Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ar yr Amgylchedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rwy’n falch o hysbysu’r Aelodau fod Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol diwygiedig ar yr Amgylchedd wedi cael ei osod gerbron y Senedd ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, ar ôl cwblhau trafodaeth â Llywodraeth y DU. Bellach caiff y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei ystyried gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a chan y Pwyllgor Cyfansoddiad yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bydd cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig o’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn golygu bod modd i’r craffu cyn y broses ddeddfu ddod i ben, a hynny o flaen y camau cymeradwyo ffurfiol yn y Cynulliad a’r Senedd fel ei gilydd.

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Os caiff y Gorchymyn arfaethedig hwn ei gymeradwyo, bydd yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad mewn tri maes cyffredinol, sef gwastraff, llygredd a niwsans.

Bydd cael cymhwysedd deddfwriaethol yn y meysydd hyn yn ein galluogi i ddeddfu, ar ffurf Mesurau’r Cynulliad, i fynd i’r afael â materion ynghylch gwastraff, llygredd a niwsans. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Aelodau’r Cynulliad a Phwyllgorau’r Cynulliad i ddatblygu cynigion cydlynus a chyfannol ar gyfer deddfwriaeth sy’n seiliedig ar flaenoriaethau ac amserlenni Cymru.

Efallai y bydd yr Aelodau’n cofio mai yn haf 2007 y cyhoeddwyd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf ar yr Amgylchedd, ac y rhoddwyd y cyfrifoldeb i Bwyllgor Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad ystyried y Gorchymyn. Rwy’n hynod ddiolchgar am waith y Pwyllgor hwnnw yn craffu ar y Gorchymyn.

Mae’r gwelliannau i’r Gorchymyn arfaethedig yn esbonio graddau’r cymhwysedd mewn nifer o feysydd. Caiff cwmpas y cymhwysedd, gan gynnwys crynodeb o’r eithriadau, ei ddisgrifio yn y Memorandwm Esboniadol. Rwyf wedi dosbarthu copi o’r Gorchymyn diwygiedig a’r Memorandwm Esboniadol gyda’r datganiad hwn.

Edrychwn ymlaen yn awr i ystyriaeth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o'r Gorchymyn a gobeithiwn y bydd y Pwyllgor yn adrodd cyn toriad yr haf.

Wedi i'r craffu cyn y broses ddeddfu ddod i ben, bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol. Bydd unrhyw Fesurau yn deillio o'r Gorchymyn yn cael eu craffu a'u trafod yn llawn gan y Cynulliad Cenedlaethol.