Skip to content

Ysgrifenedig - Benthyca Darbodus a Darpariaeth Isafswm Refeniw

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae'n ofynnol yn statudol i awdurdodau lleol wneud cyfrifiad blynyddol o faint o Ddarpariaeth Isafswm Refeniw sy'n ddarbodus, yn eu tyb nhw, i wneud iawn am y benthyciadau a wnânt o dan reolau Benthyca Darbodus. Nid yw'r ddeddfwriaeth - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifo) (Cymru) (Diwygio) 2008 a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 - yn diffinio "darpariaeth ddarbodus". Gellir ystyried amgylchiadau lleol wrth benderfynu ar hyn. Mae'r ddeddfwriaeth yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol ar arferion cyfrifo, a fyddai'n cynnwys canllawiau ar Ddarpariaeth Isafswm Refeniw.

 

Un o'r materion a gododd o'r trafodaethau agos rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol ynghylch lliniaru effaith y Dirwasgiad oedd y posibilrwydd o ohirio'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw mewn rhyw fodd. Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Leol i gyflwyno a chynnal prosiectau cyfalaf ar adeg o leihad yn y refeniw a derbyniadau cyfalaf.

 

Mae'r canllawiau presennol ar drefniadau cyfrifo Benthyca Darbodus eisoes yn caniatáu ar gyfer gohirio neilltuo'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar asedau seilwaith newydd tan y flwyddyn ar ôl i'r ddarpariaeth gael ei defnyddio yn hytrach na'r flwyddyn ariannol yn dilyn unrhyw fenthyca. Gallai ymestyn sgôp gohirio'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw fod yn fanteisiol o hyd ar gyfer annog cynlluniau cyfalaf llai, sydd wedi'u cyfyngu o ran hyd (er enghraifft prosiectau ailwampio), a allai helpu i gynnal cyflogaeth leol.

 

Wrth roi ystyriaeth i hyn rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o'r angen i gefnogi'r egwyddor o sicrhau darpariaeth ddarbodus ar gyfer ad-dalu dyled, sydd wrth wraidd y trefniadau cyfreithiol cyfredol. Mae fy swyddogion wedi ystyried goblygiadau cyfreithiol unrhyw lacio ar y trefniadau cyfredol ac wedi trafod agwedd ddarbodus unrhyw newid i'r trefniadau cyfredol â Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Yn sgil y trafodaethau hyn rwyf wedi penderfynu gwneud newid cyfyngedig i'r canllawiau presennol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, dim ond os yw hynny'n ddarbodus, i ohirio Darpariaeth Isafswm Refeniw i wneud iawn am fenthyca darbodus newydd a wnaed i ariannu prosiectau cyfalaf a ddechreuwyd a'u cwblhau rhwng y tair blwyddyn ariannol 2008-09; 2009-10 a 2010-11. Ni fyddai'r gohiriad yn gwahardd gwneud Darpariaeth Isafswm Refeniw lawn yn ystod oes ased. Byddai'n golygu gohirio'r angen i gyllidebu ar ei chyfer tan y bydd y flwyddyn ariannol 2011-12 yn dechrau. Ni fyddai'r gohiriad yn gymwys i fenthyca darbodus cyffredinol a wneir i ariannu prosiectau y tu allan i'r fframwaith amser 3 blynedd a gynigais uchod.

 

Dyletswydd yr awdurdodau lleol yw sicrhau darpariaeth ddarbodus. Bernir yr hyn sy'n ddarbodus yng ngoleuni amgylchiadau awdurdodau unigol, felly bydd yn gwahaniaethu. Bydd y canllawiau diwygiedig yr wyf yn eu cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ymgynghori â'u Harchwilydd Penodedig cyn arfer eu disgresiwn ynghylch gohirio. Bydd y canllawiau hefyd yn egluro na fydd y gohiriad yn ymestyn y tu hwnt i 31 Mawrth 2011.