneud diwydiant ffermio Cymru’n un carbon niwtral. Er ein bod ni eisoes yn cymryd camau tuag at gyflawni hynny, mae amcanion dewr yn galw am syniadau dewr. Yr wyf yn edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y grŵp defnydd tir a newid hinsawdd newydd yn yr hydref.