Skip to content

Ysgrifenedig - Taliadau Cynnal Refeniw Llywodraeth Lleol Rhwng Mis Ionawr a Mis Mawrth 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth

O heddiw ymlaen, rwyf wedi trefnu bod y grant cynnal refeniw a’r incwm ardrethi annomestig a ailddosberthir yn cael eu talu’n gynt i’r awdurdodau unedol ac i awdurdodau’r heddlu yng Nghymru. Am weddill y flwyddyn ariannol hon, bydd yr awdurdodau hyn yn cael eu taliadau misol ar drydydd diwrnod gwaith y mis yn lle ar ail ddydd Llun y mis.

Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdodau’n cael eu prif ffynhonnell o gymorth refeniw oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad bum niwrnod yn gynharach bob mis ar gyfartaledd. Drwy ddarparu’r cyllid hwn yn gynt, bydd yr awdurdodau lleol yn gallu creu incwm ychwanegol er mwyn talu’r costau ychwanegol a fydd yn deillio o’r ffaith bod disgwyl iddynt anelu at dalu anfonebau ymhen deng niwrnod yn lle ymhen deng niwrnod ar hugain.

Cynt penderfynu ar ddyddiadau’r taliadau ar gyfer 2009-10, byddwn yn ystyried a yw hyn wedi bod o fudd gwirioneddol i’r awdurdodau lleol ac a welwyd gwelliant amlwg yn yr amser y mae’r awdurdodau lleol yn ei gymryd i dalu anfonebau.