Skip to content

Llafar - Ddiwedd y Cyfnod Ymgynghori ar Roi’r GIG Newydd ar gyfer Cymru ar Waith

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i roi adroddiad ar y canfyddiadau sy’n deillio o’r ail gyfnod ymgynghori ar ddiwygio’r GIG, a ddaeth i ben ar 25 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cynhaliwyd tri digwyddiad ymgynghori ledled Cymru, a bu dros 120 o randdeiliaid yn bresennol ym mhob un ohonynt. Erbyn y dyddiad cau, yr oeddem wedi cael 413 o ymatebion, ac mae pob un ohonynt wedi’i gyhoeddi’n llawn.

Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth eang o sefydliadau a chyrff cynrychioliadol sydd â diddordeb yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Yr wyf wedi manteisio ar y cyfle i ddarllen pob un o’r ymatebion hyn dros yr wythnosau diwethaf. O’r herwydd, gallaf gadarnhau fy mwriad i fwrw ymlaen, yn amodol ar Orchmynion a rheoliadau cyfreithiol, i sefydlu’r chwe bwrdd iechyd lleol newydd ar ffurf gysgodol o 1 Mehefin 2009, ac i’r cyrff hyn fod yn gwbl weithredol o 1 Hydref 2009. Bwrdd addysgu iechyd lleol Powys yw’r seithfed bwrdd.

Nid proses o uno byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau i greu sefydliad hybrid yw hon; bydd y byrddau iechyd lleol hyn yn gyrff newydd—rhai sydd â diben newydd. Felly, mae’n rhaid iddynt gael byrddau newydd—byrddau sy’n strategol, sy’n gallu gwneud penderfyniadau, arloesi, gweithredu ar y cyd, ac sydd, yn eu hanfod, â chyfrifoldeb i gynnal ysbryd a gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Rhaid i aelodau’r bwrdd ddal y tîm gweithredol yn atebol am gynllunio a darparu’r gwasanaeth, ac am gadw cyswllt yn lleol, gan gyfrannu i’r bwrdd eu profiadau o sector y maent yn ei ddeall, nid dim ond yn ei gynrychioli.

Ceir thema yn yr ymgynghoriad na fydd yn peri syndod i’r Aelodau. Drwyddi draw, mae’r sawl yr ymgynghorwyd â hwy yn cytuno ei bod yn rhaid cadw’r byrddau i faint sy’n caniatáu iddynt fod yn effeithiol ac yn benodol. Fodd bynnag, yr oedd llawer yn dadlau hefyd bod angen rhagor o gynrychiolaeth ar eu buddiannau penodol hwy. Mae ar feddygon eisiau mwy o feddygon, mae ar lywodraeth leol eisiau mwy o leoedd i gynrychiolwyr llywodraeth leol, mae ar y sector gwirfoddol eisiau mwy o gynrychiolaeth i gyrff gwirfoddol, ac mae ar ofalwyr eisiau mwy o leoedd i ofalwyr. Fodd bynnag, nid oes ar neb eisiau i’r byrddau fod yn fwy.

Yr wyf yn gwerthfawrogi bod y tensiynau rhwng cynwysoldeb ac ystwythder wrth wneud penderfyniadau yn bodoli mewn gwirionedd. Mae’n rhaid imi ddod i’r casgliad y bydd maint y byrddau yn aros, fwy na heb, fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori. Mae’r holl fuddiannau allweddol yn cael eu cynrychioli, er nad ar y raddfa y byddai rhai’n dymuno ei gweld.

Fel aelodau o’r bwrdd, bydd gan gynrychiolwyr yr undebau llafur swyddogaeth arbennig o anodd—sef cydbwyso eu swyddogaeth fel aelod corfforaethol, lle byddant yn cael eu rhwymo gan benderfyniadau’r bwrdd, â’u swyddogaeth yn cynrychioli staff sy’n gweithio yn y sefydliadau hyn. Codwyd nifer o bwyntiau pwysig ynghylch manylion swyddogaeth aelodau undebau llafur o’r bwrdd yn ystod yr ymgynghoriad. Byddaf yn trafod rhagor ar y materion hyn yn ystod yr wythnos nesaf.

Awgrymodd nifer o’r rhai a ymatebodd y dylid cynnwys cyfarwyddwr therapïau a gwasanaethau gwyddonol ar y bwrdd. Byddai penodiad o’r fath yn unigryw yn y DU, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd y grwpiau proffesiynol hyn wrth ddarparu iechyd—yn awr a fwyfwy yn y dyfodol. Mae hynny’n fater arall yr wyf yn ei ystyried yn sgil yr ymatebion.

Wrth gwrs, dim ond un ffordd yw aelodaeth o’r bwrdd i fuddiannau a phartneriaid y gwasanaeth iechyd allu codi eu llais a mynegi eu safbwyntiau yn y system newydd. Mae gan lywodraeth leol, er enghraifft, ran uniongyrchol ar y bwrdd cynghori cenedlaethol drwy gyfrwng aelodaeth y Cynghorydd Meryl Gravell, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r un sy’n arwain ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn aelodau allweddol o fyrddau’r cynghorau iechyd cymuned, yn ogystal ag yn ddylanwad o bwys ar y byrddau gwasanaethau lleol ym mhob ardal leol.

Bydd y ddyletswydd statudol ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a strategaethau lles, a chynlluniau plant a phobl ifanc, yn parhau, gan adeiladu ar sail y gwaith sy’n digwydd eisoes mewn partneriaeth a gosod y GIG yn agos at ddinasyddion a’r gymuned. Yn yr un modd ag y bydd y strwythur newydd yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol, felly hefyd y pwysleisiwyd pwysigrwydd y trydydd sector yn rheolaidd yn ystod yr ymgynghoriad. Yr wyf finnau hefyd yn cefnogi hynny eto y prynhawn yma. Mae cyfraniad y trydydd sector yn bwysig oherwydd mae’n adlewyrchu nid yn unig amrywiaeth Cymru fel cenedl, ond y gefnogaeth i’r gwasanaeth iechyd gwladol sydd mor rymus ac sy’n dwyn pobl ynghyd ym mhob rhan o’n gwlad.

Ceir aml i fater arall yr awgrymwyd neu y cymeradwywyd cyfeiriad ar ei gyfer yn sgil yr ymgynghori, ond lle mae angen rhagor o waith manwl yn awr. Yr oeddwn o’r farn y byddai’n ddefnyddiol, o bosibl, i’r Aelodau petawn yn nodi’r meysydd hynny’n gryno y prynhawn yma. Yn gyntaf, gallaf ddweud ein bod wedi cael cefnogaeth i’r awgrym ynghylch fforwm proffesiynol. Gwn y bydd llwyddiant y sefydliadau newydd yn dibynnu ar y cyswllt clinigol cryfaf posibl gyda’r gwasanaethau y maent yn eu darparu a’r penderfyniadau y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud. Ystyriaf fod y fforwm proffesiynol yn ddull canolog o gysylltu â’r proffesiynau gofal iechyd a bydd gwir fantais i drefniadau sy’n dwyn y proffesiynau o fewn pob bwrdd iechyd lleol ynghyd mewn un grŵp. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i’r rhyngwyneb rhwng y fforymau newydd a’r pwyllgorau cynghori statudol sy’n bod ers cyfnod hwy o amser fod yn eglur a rhaid iddynt ategu ei gilydd. Yr wyf wedi gofyn i’m huwch-swyddogion wneud rhagor o waith manwl, fel y gallwn fwrw ymlaen â’r model mwyaf effeithiol ac ymarferol.

 

Mae fy ail fater, sef gwasanaethau arbenigol, wedi symud ymlaen drwy gyfrwng gwaith yr Athro Mansel Aylward, sydd wedi rhoi adroddiad imi ar y swyddogaethau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Gomisiwn Iechyd Cymru ac a ddylai, yn y dyfodol, gael eu cyflawni gan y byrddau iechyd lleol newydd. Erys y gwasanaethau hynny nad oes ond modd eu darparu ar lefel uwch o boblogaeth nag eiddo sefydliadau lleol. Cytunaf â’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad bod yn rhaid trefnu’r rhain ar y cyd drwy gyfrwng y byrddau iechyd lleol newydd. Bydd papur ymgynghori arall ar ddyfodol cydweithredol o’r fath i wasanaethau arbenigol yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Mae arnaf eisiau sicrhau ein bod yn canfod ateb i’r broblem gymhleth hon a fyddai’n ymdrin â’r pryderon sydd wedi codi ynghylch gwasanaethau o’r fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf—pryderon yr wyf, wrth gwrs, wedi’u trafod gyda’r Aelodau o’r blaen.

Yn drydydd, hoffwn ddatgan yn eglur fy mod yn rhannu’r farn a leisiwyd yn ystod yr ymgynghoriad ei bod yn rhaid osgoi dyblygu yn swyddogaethau’r grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid a’r cynghorau iechyd cymuned. Mae gan gynghorau iechyd cymuned swyddogaeth statudol ffurfiol—mae’n rhaid iddynt ddal byrddau iechyd lleol yn atebol ar ran dinasyddion. Mae grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid yn gyrff anstatudol a’u nod yw darparu dimensiwn arall sy’n cynnwys dinasyddion mewn amrywiaeth ehangach o drafodaethau ac yn agor y byrddau i amrywiaeth eang o safbwyntiau. Bydd y broses ymgynghori ar swyddogaeth gryfach y cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol yn dod i ben ganol mis Ebrill. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw, byddaf yn sicrhau y rhoddir rhagor o gyngor er mwyn egluro’r gwahanol gyfraniadau y bydd y ddau fath o grwpiau hynny’n ei wneud er mwyn sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i’r GIG newydd, cydgynhyrchiol yng Nghymru, a fydd wedi’i adnewyddu’n ddemocrataidd.

Yr wyf yn ddiolchgar i bawb a ddaeth i’r digwyddiadau ymgynghori ac a ysgrifennodd ataf i fynegi eu safbwyntiau. Unwaith eto, mae’r ymarfer hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn dyst i’r ysbryd o ddeialog a chyswllt sydd wedi bod wrth graidd y diwygiadau hyn. Rhaid inni fwrw ymlaen yn awr â’r camau gweithredu y mae eu hangen er mwyn gwireddu hyn oll. Bwriadaf ddechrau gosod y Gorchmynion a’r rheoliadau cyfreithiol y mae eu hangen i wneud y newidiadau hyn o fewn y 14 niwrnod nesaf.