Skip to content

Ysgrifenedig - Gweithredu ar Adroddiad Cam-Drin yr Henoed ynglŷn a Gofal Mr Derek Parker yng Nghanolfan Gofal Waverley, Penarth.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Rwyf wedi cael gwybodaeth lawn am yr achos hwn gan Brif Arolygydd Dros Dro AGGCC. Mae Mr Fitzgerald wedi gwneud cwyn ffurfiol am AGGCC trwy God Cwynion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r gŵyn hon yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd. Bydd y Prif Arolygydd yn ystyried canlyniad yr ymchwiliad ac yn darparu mwy o wybodaeth i mi maes o law. Dan yr amgylchiadau hyn, ni fyddai’n briodol i mi ddweud mwy am yr achos hwn ar hyn o bryd. 

 

Amddiffyn Oedolion

 

Rhoddodd swyddogion wahoddiad i Mr Gary Fitzgerald, ‘Gweithredu ar Gam-drin yr Henoed’, ddod i gyfarfod ar 6 Gorffennaf 2009, i drafod gwaith strategol parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Amddiffyn Oedolion.

 

Fel y nodais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 14 Gorffennaf, mae Amddiffyn Oedolion yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth y Cynulliad, ac mae nifer o sefydliadau statudol yn gyfrifol amdano. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y cyrff hyn yn hanfodol, ond mae adrodd am gam-drin yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom, ble bynnag a pha bryd bynnag y mae’n digwydd.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi sefydlu Grŵp Prosiect Amddiffyn Oedolion er mwyn adolygu ei bolisïau cenedlaethol ar amddiffyn oedolion ac i ddarparu argymhellion i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gadarn. Fel rhan o’r broses hon, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o’i brif ganllaw ar amddiffyn oedolion, sef ‘Mewn Dwylo Diogel’. Cynhelir yr adolygiad hwn gan Brifysgol Morgannwg a fydd yn cyflwyno adroddiad yn yr hydref.  

 

Bydd AGGCC yn cynnal arolygiad cenedlaethol o drefniadau amddiffyn oedolion ledled Cymru, gan ddechrau y mis hwn. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried perfformiad pob awdurdod lleol, ac yn cynnwys ymholiad thematig mewn cartrefi gofal. Bydd yr arolygiad yn ystyried y ffordd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o ran amddiffyn oedolion, yn uniongyrchol neu drwy drefniadau gydag eraill. Yn ogystal ag adroddiadau unigol, bydd adroddiad trosolwg cenedlaethol ar amddiffyn oedolion yn cael ei lunio.

 

Byddaf yn ystyried canlyniad yr adolygiad a’r arolygiad hwn, ynghyd ag argymhellion y Grŵp Prosiect yn y gwanwyn, gan gynnwys yr achos dros ddeddfwriaeth ychwanegol, a byddaf yn adrodd i Aelodau’r Cynulliad am fy nghanfyddiadau. 

 

Mae’r gwaith o ddiweddaru’r Canllaw ar swyddogaeth AGGCC fel arolygiaeth integredig ym maes amddiffyn oedolion wedi ei ddatblygu, ac mae’n destun ymgynghoriad gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar hyn o bryd. Cyhoeddir Canllaw diwygiedig yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu rhaglen Urddas mewn Gofal 3 blynedd sy’n cael ei datblygu gan Grŵp Cydgysylltu Cenedlaethol amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol. Mae £100,000 wedi ei neilltuo ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn datblygu’r gwaith hwn drwy gynnal 6 o ddigwyddiadau hyfforddiant ar draws Cymru, yn ogystal ag ar gyfer ariannu nifer o brosiectau llai.