Mae gennyf ddatganiad pellach i’w wneud ynghylch yr heintiad o’r frech goch sydd, fel y gŵyr Aelodau, wedi codi yng Nghymru.
Adroddodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, am 5 p.m. ar 1 Mehefin 2009, bod 253 o achosion o’r frech goch wedi’u cadarnhau yng Nghymru, gyda 32 o bobl wedi’u hanfon i’r ysbyty. Gŵyr Aelodau y gall y frech goch fod yn glefyd difrifol, a bod brechiad effeithiol ar gael ar ei gyfer. Bu cyngor meddygol yn glir ers sawl blwyddyn bod y cyfrwng mwyaf effeithiol o warchodaeth ar gael drwy’r brechlyn cyfun yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, a elwir yn MMR.
Dengys y ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bod rhoi’r dos cyntaf o MMR i blant dwy oed wedi cynyddu i 89.6 y cant yng Nghymru o 88.4 y cant, a bod rhoi’r ail ddos erbyn i’r plentyn fod yn bump oed wedi cynyddu i 83.4 y cant o 82.3 y cant. Gwelwyd cynnydd hefyd o ran rhoi’r dos cyntaf a’r ail i blant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn un ar bymtheg oed i 92.8 y cant o 92.6 y cant ac i 82.3 y cant o 80.6 y cant, yn eu tro.
Er bod y ffigurau hyn yn galonogol, roedd taeniad brechu ar ei isaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac yng Nghonwy, lle digwyddodd y rhan fwyaf o’r achosion cyfredol. Er bod naw o bob 10 rhiant i blant dwy oed yn fodlon i’r brechiad MMR gael ei roi, ceir 80,000 o blant ysgol yng Nghymru a fethodd un brechiad, neu’r ddau, ac maent yn parhau’n agored i’r risg o ddal y frech goch, clwy’r pennau neu rwbela.
Bu cyfnod, Lywydd, fel y gwyddoch, pan oedd sylw’r wasg wedi’i hoelio ar ymchwil a ddifrïwyd ers hynny, ond a lwyddodd, er hynny, i fwrw amheuaeth dros effeithiolrwydd y brechlyn. Dylai’r rhan fwyaf o’r plant a fethodd un brechiad neu’r ddau fod yn cael eu brechu yn ystod y cyfnod hwnnw. Bryd hynny, galwodd lleiafrif o rieni am frechlynnau unigol yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, ar y sail bod hynny’n cynnig dewis pan deimlent fod pryderon ynghylch diogelwch y brechlyn MMR cyfun. Y cyngor arbenigol a gefais bryd hynny oedd nad oedd dim cysylltiad rhwng y brechlyn MMR a chyflyrau iechyd tymor hir. Ymhellach, byddai gwahanu cydrannau’r brechlyn MMR wedi golygu ymweliadau clinig a brechiadau ychwanegol diangen. Yn y cyfnodau rhwng brechiadau, byddai’r plant hyn wedi bod yn agored i glefydau difrifol. Ceid y risg hefyd na fyddai iechyd y cyhoedd wedi’i warchod gan na fyddai rhai plant yn cwblhau’r cwrs. Nid yw’r cyngor hwn wedi newid ac ers hynny, cafwyd sawl astudiaeth fyd-eang yn cefnogi diogelwch y brechiad MMR. Y ffordd orau o warchod iechyd ein plant a’r gymuned ehangach yw drwy’r brechlyn cyfun yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. I’r gwrthwyneb, ni cheir unrhyw fudd meddygol a gwyddonol o roi brechlynnau sengl—ond ceir y risg o niwed.
Mae oddeutu 40,000 o blant heb gael dim brechlyn MMR o gwbl, ac felly nid oes ganddynt unrhyw warchodaeth petaent yn wynebu’r frech goch, clwy’r pennau neu rwbela. Gwnaethpwyd gwaith helaeth yn 2005-06 i redeg ymgyrch cau’r bwlch drwy Gymru gyfan i frechu’r plant hyn a sefydlu cyfres o gamau i sicrhau y byddai unrhyw blentyn heb warchodaeth a oedd yn cyrraedd oedran ysgol ac yn dechrau neu’n gadael ysgol uwchradd yn cael ei ddynodi a chynnig brechiad iddo/i. Ein bwriad yw sicrhau y manteisir ar bob cyfle i warchod y plant hyn cyn iddynt adael yr ysgol.
Yr oedd yr ymgyrch cau’r bwlch, a mesurau ychwanegol, yn ymateb i heintiad sylweddol o glwy’r pennau a ddechreuodd yn 2003, gan godi i benllanw o oddeutu 5,500 o achosion, gyda 3,757 o achosion yn cael eu cadarnhau mewn labordy. Cynigir brechiadau mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion i fyfyrwyr, ac mewn meddygfeydd i’r rheini nad ydynt mewn addysg. Imiwineiddiwyd cyfanswm o 60,820 gydag un neu ragor o ddosau o MMR. Syrthiodd hysbysiadau o glwy’r pennau i lefelau isel, gydag achosion yng Nghymru’n is nag mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr, a dim ond 14 o achosion a gadarnhawyd yn 2007 ar ei hyd.
Mae’r heintiadau cyfredol o’r frech goch yn deillio o nifer y plant sy’n parhau’n agored i niwed er gwaethaf yr ymgyrch cau’r bwlch a mesurau ychwanegol. Mae timau gwarchod iechyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn gweithio’n glos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol lleol i gefnogi ymdrechion i gyrraedd y plant sydd heb eu brechu mewn ardaloedd lle ceir heintiad. I atgoffa rhieni o ddifrifoldeb y frech goch, yr ydym wedi ailddosbarthu copïau o’r DVD - ‘Imiwneiddio—Pam Bod Rhaid Amddiffyn Ein Plant’ ym mhob ardal lle ceir heintiad, ac yr ydym yn bwriadu anfon copïau i bob ysgol uwchradd yng Nghymru dros y pythefnos nesaf.
Yr ydym hefyd wedi cynhyrchu taflen newydd i helpu rhieni i ddeall y risg sylweddol y mae’r frech goch yn ei achosi. Mae hon yn esbonio y bydd bron pawb sy’n dal y frech goch yn mynd yn sâl, a bod oddeutu un o bob pymtheg yn debygol o fynd ymlaen i ddatblygu cymhlethdodau difrifol. Dechreuir dosbarthu’r taflenni ym mhob rhan o Gymru’n ddiweddarach yr wythnos hon.
Anogaf bawb sydd â phlant a fethodd un brechiad neu’r ddau i gysylltu â’u meddygfa cyn gynted â phosibl. Bydd nyrsys practis, meddygon ac ymwelwyr iechyd yn gallu helpu a thawelu ofnau rhieni ynghylch brechu. Mae’n bwysig gosod mater brechlyn MMR yng nghyd-destun ein llwyddiant yn sicrhau bod rhoi brechiadau plentyndod eraill yng Nghymru yn cwrdd â’n targed o 95 y cant, neu’n rhagori arno. Cyflawnwyd hwnnw drwy broses o ddeialog, trafodaeth a darparu gwybodaeth ddibynadwy sy’n ennyn ymddiriedaeth gyffredinol. Pan fydd gan rieni ffydd yn y wybodaeth sydd ganddynt ar gyfer penderfynu ynghylch brechu eu plant, mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn gweithredu ar y cyngor a dderbyniant.
Mae’r heintiad mwyaf diweddar yn dangos yn glir yr hyn sy’n gallu digwydd pan fydd yr ymddiriedaeth honno’n chwalu. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd parhau a chryfhau’r ymdrechion a wnaethpwyd cyn belled i gywiro’r niwed hwnnw, a’r canlyniadau a all ddilyn pan erys tir i’w adennill. Bydd y camau a amlinellais y prynhawn yma, yr wyf yn sicr, yn helpu i ddod â’r heintiad hwn i ben cyn gynted ag y bo modd. Mae angen inni adfer ffydd y lleiafrif o rieni y gwnaeth eu plant, nad oedd wedi’u brechu, alluogi’r frech goch i ail-sefydlu ei hun fel clefyd endemig.
Dengys ystadegau taeniad brechiad wedi’i werthuso’n gyflym, neu COVER, yn ne-ddwyrain Cymru, bod taeniad uchaf y dos cyntaf ym Mlaenau Gwent, gyda 94.3 y cant, a’r isaf yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful, y naill a’r llall yn 88.6 y cant. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, yr oedd taeniad uchaf y dos cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn 90.8 y cant, a’r isaf yng Ngheredigion, yn 85 y cant. Yng ngogledd Cymru, yr oedd y taeniad dos cyntaf uchaf yn Wrecsam, yn 95.6 y cant, a’r isaf yn sir Ddinbych, yn 88.1 y cant.
Gwyddoch am y galwadau, a’r adroddiadau yn eu cylch yn y wasg, am gyflwyno brechu gorfodol i sicrhau bod y plant agored i niwed hyn yn cael eu hamddiffyn. Mae brechu gorfodol yn bodoli mewn rhai rhannau o’r byd. Er enghraifft, yn rhai o Daleithiau Unedig America, ceir gofyniad i frechu plant cyn dechrau ysgol. Fodd bynnag, ni fu raid gwneud hyn lle cyflawnwyd taeniad uchel drwy ddulliau eraill, megis yn Sweden, Norwy, Denmarc a’r Iseldiroedd.
Yn y DU, mae egwyddor brechu gorfodol eisoes wedi’i derbyn dan amgylchiadau penodol, megis brechiad hepatitis B ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy’n dymuno gweithio mewn meysydd penodol, neu frechiad y dwymyn felen ar gyfer teithio i rai gwledydd. Fodd bynnag, darperir imiwneiddio, ochr yn ochr â gwasanaethau atal a gwella iechyd eraill, ar y cyfan, ar sail caniatâd gwybodus ac awtonomi cleifion. Mae gan bob un o’r pedair gwlad raglen frechu plentyndod y cytunwyd yn ei chylch, ac nid yw brechu gorfodol yn gyson â’r egwyddor graidd y dylid gweinyddu brechlynnau plentyndod rheolaidd ar sail wirfoddol.
Wrth ystyried polisi brechu gorfodol ar gyfer Cymru, byddai angen inni ystyried y materion cyfreithiol ac edrych ar fanteision posibl sicrhau gwell gwarchodaeth o’u cymharu â’r ddadl groch sy’n debygol o ddilyn. Gallai gweithredu a gorfodi polisi o’r fath ar gyfer imiwneiddio rhag MMR dolcio ymddiriedaeth rhieni ar seiliau moesegol, gwleidyddol a chrefyddol, efallai. Yn ogystal â hynny, byddai atal plant sydd heb eu himiwneiddio rhag dechrau’r ysgol yn cael ei weld yn rhywbeth sy’n tarfu ar eu hawl gyffredinol i gael addysg.
Serch hynny, credaf y dylem archwilio’n fanylach yr opsiynau ar gyfer gwneud cwblhau’r broses brechu neu wirio a chofnodi statws brechu yn un o ofynion derbyn plant i feithrinfeydd ac ysgolion. Fodd bynnag, byddai angen imi fod yn siŵr na fyddai perygl i bolisi o’r fath danseilio’r ymddiriedaeth fawr sydd gan y cyhoedd mewn brechu yn awr ac yn sgil hynny bod llai’n cael eu brechu nag sydd ar hyn o bryd.